Milwr Cosacaidd Wcreinaidd oedd Danylo Apostol (Wcreineg: Данило Апостол, 14 Rhagfyr 165429 Ionawr 1734) a fu'n Hetman—sef bennaeth ar—Lu Zaporizhzhia o 1727 i 1734.

Danylo Apostol
Portread o Danylo Apostol.
Ganwyd4 Rhagfyr 1654 (yn y Calendr Iwliaidd), 4 Rhagfyr 1658 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Velyki Sorochyntsi Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ionawr 1734 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Velyki Sorochyntsi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiplomydd Edit this on Wikidata
SwyddHetman of Zaporizhian Host Edit this on Wikidata
TadPavlo Apostol Edit this on Wikidata
PriodUljana Іskricʹka Edit this on Wikidata
PlantPetro Apostol, Mariya Horlenko, Pavlo Apostol, Hanna Zhurakivska Edit this on Wikidata
LlinachQ4068112 Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd Sant Alexander Nevsky Edit this on Wikidata

Ganed ef i deulu o swyddogion Cosacaidd ym mhentref Velyki Sorochyntsi (a leolir bellach yn Oblast Poltava, Wcráin), yn rhanbarth hanesyddol Glan Chwith Wcráin—i ddwyrain Afon Dnieper—yn yr Hetmanaeth. Gwasanaethodd yn gyrnol ar gatrawd Myrhorod o 1683 i 1727, gan frwydro'n erbyn yr Ymerodraeth Otomanaidd yn Rhyfel Mawr y Twrc (1683–99) a chyda Tsaraeth Rwsia yn erbyn Ymerodraeth Sweden a'i chynghreiriaid yn ystod cyfnod cyntaf Rhyfel Mawr y Gogledd (1700–08). Yn Nhachwedd 1708, wedi i'r Hetman Ivan Mazepa troi ei gefn ar y Rwsiaid ac ymgynghreirio â Sweden, penderfynodd Danylo gadw'n ffyddlon i'r Tsar Pedr I.[1]

Ym 1722, arweiniodd Danylo fyddin o 10,000 o Gosaciaid yn yr ymgyrch Rwsiaidd yn erbyn Persia. Rhodd Danylo ei gefnogaeth i'r Hetman dros dro Pavlo Polubotok wrth wrthwynebu Colegiwm Rwsia Fechan, a sefydlwyd gan Ymerodraeth Rwsia ym 1722 i weinyddu'r Hetmanaeth. Cafodd Danylo ran mewn Deisebau Kolomak (1723) i alw ar ddiddymu'r colegiwm, ac o'r herwydd fe'i arestiwyd a charcharwyd yng Nghaer y Seintiau Pedr a Pawl, St Petersburg. Diddymwyd y colegiwm o'r diwedd gan y Tsar Pedr ym Medi 1727, ac ar 11 Hydref etholwyd Danylo Apostol yn Hetman Llu Zaporizhzhia gan gyngor y Cosaciaid yn Hlukhiv.[1]

Yn ystod ei lywodraeth, ymdrechodd Danylo i fynnu annibyniaeth yr Hetmanaeth ac i gyfundrefnu ac atgyfnerthu ei sefydliadau. Ym 1728, deisyfodd ar y Rwsiaid i adfer ymreolaeth yn Wcráin ar sail Erthyglau'r Hetman Bodhan Khmelnytsky (1654), a arweiniodd wrthryfel yn erbyn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd yng nghanol yr 17g. O ganlyniad, cyhoeddodd llywodraeth Rwsia Ordinhadau Awdurdodol 1728 i gyfyngu ar awdurdod yr Hetman tra'n caniatáu iddo reoli lled-wladwriaeth awtonomaidd i raddau. Gyda'i rymoedd, aeth Danylo ati i aildrefnu gweinyddiaeth a chyllid yr Hetmanaeth, ac ym 1729–31 cyfarwyddodd arolwg o dirddaliadaeth ar draws y tiriogaeth er mwyn adfeddiannu unrhyw eiddo gwladol a gipiwyd gan dirfeddianwyr preifat. Ym 1728 hefyd sefydlodd Danylo gomisiwn i gyfundrefnu deddfau'r Hetmanaeth—a fyddai'n cyflwyno Côd Cyfreithiau ym 1743—a dwy flynedd yn ddiweddarach fe orchmynnodd i'r llysoedd barn sefydlu dulliau apeliadol. Ceisiodd leihau'r nifer o Rwsiaid yn y weinyddiaeth a'r lluoedd arfog, a chyhoeddodd waharddiad rhag Rwsiaid yn prynu tir o fewn ei ffiniau. Llwyddodd yn ogystal i drosglwyddo awdurdodaeth dros ddinas Kyiv o'r Llywodraethwr Cyffredinol i'r Hetman ac i adennill awdurdod dros y Cosaciaid a fu'n byw dan Chaniaeth y Crimea ers 1708. Rhoddwyd caniatâd i'r Hetmanaeth sefydlu'r Sich Newydd, ond deufis cyn hynny bu farw Danylo Apostol, yn Ionawr 1734, a fe'i claddwyd yn ei bentref genedigol.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), t. 26.