David Glyn Bowen

gweinidog a diwinydd aml-ffydd

Roedd David Glyn Bowen (29 Tachwedd 1933 - 15 Mai 2000) yn Gweinidog a diwinydd Cymreig.[1]

David Glyn Bowen
Ganwyd29 Tachwedd 1933 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mai 2000 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, diwinydd, cenhadwr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Bowen yn Abertawe, yn blentyn i Henry Bowen a Violet (née Beynon) ei wraig, roedd ei rieni yn cadw siop groser. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Abertawe a Phrifysgol Caerdydd, lle cafodd gradd B.A. yn Hebraeg ym 1955. Ar ôl Prifysgol Caerdydd aeth i Goleg Annibynwyr Aberhonddu, am dair blynedd gan raddio efo gradd B.D. Yn Aberhonddu dysgodd Cymraeg hefyd o dan hyfforddiant Pennar Davies, prifathro'r coleg. O Aberhonddu parhaodd ei addysg ym Mhrifysgol Princeton, New Jersey, lle enillodd radd M.Th.

Gyrfa golygu

Wedi dychwelyd o'r Unol Daleithiau ordeiniwyd Bowen yn Weinidog yr Annibynwyr ym 1960 a derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar gapel Saesneg Castle Street, Tredegar, Sir Fynwy. Ar ôl rhyw dair blynedd yn Nhredegar derbyniodd alwad i fod yn genhadwr. O dan nawdd Cymdeithas Cenhadol Llundain aeth i Orllewin Samoa lle fu'n gwasanaethu fel pennaeth ar goleg diwinyddol yn Malua ar Ynys Upolu.

Dychwelodd Bowen i ynysoedd Prydain ym 1968 a chael ei benodi yn Brifathro ar ysgol yn Stepney, Bwrdeistref Tower Hamlets, Llundain. Bu hefyd yn gweithio fel gweinidog ar eglwys annibynnol yn Debden, Essex.

Ym 1973 penodwyd Bowen yn ddarlithydd mewn astudiaethau crefydd yng Ngholeg Hyfforddi Bradford, lle y bu hyd ei ymddeoliad ym 1999.

Roedd Bowen yn ymddiddori ym mherthynas Cristionogaeth a chrefyddau eraill y byd a chyhoeddodd nifer o lyfrau ar y pwnc gan gynnwys:

  • Hinduism in England (1981)
  • The Sathya Sai Baba Hindu Community in Bradford (1988)[2]
  • Seers & Sages (ar y cyd a'r Athro Syed Hasan Askari) (1991)[3]

Teulu golygu

Ym 1963 priododd Bowen â Gerda Hofmaier. Bu iddynt dau fab

Marwolaeth golygu

Bu Bowen farw o Ganser yn 63 mlwydd oed, amlosgwyd ei weddillion yn Bradford.

Cyfeiriadau golygu

  1. "BOWEN, DAVID GLYN, (1933-2000), gweinidog a diwinydd aml-ffydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-04.
  2. Bowen, David (1988). THE SATHYA SAI BABA COMMUNITY IN BRADFORD (PDF). Leeds: Department of Theology and Religious Studies University of Leeds.
  3. ""SEERS & SAGES" COMPILED BY HASAN ASKARI / DAVID BOWEN". Spiritual Human. Mai 2012. Cyrchwyd 2021-06-04.