Milwr Cosacaidd o Wcráin oedd Ivan Stepanovych Mazepa (sillefir hefyd Mazeppa; 16398 Medi [28 Awst yn yr Hen Ddull] 1709)[1] a fu'n Hetman—sef bennaeth ar—Lu Zaporizhzhia o 1687 i 1708. Fel rhan o Tsaraeth Rwsia, brwydrodd ei lu dros y Gynghrair Sanctaidd yn erbyn yr Ymerodraeth Otomanaidd yn ystod Rhyfel Mawr y Twrc (1683–99) ac ym 1707 rhoddwyd iddo'r teitl Tywysog yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn ystod Rhyfel Mawr y Gogledd (1700–21), trodd Mazepa ei gefn ar y Rwsiaid ac ymgynghreiriodd ag Ymerodraeth Sweden.

Ivan Mazepa
Portread o'r Hetman Ivan Mazepa o'r 19g gan arlunydd anhysbys
Ganwyd20 Mawrth 1639 Edit this on Wikidata
Mazepintsi Edit this on Wikidata
Bu farw21 Medi 1709 Edit this on Wikidata
Bender, Varnița Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, Tsaraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiplomydd, gwleidydd, cadlywydd milwrol Edit this on Wikidata
SwyddPrince of the Holy Roman Empire, Hetman of Zaporizhian Host Edit this on Wikidata
TadAdam-Stefan Mazepa Edit this on Wikidata
MamMariya Mazepa Edit this on Wikidata
PriodHanna Polovets II Edit this on Wikidata
PerthnasauSemen Polovets, Hanna Polevets I Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Mazepa Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd yr Eryr Gwyn, Urdd Sant Andreas Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef ym Mazepyntsi, ger Bila Tserkva (a leolir bellach yn Oblast Kyiv, Wcráin), yn rhanbarth hanesyddol Glan Dde Wcráin—i orllewin Afon Dnieper—yn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd. Tirfeddianwyr bonheddig, yn ddeiliaid i Goron Pwyl, ac yn Gristnogion Uniongred oedd ei deulu.[2] Cafodd ei addysg yng ngorllewin Ewrop, ac aeth yn was i lys Jan Kazimierz, Brenin Pwyl ac Uchel Ddug Lithwania (teyrnasai 1648–68). Dychwelodd i'w fro enedigol ym 1663 ac ymunodd â milwyr Cosacaidd yr Hetmanaeth, yn ystod y cyfnod cythryblus yn hanes Wcráin a elwir "y Distryw". Derbyniwyd Mazepa i wasanaeth Petro Doroshenko, Hetman Llu Zaporizhzhia (t. 1665–76), a chafodd ei ddyrchafu'n gadlywydd ar sgwadron yn 30 oed. Trwy gydol y 1660au a'r 1670au byddai Mazepa yn newid ei deyrngarwch sawl gwaith yn ystod y rhyfela cymhleth rhwng yr amryw hetmaniaid a lluoedd croes y Cosaciaid a'r byddinoedd Otomanaidd, Rwsiaidd, a Phwylaidd a fu'n cystadlu dros reolaeth Wcráin.[1]

Ym 1687 esgynnodd Mazepa ei hun i frig yr Hetmanaeth, ar fynnu'r Tywysog Vasilij Golicyn, prif gynghorwr y Rhaglyw Sophia Alekseyevna (t. 1682–89). Talodd Mazepa y pwyth yn ôl drwy gefnogi ail ymgyrch Golicyn yn erbyn Chaniaeth y Crimea ym 1689 ac arwain 30–40,000 o'i Gosaciaid i frwydro ochr yn ochr â'r Rwsiaid yn erbyn y Tatariaid. Fodd bynnag, methiant a fu'r ymdrech honno i ddarostwng y Crimea, ac ymhen rhyw fisoedd disodlwyd Sophia gan ei hanner brawd Pedr I, Tsar Rwsia. Ar y cychwyn, enillodd Mazepa ffafr Pedr, a bu Llu Zaporizhzhia yn ffyddlon i'r Tsaraeth. Llwyddodd Mazepa i sicrhau ymreolaeth ei Hetmanaeth am ddeng mlynedd, ac aeth ati i adeiladu nifer o eglwysi, llyfrgelloedd, ac ysgolion yn ei diriogaeth. Yn ogystal â'i gampau milwrol, fe'i cofir yn hanesyddol fel noddwr o'r celfyddydau yn Wcráin. Fodd bynnag, byddai Pedr yn codi gwrychyn y Cosaciaid trwy orfodi dyletswyddau newydd arnynt a gadael ei fyddin i gamdrin y werin bobl yn Wcráin. O ganlyniad i'r pechodau hyn—yn ogystal â'i anniddigrwydd oherwydd methiant ei ymdrechion i uno Glan Dde Wcráin â'r Lan Chwith—cynllwyniodd Mazepa i gefnogi Ymerodraeth Sweden wedi cychwyn Rhyfel Mawr y Gogledd ym 1700. Cysylltodd â chylchoedd o blaid Sweden yng Ngwlad Pwyl, ac mewn cudd-drafodaethau â'r Brenin Karl XII ym 1705 cytunodd Mazepa i ddarparu cyflenwadau a milwyr ychwanegol os oedd Sweden am oresgyn Rwsia, ar yr amod byddai'r Swediaid yn caniatáu i wladwriaeth Wcreinaidd unedig ffurfio ffederasiwn â'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd. Cafodd Pedr wybod am deyrnfradwriaeth Mazepa, ond gwrthododd ei choelio, a pharhaodd yr Hetman i esgus ei fod yn ffyddlon i'r Tsar.[2]

Yn Hydref 1708, datgelodd Mazepa o'r diwedd ei gynllwynion gan arwain pum mil o'i Gosaciaid i ymuno â byddin Sweden wrth iddi oresgyn Wcráin. Serch, methiant a fu ymdrechion Mazepa i gynnau gwrthryfel ymhlith y werin Wcreinaidd yn erbyn Rwsia—heb sôn am y Cosaciaid Rwsiaidd a Thatariaid y Crimea, y rheiny yr oedd yn gobeithio ennill i'w achos—a bu'r nifer fwyaf o Gosaciaid Zaporizhzhia yn ffyddlon i'r Tsar.[2] Fe'i disodlwyd yn Hetman Llu Zaporizhzhia gan Ivan Skoropadsky, a chafodd ei esgymuno gan Eglwys Uniongred Rwsia.[3] Ar 8 Gorffennaf 1709, byddai lluoedd Rwsia, gyda'r Cosaciaid ffyddlon dan arweiniad Skoropadsky, yn drech na Sweden a Chosaciaid Mazepa ym Mrwydr Poltava, yr ymladdfa fwyaf a phwysicaf yn y rhyfel. Drannoeth y drin, ffoes yr Hetman Mazepa a'r Brenin Karl, gyda rhyw fil a hanner o'u milwyr, i Dywysogaeth Moldafia, dan dra-arglwyddiaeth yr Otomaniaid. Yno, yn Bendery, Moldafia, bu farw Ivan Mazepa o achosion naturiol ddeufis yn ddiweddarach.

Mae bywyd cythryblus Mazepa a'i benderfyniad i newid ochrau yn ystod Rhyfel Mawr y Gogledd wedi sicrhau lle ei enw yn hanes Wcráin a Rwsia a llên gwerin yr Wcreiniaid. Trwy gydol oesoedd Ymerodraeth Rwsia a'r Undeb Sofietaidd bu Mazepa yn ffigur hynod o ddadleuol yn hanesyddiaeth Wcráin, a châi ei alw o hyd yn fradwr gan nifer o Rwsiaid ac Wcreiniaid.[3] Ers annibyniaeth Wcráin ym 1991, mae mwy o Wcreiniaid yn ei ystyried yn arwr gwladgarol ac yn symbol o genedlaetholdeb Wcreinaidd. Ysbrydolwyd sawl celfyddydwaith gan chwedl amdano sydd yn honni iddo gael ei ddal, ac yntau'n ddyn ifanc, yn cael perthynas ag uchelwraig o Bwyles, a'i gŵr yn ei gosbi trwy ei glymu'n noeth wrth farch gwyllt a'u rhyddhau ar y stepdiroedd. Traddodir y stori hon yn y gerdd Ramantaidd Saesneg Mazeppa (1819) gan yr Arglwydd Byron.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Ivan Mazepa. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Ebrill 2022.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Ivan Stepanovich Mazepa" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 19 Ebrill 2022.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Lindsey Hughes, "Mazepa, Hetman Ivan Stepanovich" yn Encyclopedia of Russian History. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 19 Ebrill 2022.