Datblygu cynaliadwy

(Ailgyfeiriad o Datblygiad cynaliadwy)

Ffurf ar ddatblygu economaidd yw datblygu cynaliadwy sydd yn anelu at gyflawni nodau datblygu dynol tra hefyd yn diogelu ac yn cynnal gallu'r amgylchedd i ddarparu'r adnoddau naturiol a gwasanaethau ecosystemau y mae'r economi a'r gymdeithas yn dibynnu arnynt. Gellir ei diffinio hefyd fel datblygu sydd yn cyflawni anghenion yr oes sydd ohoni heb beryglu galluoedd cenedlaethau'r dyfodol i gyflawni eu hanghenion hwy. Cynigir strategaethau i reoli a datblygu adnoddau cynaliadwy er mwyn ymdopi â'r newid yn y boblogaeth fyd-eang a datblygu anghyson, ac i mynd i'r afael â materion rhyngwladol gan gynnwys anghydraddoldebau economaidd a chymdeithasol, newid hinsawdd a niwed i'r amgylchedd, rhyfel a heddwch, a chyfiawnder byd-eang.

Ymdrechion y Cenhedloedd Unedig

golygu

Ym 1987 cyhoeddwyd Our Common Future, adroddiad Comisiwn Byd y Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd a Datblygu, dan gadeiryddiaeth Gro Harlem Brundtland, sydd yn diffinio datblygu cynaliadwy yn nhermau cyflawni anghenion y cenedlaethau presennol heb amharu ar gallu cenedlaethau'r dyfodol i gyflawni anghenion eu hunain.

Rhoddai'r Cenhedloedd Unedig gefnogaeth yn swyddogol i strategaeth o ddatblygu cynaliadwy yn y Gynhadledd Amgylchedd a Datblygu yn Rio de Janeiro ym 1992 (a adwaenir gan yr enw "Uwchgynhadledd y G8"). Fodd bynnag, ni chafodd y strategaeth ei rhoi ar waith trwy rym y gyfraith. Yn 2015, cytunwyd ar Nodau Datblygu Cynaliadwy gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig gyda'r gobaith o gyflawni, erbyn 2030, y nodau fel a ganlyn:

  1. Dim tlodi
  2. Dim newyn
  3. Iechyd da
  4. Addysg o safon
  5. Cydraddoldeb rhywedd
  6. Dŵr glân a glanweithdra
  7. Ynni glân a fforddiadwy
  8. Gwaith teg a thwf economaidd
  9. Diwydiant, arloesi ac isadeiledd
  10. Lleihau anghydraddoldeb
  11. Dinasoedd a chymunedau cynaliadwy
  12. Treuliant a chynhyrchu cyfrifol
  13. Gweithredu yn erbyn newid hinsawdd
  14. Bywyd y môr
  15. Bywyd y tir
  16. Heddwch, cyfiawnder, a sefydliadau cryf
  17. Partneriaeth i gyflawni'r nodau

Beirniadaeth a gwrthwynebiad

golygu

Mae meddylwyr o safbwynt y ddamcaniaeth werdd wedi beirniadu cysyniad datblygu cynaliadwy, gan ddadlau bod yn rhaid cyfyngu ar dwf economaidd a demograffig yn llym, ac i rwystro effeithiau'r ddynolryw ar yr amgylchedd y tu hwnt i argymhellion y rhai sydd yn arddel datblygu cynaliadwy. Caiff ei herio hefyd gan ysgolheigion ac ymgyrchwyr ym maes gwleidyddiaeth amgylcheddol fyd-eang, oherwydd y gwahanol dybiaethau ynglŷn â'r hyn sydd i'w cynnal, pwy sydd i'w wneud hynny, a thrwy pa dulliau a pholisïau.[1] Daw hefyd gwrthwynebiad i strategaethau penodol, yn enwedig Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, am resymau ideolegol neu ymarferol.

Gweler hefyd

golygu


Cyfeiriadau

golygu
  1. Peter Lamb a Fiona Robertson-Snape, Historical Dictionary of International Relations (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2017), t. 286.

Ffynnonellau eraill

golygu
  • Peter Lamb a Fiona Robertson-Snape, Historical Dictionary of International Relations (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2017).