Academi Mohyla Kyiv

Sefydliad addysg uwch a leolid yn Kyiv oedd Academi Mohyla Kyiv (Wcreineg: Києво-Могилянська академія trawslythreniad: Kyievo-Mohylianska akademiia o 1694–1817; gelwid Coleg Mohyla Kyiv o 1632 i 1694). Hwn oedd un o brif ganolfannau deallusol yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol yn ystod y cyfnod modern cynnar yn Nwyrain Ewrop.

Hanes golygu

Ffurfiodd Petro Mohyla Goleg (neu Golegiwm) Mohyla Kyiv ym 1632 drwy gyfuno Ysgol y Frawdoliaeth, a sefydlwyd gan Frawdoliaeth yr Epiffani yn Kyiv ym 1615–16, ag Ysgol Ogof-Fynachlog Kyiv a agorwyd gan Mohyla ym 1631. Nod Mohyla oedd i sefydlu canolfan ddysgedig ar fodel yr academïau mawr yn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, gan gynnig cyrsiau mewn athroniaeth a diwinyddiaeth a goruchwylio rhwydwaith o ysgolion uwchradd, ac i atgyfnerthu addysg Uniongred yn Wcráin drwy gystadlu ag academïau'r Iesuwyr yng Ngwlad Pwyl. Fodd bynnag, rhoddodd y Brenin Władysław IV Vasa ond statws coleg neu ysgol uwchradd i'r sefydliad newydd, a gwaharddodd yr athrawon rhag addysgu athroniaeth a diwinyddiaeth.[1]

Ers y cychwyn, cefnogwyd y coleg yn frwd gan swyddogion Cosaciaid Zaporizhzhia. Derbyniodd ei siarter oddi ar yr Hetman Ivan Petrazhytsky-Kulaha ym 1632.[1] Yn sgil Cytundeb Pereiaslav (1654), daeth yr Hetmanaeth—ac felly'r coleg—dan benarglwyddiaeth Tsaraeth Rwsia. Blodeuai yn enwedig dan arweiniad yr Hetman Ivan Mazepa (teyrnasai 1687—1708). Daeth nifer o ddiwinyddion ac ysgolheigion nodedig i ddarlithio yno, gan gynnwys Inokentii Gizel, Teofan Prokopovych, Stefan Yavrosky, Mykhail Kozachynsky, ac Heorhii Konysky, ac agorwyd canghennau yn Vinnytsia, Hoshcha, Kremianets, ac Iași.[2]

O'r diwedd, ym 1694, ar gais yr Hetman Mazepa, rhoddwyd holl freintiau prifysgol i Goleg Mohyla Kyiv, a fe'i dyrchafwyd i bob pwrpas yn academi. Fodd bynnag, ni chydnabuwyd yr enw Academi Mohyla Kyiv yn swyddogol gan y Tsar Pedr I nes 1701.[1][2] Ym 1700, roedd ganddi ryw 2,000 o fyfyrwyr, ac yn ystod y 18g amrywiodd y nifer o 500 i 1,200 gan amlaf. Sefydlwyd colegau yn Chernihiv (1701), Kharkiv (1726), a Pereiaslav ar fodel Academi Mohyla Kyiv, a dylanwadwyd ar ddatblygiad ysgolion uwchradd yn Rwsia gan draddodiadau'r academi.[2] Caewyd yr academi gan awdurdodau Ymerodraeth Rwsia ym 1817, a sefydlwyd Academi Ddiwinyddol Kyiv yn ei lle. Adferwyd yr academi ar ffurf Prifysgol Genedlaethol Kyiv-Academi Mohyla ym 1991.

Strwythur a rhaglen academaidd golygu

Yn wahanol i ysgolion a cholegau Uniongred eraill, a ddysgodd drwy gyfrwng Slafoneg Eglwysig a Groeg, penderfynodd Mohyla flaenoriaethu'r ieithoedd Lladin a Phwyleg oherwydd pwysigrwydd gwleidyddol ac ysgolheigaidd y rheiny.[1] Lladin oedd prif iaith y darlithoedd.[2] Fodd bynnag, ni esgeuluswyd Slafoneg Eglwysig (yr iaith litwrgïaidd), Groeg (iaith yr hen fam eglwys Fysantaidd), na Rwtheneg (iaith lenyddol yr Wcreiniaid a'r Belarwsiaid) yn llwyr.[1]

Rhennid yr academi yn saith dosbarth, neu ysgol, a gynyddwyd i wyth yn y 18g. Astudiodd myfyrwyr ramadeg Ladin, Bwyleg, a Slafoneg yn ystod y pum dosbarth cyntaf, ac yna rhethreg Ladin a Phwyleg yn y ddau ddosbarth nesaf. Gorffennodd yr efrydiau gyda thair blynedd o athroniaeth Aristotelaidd a phedair blynedd o ddiwinyddiaeth.[2] Gellir ystyried y pum dosbarth cyntaf—pob un yn para am un flwyddyn—yn rhaglen israddedig, ar sail y celfyddydau breiniol:

  • Analog neu fara, dosbarth rhagarweiniol yn canolbwyntio ar elfennau darllen ac ysgrifennu yn yr ieithoedd Lladin, Pwyleg, a Slafoneg;
  • Infima, y dosbarth cyntaf, i ddysgu gramadeg Lladin ar sail y gwerslyfr De Institutione Grammatica Libri Tres gan yr Iesüwr Manuel Álvares;
  • Grammatica, yr ail ddosbarth, i ddysgu cystrawen Lladin, eto yn ôl llyfr Álvares, i ddadansoddi testunau gan Cicero ac Ofydd, ac i ddysgu elfennau gramadeg Groeg;
  • Syntaxis, y trydydd dosbarth, i gyflawni gwersi Álvares, i ddysgu rhagor o'r iaith Roeg, ac i ddarllen Catullus, Fyrsil, Tibullus, ac Esop.

Yn ogystal â'r efrydiau uchod, disgwylid i fyfyrwyr dysgu hefyd rywfaint o rifyddeg, cerddoriaeth, paentio, ac holwyddoreg.[1]

Yn y ddau ddosbarth canolradd, byddai myfyrwyr yn ysgrifennu rhyddiaith a barddoniaeth eu hunain yn Lladin. Parodd y pedwerydd dosbarth am un flwyddyn, a'r pumed dosbarth am ddwy flynedd.

Wrth ddarllen y clasuron, byddai'r myfyrwyr hefyd yn dysgu am hanes, mytholeg Rufeinig, a daearyddiaeth yr Henfyd yn ystod y ddau ddosbarth hwn. Yn y 18g, byddent hefyd yn darllen barddoniaeth faróc yn Bwyleg (Jan Kochanowski, Samuel Twardowski) ac Wcreineg (Ivan Velychkovsky).[1]

Er gwaethaf y gwaharddiad ar addysg athronyddol a diwinyddol yn y coleg yn yr 17g, byddai myfyrwyr gan amlaf yn amgyffred rhywfaint o'r fath feddwl wrth eu hastudiaethau. Ym 1642–46 cynigwyd diwinyddiaeth fel pwnc, ac yng nghanol y 1680au lluniwyd rhaglen gyfan o athroniaeth a diwinyddiaeth fel rhan bwysig o'r cwricwlwm. Dilynwyd y cyrsiau gramadeg a rhethreg gan dair blynedd o resymeg, ffiseg, a metaffiseg, gan sicrhau bod y myfyrwyr wedi eu hymdrochi yn y trifiwm traddodiadol. Aristoteles oedd sail yr athroniaeth hon, er iddi gael ei dysgu drwy gyfrwng sylwebwyr canoloesol yn hytrach na gweithiau efe ei hun. Dysgwyd felly syniadaeth Gristnogol Awstin o Hippo, Tomos o Acwin, Duns Scotus, a Wiliam o Ockham, yn ogystal â dyneiddwyr megis Lorenzo Valla, Juan Luis Vives, ac Erasmus, y diwinydd Protestannaidd Philipp Melanchthon, a'r Iesuwyr Francisco Suárez, Pedro da Fonseca, a Luis de Molina.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 (Saesneg) "Kyivan Mohyla Academy", Internet Encyclopedia of Ukraine. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2022.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 305–06.