David Ben-Gurion
Prif weinidog cyntaf Israel oedd David Ben-Gurion (Hebraeg:דָּוִד בֶּן-גּוּרִיּוֹן, ganed fel David Grün (16 Hydref 1886 – 1 Rhagfyr 1973).[1]
David Ben-Gurion | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Давид Йосеф Грин ![]() 16 Hydref 1886 ![]() Płońsk ![]() |
Bu farw | 1 Rhagfyr 1973 ![]() Ramat Gan, Jaffa ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, yr Ymerodraeth Otomanaidd, Palesteina dan Fandad, Israel ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, undebwr llafur, seionydd ![]() |
Swydd | Prif Weinidog Israel, Prif Weinidog Israel, Minister of Defence, Minister of Defence, Aelod o'r Knesset, ysgrifennydd cyffredinol, Education Minister of Israel, Justice Minister of Israel, Minister of Transport and Road Safety, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, President of the Provisional State Council ![]() |
Adnabyddus am | فلسطين ![]() |
Plaid Wleidyddol | Mapai, Rafi, National List ![]() |
Tad | Avigdor Ben Gurion ![]() |
Priod | Paula Ben-Gurion ![]() |
Plant | Amos Ben-Gurion, Renana Leshem, Geula Ben-Eliezer ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Bialik, Ehrendoktor der Universität Tel Aviv, honorary citizen of Jerusalem ![]() |
llofnod | |
![]() |
Ganed Ben-Gurion yn Płońsk, Gwlad Pwyl yn awr, ond yr adeg honno yn rhan o Ymerodraeth Rwsia. Cyfreithiwr oedd ei dad, Avigdor Grün; bu farw ei fam, Scheindel, pan oedd yn 11 oed. Roedd y teulu yn gefnogwyr brwd i Seioniaeth. Ymfudodd Ben-Gurion i Balesteina yn 1906, a bu'n gweithio mewn amaethyddiaeth yno ar y dechrau. Yn 1912 symudodd i Istanbul i astudio'r gyfraith, a newidiodd ei gyfenw i Ben-Gurion.
Ar y pryd roedd Palesteina yn rhan o'r Ymerodraeth Otomanaidd, ac yn 1915 taflwyd ef o'r wlad oherwydd ei weithgareddau gwleidyddol, Ymsefydlodd yn Efrog Newydd, lle priododd Paula Munweis yn 1917. Yn dilyn Datganiad Balfour yn Nhachwedd 1917, ymunodd a Lleng Iddewid y fyddin Brydeinig. Dychwelodd i Balesteina, oedd yn awr dan reolaeth Brydeinig, ar ddiwedd y rhyfel. Daeth yn amlwg yn y mudiad cenedlaethol a'r Yishuv (y gymuned Iddewig ac egin wladwriaeth Iddewig ym Mhalesteina cyn annibyniath), gan ddod yn ysgrifennydd y mudiad llafur Iddewig Histadrut, ac o 1930 ymlaen yn arweinydd Mapai, y blaid lafur Seionaidd.
Cyhoeddodd Ben Gurion sefydliad gwladwriaeth Israel ar 14 Mai 1948, a daeth yn Brif Weinidog y wlad newydd. Bu ganddo ran amlwg yn y rhyfel rhwng Israel a'r gwledydd Arabaidd a ddilynodd. Heblaw am gyfnod o ddwy flynedd rhwng 1954 a 1955, bu yn y swydd hyd 1963.[2] Ymddiswyddodd yn 1963, a dilynwyd ef gan Levi Eshkol. Ffraeodd ag Eshkol y flwyddyn wedyn, a ffurfiodd blaid newydd, Rafi, a enillodd ddeg sedd yn y Knesset. Ymddeolodd o wleidyddiaeth yn 1970.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Ben‐Gurion Is Dead at 87; Founding Father of Israel". New York Times (yn Saesneg). 2 Rhagfyr 1973.
- ↑ Anita Shapira (25 Tachwedd 2014). Ben-Gurion: Father of Modern Israel (yn Saesneg). Yale University Press. t. 173. ISBN 978-0-300-18273-6.