Trecynon

pentref yn Rhondda Cynon Taf

Pentref ger Aberdâr ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Trecynon.

Trecynon
Neuadd y dref a'r llyfrgell
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7212°N 3.4563°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN995035 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Beth Winter (Llafur).[2]

Eglwys San Ffagan, Trecynon

Yn Nhrecynon y codwyd yr 'Hen Dŷ Cwrdd', y capel Anghydffurfiol hynaf yng Nghwm Cynon. Sefydlwyd y capel gwreiddiol yn 1751 a chafodd ei adeiladau yn 1862. Nid yw'n cael ei ddefnyddio fel addoldy erbyn heddiw, ond mae'n adeilad rhestredig Graddfa 1.[3]

Mae Parc Aberdâr, a agorwyd yn 1869, yn atyniad lleol poblogaidd.

Ysgolion

golygu

Lleolir campws Aberdâr o Goleg Morgannwg ar gyrion gogleddol y pentref. Sefydlwyd Ysgol Ramadeg i Fechgyn Aberdâr (Aberdare Boys' Grammar School) yn Threcynon yn 1896. Erbyn heddiw, ar safle newydd, mae'n cael ei adnabod fel Ysgol Gyfun i Fechgyn Aberdâr. Ceir dwy ysgol elfennol yn y pentref hefyd, ar safleoedd cyfagos, sef Ysgol Babanod Comin ac Ysgol Gynradd Comin.

Enwogion

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Nodiadau am y capel a lluniau". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-26. Cyrchwyd 2009-04-21.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.