Llandyfaelog

pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llandyfaelog. Saif ar y briffordd A484 rhwng Cydweli a Chaerfyrddin gerllaw Afon Gwendraeth Fach. Enwir y pentref ar ôl Sant Tyfaelog.

Llandyfaelog
The Red Lion Inn - Llandyfaelog - geograph.org.uk - 1244555.jpg
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTyfaelog Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7819°N 4.2958°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000516 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Am y pentref o'r un enw ym Mhowys, gweler Llandyfaelog Tre'r-graig.

Heblaw am bentref Llandyfaelog ei hun, mae'r Gymuned yn cynnwys Cwm-ffrwd, Glanmorlais, Idole, Pentrepoeth, Croesyceiliog, Bancycapel a Cloigyn. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y Gymuned boblogaeth o 1,272 gyda 71.88% ohonynt yn siarad Cymraeg.

Cynrychiolir Llandyfaelog yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandyfaelog (pob oed) (1,304)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandyfaelog) (727)
  
56.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandyfaelog) (986)
  
75.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llandyfaelog) (205)
  
37.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanolGolygu