Darius III, brenin Persia

brenhin Ymerodraeth Achaemenid Persia

Brenin Ymerodraeth Persia rhwng 336 CC a 330 CC a'r olaf o linach brenhinoedd Achaemenid Persia oedd Darius III, Perseg: داریوش Dāriūš, enw gwreiddiol Codomannus (c. 380 CC - 330 CC).

Darius III, brenin Persia
Ganwyd380 CC Edit this on Wikidata
Persis Edit this on Wikidata
Bu farw330 CC Edit this on Wikidata
Bactria Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Ymerodraeth Achaemenaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
SwyddPharo, Shah, satrap Edit this on Wikidata
TadArsames Edit this on Wikidata
MamSisygambis Edit this on Wikidata
PriodStateira, Abandokht Edit this on Wikidata
PlantOchus, Drypetis, Stateira, Ariobarzanes Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinllyn yr Achaemenid Edit this on Wikidata

Yn 338 CC, bu farw ei gefnder, Artaxerxes IV, wedi ei wenwyno gan y rhaglaw Bagoas, gwir reolwr Persia yn y cyfnod hwn. Dewisodd Bagoas roi Codomannus, perthynas i'r teulu brenhinol, ar yr orsedd fel Darius III, ond pan ddangosodd Darius arwyddion a annibynniaeth, ceisiodd ei wynwyno yntau. Wedi darganfod y cynllwyn, gorfododd Darius Bagoas i yfed y gwenwyn ei hun.

Etifeddodd Darius sefyllfa anodd. Roedd gryn Philip II, brenin Macedon yn cynyddu, ac yn 336 CC penododd Cynghrair Corinth ef yn arweinydd hegemon i ddechrau ymgyrch yn erbyn Persia. Llofruddiwyd Philip cyn iddo fedru dechrau'r ymgyrch, ond yn 334 CC arweiniodd ei fab, Alecsander Fawr, fyddin i Asia Leiaf i ddechrau ymgais i goncro Persia, a gorchfygu byddin Bersaidd yn Mrwydr Granicus.

Yn 333 CC daeth Darius i'r maes ei hun, ond ym Mrwydr Issus gorchfygwyd ef a chymerwyd eu deulu yn garcharorion gan Alecsander. Gorchfygwyd ef eto yn 331 CC ym Mrwydr Gaugamela, a ffôdd i Ecbatana tra meddiannodd Alecsander ddinasoedd Babilon, Susa a Persepolis. Gwrthryfelodd Bessus, satrap Bactria, yn erbyn Darius, a'i gymeryd yn garcharor. Ymlidiwyd Bessus gan fyddin Alecsander, ac wrth i'r Maedoniaid ddynesu, llofruddiwyd Darius ar orchymyn Bessus, a'i cyhoeddodd ei hun yn frenin fel Artaxerxes V.

Darius yn ymladd yn erbyn Alecsander Fawr ym Mrwydr Issus
Rhagflaenydd:
Artaxerxes III
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia
336 CC330 CC
Olynydd:
Bessus (Ataxerxes V)
Rhagflaenydd:
Artaxerxes IV
Brenin yr Aifft
336 CC332 CC
Olynydd:
Alecsander Fawr