David Hughes Parry

cyfreithiwr, cyfreithegwr, gweinyddwr prifysgol

Cyfreithiwr a gweinyddwr prifysgol oedd Syr David Hughes Parry (3 Ionawr 18938 Ionawr 1973). Roedd yn Athro yn y Gyfraith ac yn Is-Ganghellor Prifysgol Llundain rhwng 1945 a 1948. Ef hefyd oedd sylfaenydd Sefydliad Uwchefrydiau Cyfreithiol y brifysgol ym 1947.

David Hughes Parry
Ganwyd3 Ionawr 1893 Edit this on Wikidata
Llanaelhaearn Edit this on Wikidata
Bu farw8 Ionawr 1973 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr, swyddog Edit this on Wikidata
Swyddllywydd corfforaeth Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Fe'i ganed ar 3 Ionawr 1893, yn ail blentyn a mab hynaf i John Hughes Parry, ffermwr, a'i wraig Anne, yn Uwchlaw'r-ffynnon, Llanaelhaearn, Gwynedd. Astudiodd economeg a'r gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a graddio mewn economeg gyda dosbarth cyntaf ym 1914. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf listiodd fel milwr cyffredin gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig; fe'i dyrchafwyd yn is-gapten yn ddiweddarach. Gwasanaethodd gyda'r gatrawd yn ffosydd Ffrainc, lle cafodd anafiadau a'i plagiodd weddill ei oes. Ar ôl y Rhyfel, astudiodd y gyfraith yng ngholeg Peterhouse, Caergrawnt. Ym 1922 fe'i galwyd i Far y Deml Fewnol. Ond yn hytrach na thrin y gyfraith yn y llysoedd aeth i'r byd academaidd, a bu'n ddarlithydd yn adran y gyfraith yn Aberystwyth ac wedyn yn Ysgol Economeg Llundain, lle y daeth yn athro cadeiriol 1930. Ym Mhrifysgol Llundain, daliodd lawer o swyddi pwysig gan gynnwys yr is-ganghellor (1945–8) a chadeiryddiaeth y llys (1962–70).

Ym 1923, priododd Haf, unig ferch Syr Owen Morgan Edwards a'i wraig Ellen.

Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 golygu

Cadeiriodd Hughes Parry bwyllgor a gyhoeddodd Arolwg a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU dan bwysau rhwng 1963 ac 1965, gan Gymry amlwg a Chymdeithas yr Iaith i ymchwilio i statws yr iaith Gymraeg yng Nghymru.[1] Roedd y Ddeddf yn seiliedig ar 'Arolwg Hughes-Parry'. Cyhoeddwyd yr Arolwg yn 1965. Argymhellodd statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn llysoedd Cymru ac adrannau gweinyddol y wlad. Fodd bynnag gwrthododd y llywodraeth Brydeinig nifer o'i argymhellion pwysig ac roedd y Ddeddf yn adlewyrchiad gwan o'r Arolwg ei hun.

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Parry, R. G., (2012). PARRY, Syr DAVID HUGHES (1893-1973), cyfreithiwr, cyfreithegwr, gweinyddwr prifysgol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 4 Ion 2024, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c8-PARR-HUG-1893

Dolen allanol golygu