David Lloyd (deon Llanelwy)

deon Llanelwy

Clerigwr a bardd o Gymru oedd David Lloyd (1597 - 7 Medi 1663).

David Lloyd
Ganwyd1597 Edit this on Wikidata
Llanidloes Edit this on Wikidata
Bu farw7 Medi 1663 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethclerig, bardd Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni yn y Berthlwyd, ym mhlwyf Llanidloes yn 1597 yn fab i David Lloyd ac yn nai i Oliver Lloyd, Deon Eglwys Gadeirlan Henffordd o 1617. Cofir Lloyd yn bennaf fel awdur gwatwargerdd o'r enw The Legend of Captain Jones, a gyhoeddwyd yn 1631.[1][2][3][4]

Graddiodd yn Hart Hall, Rhydychen, ar 22 Mehefin 1615, a'i ethol yn gymrawd All Souls College yn y dref honno ar 9 Mai 1618, a derbyniodd radd Bachellor mewn Cyfraith Sifil yn 1622 ac yna'n Ddoethor yn 1628. Cafodd ei wneud yn gaplan i William Stanley, 6ed iarll Derby; cafodd hefyd ei wneud yn ganon o Eglwys Gadeiriol Xaer yn 1639 a'i ddyrchafu'n rheithor Trefdraeth, Ynys Môn ar 2 Rhagfyr 1641. Pan ymddiswyddodd o'r swydd honno symudodd i Langynhafal, Dyffryn Clwyd ar 21 Rhagfyr, gan ddod yn ficar ym mhentref Llanfair Dyffryn Clwyd, ger Rhuthun.

Cyfeiriadau

golygu
  1.   Seccombe, Thomas (1893). "Lloyd, David (1597-1663)" . In Lee, Sidney (gol.). Dictionary of National Biography. 33. Llundain: Smith, Elder & Co. tt. 415–416.
  2. Dyddiad geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  3. Dyddiad marw: https://biography.wales/article/s-LLOY-DAV-1597. Y Bywgraffiadur Cymreig. dyddiad cyrchiad: 9 Ionawr 2019.
  4. Man geni: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.