David Charles III
Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd David Charles III (23 Gorffennaf 1812 – 13 Rhagfyr 1878).
David Charles III | |
---|---|
Ganwyd | 23 Gorffennaf 1812 |
Bu farw | 13 Rhagfyr 1878 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Tad | Thomas Rice Charles |
Mam | Marian Jones |
Fe'i ganwyd yn y Bala, yn fab i Thomas Rice Charles a Maria ei wraig (ac yn wyr i Thomas Charles). Dechreuodd ei addysg yn y Bala ac yn y Waun, ac wedi treulio peth amser yn ddisgybl i reithor Llanycil, fe'i derbyniwyd i Goleg yr Iesu, Rhydychen, yn 1831, a graddiodd yn B.A. yn 1835. Yna dychwelodd i Gymru, ac ar y cyd gyda'i frawd-yng-nghyfraith, Lewis Edwards, aeth ati i gychwyn ysgol yn y Bala yn 1837 mewn llofft ty, ac yna yn 1839 mewn dau dy annedd yn ymyl y Capel Methodistaidd yn 1839. (Tri deg mlynedd wedi sefydlu'r ysgol hon, adeiladwyd cartref parhaol "Coleg y Bala", ac o fewn 20 mlynedd arall, hyfforddwyd 640 o weinidogion yr efengyl ynddi ar gyfer eglwysi a chapeli ardaloedd eang y Gymru wledig.)
Yn ystod 1839 hefyd y priododd David ei wraig gyntaf, Kate Roberts o Gaergybi, ac fe'i hordeiniwyd i gyflawn waith y weinidogaeth gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1841 a chael ei benodi yn brifathro Coleg Trefeca, Talgarth, Powys. Bu yno am 20 mlynedd. Yna yn 1863 cafodd alwad i fod yn fugail eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Abercarn, sir Fynwy. Ar ól pum mlynedd yno, cymerodd ran gyda'r gwaith trefnu ar gyfer agor Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth yn 1872, ac wedi penodiad T. C. Edwards, ei nai, yn brifathro, ymddeolodd o'r swydd. Priododd ei ail wraig, Mary yn 1846, merch Hugh Jones o Lanidloes a gweddw Benjamin Watkins, a bu iddynt dri o blant. Ef hefyd oedd llywydd Cymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd yn 1869, ac yn ddiweddarach dychwelodd i fyw i ganolbarth Cymru yn Aberdyfi. Bu farw ar 13 Rhagfyr 1878, gan adael gweddw ac un ferch, ac f'ei claddwyd yn Llanidloes.
Ffynonellau
golygu- Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, xx, 28;
- Y Traethodydd, 1893;
- D. E. Jenkins, Life of Thomas Charles, Dinbych, 1908, iii, 645;
- Foster, Alumni Oxonienses