David Ivon Jones
Ymgyrchwyr gwrth-apartheid o Gymru ac un o sylfaenwyr Plaid Gomiwnyddol De Affrica oedd David Ivon Jones (18 Hydref 1883 – 13 Ebrill 1924).
David Ivon Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1882 Aberystwyth |
Bu farw | 13 Ebrill 1924 Yalta |
Galwedigaeth | undebwr llafur |
Plaid Wleidyddol | Labour Party, South African Communist Party |
Fe'i ganwyd yn Aberystwyth. Fe'i magwyd fel Methodist Calfinaidd ond yn ei arddegau fe ddaeth yn Undodwr dan ddylanwad syniadau George Eyre Evans. Yn ystod ei 20au, cafodd Jones y diciâu ac yn 1907 ymfudodd i Seland Newydd gan obeithio elwa o'r hinsawdd yno.
Ym mis Tachwedd 1910 symudodd i Gweriniaeth Rydd yr Oren yn Ne Affrica lle gweithiodd mewn siop ei ddau frawd. Yn 1911 ymunodd â Phlaid Lafur De Affrica (SALP) ac yn 1914 daeth yn ysgrifennydd cyffredinol iddi. Fe'i gwthiwyd ymhellach i gyfeiriad Marcsiaeth gan weithredoedd gormesol yr awdurdodau a throdd ei gefn ar Gristionogaeth. Yn 1915 gadawodd y Blaid Lafur ac ymunodd â'r gynghrair Sosialaidd Rhyngwladol (1915) a threuliodd weddill ei oes yn hybu cydraddoldeb hiliol ac yn ymladd yn erbyn gwladychiaeth a chyfalafiaeth. Daeth Jones yn olygydd papur newydd wythnosol yr ISL The International a ddefnyddiodd i gefnogi Lenin a'r Bolsieficiaid. Yn 1917 chwaraeodd ran flaenllaw yn ffurfio undeb llafur holl-ddu cyntaf De Affrica, yr Industrial Workers of Africa (IWA). Dechreuodd rai o'r dosbarthiadau nos cyntaf i weithwyr Affricanaidd.
Oherwydd ei afiechyd, ymddiswyddodd Jones o'r ISL yn 1919. Gweithiodd am gyfnod byr ym Mosambic lle cafodd falaria. Yn 1920 dychwelodd i Ewrop. Fe'i gwahoddwyd i gyngres y Comintern ym Moscfa yn 1921. Sefydlwyd Plaid Gomiwnyddol De Affrica yn y flwyddyn honno. Er nad oedd Jones yn gallu dychwelyd i Dde Affrica y cafodd ei gydnabod fel un o sylfaenwyr y blaid. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn yr Undeb Sofietaidd. Dysgodd Rwsieg a daeth yn un o'r bobl gyntaf i gyfieithu gweithiau Lenin i'r Saesneg.
Plac coffa
golyguAr wal y Capel Bach, Y Stryd Newydd, Aberystwyth (a oedd yn gapel Undodaidd yn gynnar yn yr 20g), mae plac coffa wedi'i gysegru i Jones:
"Yma addolodd David Ivon Jones 1883–1924 ffigwr allweddol yn hanes hawliau sifil a'r A.N.C. yn De Affrica"
Llyfryddiaeth
golygu- Baruch Hirson a Gwyn A. Williams, The Delegate for Africa: David Ivon Jones, 1883–1924 (Llundain, 1995)