David Gwynn

chwarewr rygbi'r undeb

Roedd David 'Dai' Gwynn (28 Rhagfyr 18618 Mawrth 1910) yn asgellwr rhyngwladol rygbi'r undeb Cymreig a chwaraeodd rygbi'r clwb ar gyfer Clwb Rygbi Abertawe a rygbi sirol i Swydd Gaerhirfryn. Chwaraeodd Gwynn dros dîm rygbi cenedlaethol Cymru ar chwe achlysur.

David Gwynn
Ganwyd28 Rhagfyr 1861 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mawrth 1910 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r gynghrair, dyfarnwr criced, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertawe, Oldham R.L.F.C. Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganed Gwynn yn Abertawe, yn fab i Thomas Gwynn, saer llongau a Mary ei wraig. Roedd yn frawd i William Gwynn, a chwaraeodd rygbi rhyngwladol i Gymru hefyd.[1]. Mewn cyfnod pan nad oedd chwaraewyr rygbi yn cael eu talu i chwarae'r gêm, enillodd ei gyflog trwy weithio fel clerc i gwmni brocer llongau. Ni fu'n briod.[2]

Gyrfa rygbi golygu

Gwnaeth Gwynn ei ymddangosiad clwb cyntaf ar gyfer Abertawe ym 1878 ac ym 1882 roedd yn rhan o drydydd tîm cenedlaethol Cymru. O dan gapteniaeth Charles Lewis, hon oedd y gêm gartref gyntaf a chwaraewyd gan Gymru, a daeth y gêm ar faes St. Helen i ben mewn colled arall gan Gymru i'r Saeson. Dyma oedd gêm ryngwladol olaf Gwynn am ychydig dros bedair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, chwaraeodd ei frawd dros Gymru bum gwaith ac ni chwaraeodd y brodyr erioed yn yr un tîm cenedlaethol gyda'i gilydd. Pan ddewiswyd Gwynn eto, roedd ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1887 mewn gêm yn erbyn yr Alban. Cafodd Gwynn ei hun ar yr ochr wnaeth colli am yr eildro a bu'n rhaid iddo aros tair blynedd arall cyn iddo gael ei ddewis i chwarae dros ei wlad eto. Pan ail ddewiswyd Gwynn fe'i dewiswyd i wynebu Lloegr fel rhan o Bencampwriaeth 1890, a welodd Cymru'n curo'r Saeson am y tro cyntaf erioed, diolch i gais gan William Stadden. Olynwyd hyn gan gêm gyfartal yn erbyn yr Iwerddon fel rhan o'r un twrnamaint.

Chwaraeodd Gwynn ddwy gêm arall i Gymru, gemau'r Alban ac Iwerddon o Bencampwriaeth 1891. Symudodd Gwynn i ogledd Lloegr a chwaraeodd Rygbi i glwb Oldham. Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd i droi allan ar gyfer tîm Abertawe pan allai. Ymunodd William McCutcheon ag ef a oedd hefyd yn chwarae dros Abertawe a fu hefyd yn cynrychioli Swydd Gaerhirfryn gyda Gwynn ar lefel sirol. Pan adawodd Gwynn y gamp rygbi, daeth yn gysylltiedig â Chlwb Criced Abertawe gan wasanaethu fel dyfarnwr i'r clwb.

Gemau rhyngwladol golygu

Cymru[3]

Newid Cod golygu

Pan newidiodd Oldham o chwarae rygbi'r undeb i'r chwarae rygbi'r gynghrair ar 29 Awst 1895, byddai David Gwynn tua 34 mlwydd oed. O ganlyniad, mae'n bosib ei fod wedi bod yn chwarae rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair i Oldham.

Marwolaeth golygu

Bu farw o ganser yr ymennydd yn nhloty Abertawe yn 48 mlwydd oed.[4] Rhoddwyd ei weddillion i orffwys gyda'i rieni a William ei frawd ym mynwent Cheriton, Penrhyn Gŵyr.[5]

Llyfryddiaeth golygu

  • Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Penybont ar Ogwr: seren. ISBN 1-85411-262-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau golygu

  1. Yr Archif Genedlaethol; Cyfrifiad 1871 ar gyfer Cheriton, Penrhyn Gŵyr, Abertawe. Cyfeirnod RG10/ 5456, Ffolio 75, Tudalen 10
  2. "DEATH OF MR DAI GWYNN ANOTHER SWANSEA FOOTBALL VETERAN GONE. THE CLUB TO CARRY OUT FUNERAL ARRANGEMENTS - The Cambrian". T. Jenkins. 1910-03-11. Cyrchwyd 2020-10-03.
  3. Smith (1980), pg 466.
  4. "DEATH OF DAI GWYNN - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1910-03-09. Cyrchwyd 2020-10-03.
  5. "DAI GWYNN LAID TO REST - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1910-03-11. Cyrchwyd 2020-10-03.