Darwin Gray

Cwmni cyfreithiol

Mae Darwin Gray yn gwmni cyfreithiol Cymreig gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd a Bangor. Fe’i sefydlwyd yn 2002. Mae’r cwmni wedi’i gofrestru gyda Chymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr.[1]

Darwin Gray
Enghraifft o'r canlynolbusnes Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dechrau/Sefydlu2002 Edit this on Wikidata
PencadlysCaerdydd Edit this on Wikidata
Swyddfa Darwin Grey, 9 Ffordd y Gadeirlan, Caerdydd

Mae'r cwmni wedi derbyn cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg gan Comisiynydd y Gymraeg.[2]

Ym mis Mehefin 2017, Darwin Gray oedd y cwmni cyfreithiol cyntaf yng Nghymru i gael ei achredu am dalu cyflog byw y Living Wage Foundation.[3]

Yn 2022, nododd y cwmni ei ben-blwydd yn 20 oed drwy agor ail swyddfa ym Mangor, Gogledd Cymru.[4] Cafodd y cwmni ei gydnabod hefyd yng nghyfeirlyfr cyfreithiol The Legal 500.[5]

Hefyd yn 2022, enillodd y cwmni wobr ‘Tîm y Flwyddyn’ a gwobr ‘Tîm Cyflogaeth y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Cyfreithiol Cymru 2022.[6] Yn yr un flwyddyn, rhestrwyd Darwin Gray gan The Times yn ei ‘Best Law Firms Guide.’[7][8]

Yn 2023, enillodd y cwmni ‘Tîm Eiddo y Flwyddyn’ a ‘Tîm Cyflogaeth y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Cyfreithiol Cymru 2023.[9][10] Yn yr un flwyddyn, cyrhaeddodd Darwin Gray restr fer Gwobrau ‘Insider Wales Dealmakers’ 2023.[11]

Yn 2024, cyhoeddodd y cwmni ei fod yn dyblu maint ei swyddfa yng Nghaerdydd i ddarparu ar gyfer twf y cwmni.[12][13][14]

Mae Darwin Gray yn gwmni cyfreithiol masnachol gwasanaeth llawn, sy’n golygu ei fod yn cynnig gwasanaethau cyfreithiol i fusnesau, elusennau, sefydliadau ac unigolion ar draws meysydd fel anghydfodau masnachol, cyfraith cwmni/corfforaethol, cyfraith cyflogaeth ac AD, eiddo masnachol, ansolfedd, contractau masnachol, ac ewyllysiau a phrofiant.[15]

Dolenni allannol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "DARWIN GRAY LLP - the Law Society". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-07. Cyrchwyd 2024-09-06.
  2. "Cynnig Cymraeg".
  3. Barry, Sion (June 30, 2017). "The Welsh law firm that now pays the same as Chelsea and Everton" (Press release). http://www.walesonline.co.uk/business/business-news/welsh-law-firm-now-pays-13265427.
  4. Services, Professional (May 23, 2022). "Darwin Gray Celebrates its 20th Anniversary with the Opening of a Second Office in North Wales" (Press release). https://businessne1dev.wpengine.com/darwin-gray-celebrates-its-20th-anniversary-with-the-opening-of-a-second-office-in-north-wales/.
  5. "Darwin Gray Ranked Amongst Top Firms in the UK" (Press release). October 7, 2022. https://businessne1dev.wpengine.com/darwin-gray-ranked-amongst-top-firms-in-the-uk/.
  6. "Legal Awards". waleslegalawards.com.
  7. "Darwin Gray". www.thetimes.com. June 7, 2024.
  8. "Welsh Law Firm Named Amongst The Times Best Law Firms 2023" (Press release). https://www.bbpmedia.co.uk/news/financial-legal/welsh-law-firm-named-amongst-the-times-best-law-firms-2023.html.
  9. "Double Win for Darwin Gray at Wales Legal Awards 2023" (Press release). https://www.bbpmedia.co.uk/news/financial-legal/double-win-for-darwin-gray-at-wales-legal-awards-2023.html.
  10. "Legal Awards". waleslegalawards.com.
  11. "Insider shortlisted Darwin Gray enjoys growth following new hires | Insider Media" (Press release). https://www.insidermedia.com/news/wales/insider-shortlisted-darwin-gray-enjoys-growth-following-new-hires.
  12. "Darwin Gray expands Cardiff office | Insider Media" (Press release). https://www.insidermedia.com/news/north-eastwales/darwin-gray-expands-cardiff-office.
  13. "Darwin Gray Doubles Cardiff Office Space" (Press release). June 4, 2024. https://www.darwingray.com/darwin-gray-doubles-cardiff-office-space/.
  14. Barry, Sion (June 4, 2024). "Law firm Darwin Gray doubles office size to accommodate expansion" (Press release). https://www.business-live.co.uk/professional-services/law-firm-darwin-gray-doubles-29291679.
  15. "Commercial Legal Services".