David Elis

offeiriad, bardd, cyfieithydd, ac adysgrifwr llawysgrifau

Ysgolhaig a chyfieithydd oedd David Elis (31 Awst 1736 – Mai 1795). Roedd yn frodor o blwyf Dolgellau ym Meirionnydd, Gwynedd.

David Elis
Ganwyd31 Awst 1736 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bu farw1795 Edit this on Wikidata
Cricieth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, offeiriad Edit this on Wikidata

Bywgrafiad golygu

Offeiriad Anglicanaidd oedd David Elis wrth ei alwedigaeth. Cafodd ei addysg brifysgol yn Rhydychen. Gwasanaethodd fel curad mewn sawl plwyf ar draws gogledd Cymru a dim ond ym mlwyddyn olaf ei oes y cafodd ei ordeinio'n Berson, a hynny yn Llanberis, lle bu farw yn 1795.[1]

Cyfieithodd sawl llyfr ar bynciau crefyddol o'r Saesneg i'r Gymraeg, ond fe'i cofir yn bennaf am ei waith fel copïwr llawysgrifau Cymreig. Mae llawer o'r rhain ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac maent yn cynnwys rhai testunau na fyddent ar gael heddiw heb lafur David Elis.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfieithiadau:

  • Gwybodaeth ac Ymarfer o'r Grefydd Gristionogol gan Thomas Wilson (1774)
  • Llawlyfr o weddïau ar achosion cyffredin gan James Merrick (1774)
  • Histori yr Iesu Sanctaidd gan William Smith (1776)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.