David Daniel Davis
Ffisegwr (meddyg) o Gymru oedd David Daniel Davis M. D. F. R. C. P. (15 Mehefin 1777 – 4 Rhagfyr 1841) a anwyd yn Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin.
David Daniel Davis | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mehefin 1777 Llandyfaelog |
Bu farw | 4 Rhagfyr 1841 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | meddyg, rhwymwr llyfrau |
Cyflogwr |
|
Astudiodd ym Mhrifysgol Glasgow gan dderbyn ei ddoethuriaeth yn 1801.[1] Dechreuodd weithio fel meddyg yn Sheffield, tra'n byw yn Paradise Square o 1803 i 1812.[2]
Genedigaeth Victoria
golyguYmsefydlodd yn Llundain, ac yn 1813 cafodd ei ethol i swydd yn ysbyty ''Queen Charlotte Lying-in Hospital''.[3] Yn y rôl hon, ym 1819, roedd yn dyst i enedigaeth merch Duges Caint sef y Frenhines Victoria.
Cyhoeddi
golyguYn 1806 cyfieithodd lyfr dylanwadol Philippe Pinel sef Traité médico-philosophique sur l'aleniation mentale; ou la manie gyda'r teitl Saesneg Treatise on Insanity.[4]
Yn 1827, etholwyd ef yn athro cyntaf mewn Bydwreigiaeth yn y Brifysgol yn Llundain. Yn ei astudiaeth o obstetreg, ceisiodd Davis wella offerynnau a ddefnyddid i helpu i roi genedigaethau a chyhoeddodd yn eang am y pwnc, gan gynnwys Elfennau gweithredol Bydwreigiaeth (1825) ac Egwyddorion ac arferion obstetreg... mewn merched a phlant (1836).[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Moore, Norman; rev Baigent, Elizabeth (2004). "Davis, David Daniel (1777–1841)". Oxford Dictionary of National Biography. Oxford: Oxford University Press.
- ↑ "Memorial Plaque to David Daniel Davis". Public Art in Sheffield. Public Art Research Archive, Sheffield Hallam University. Cyrchwyd 2008-12-24.
- ↑ Gateway, UM-Medsearch (1841). "David Daniel Davis obituary". The Lancet: p. 384. doi:10.1016/s0140-6736(02)84467-1. https://books.google.com/?id=gfsBAAAAYAAJ.
- ↑ Pinel, Philippe (1806). A Treatise on Insanity. Translated from the French by D.D. Davis M.D. Sheffield: W. Todd. ISBN 0-89093-167-4.
- ↑ Bower, Fay (2003). "David D. Davis’s Obstetric Textbook and Atlas.". Australian and New Zealand Journal of Obstetrics and Gynaecology 43 (5): 338–340. doi:10.1046/j.0004-8666.2003.00114.x. PMID 14717306. http://www.ranzcog.edu.au/collections/pdfs/Davis-Obstetric-Textbook-and-Atlas.pdf. Adalwyd 2017-11-16.