David Tecwyn Lloyd
beirniad llenyddol, llenor, addysgydd
Awdur Cymraeg oedd David Tecwyn Lloyd, yn ysgrifennu fel D. Tecwyn Lloyd (22 Hydref 1914 – 22 Awst 1992). Weithiau defnyddiodd y ffugenw E. H. Francis Thomas.
David Tecwyn Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 22 Hydref 1914 Sir Feirionnydd |
Bu farw | 22 Awst 1992 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, ysgrifennwr, addysgwr |
Priod | Frances Killen |
Bywgraffiad
golyguGaned ef yng Nglan-yr-afon ger Corwen; roedd Robert Lloyd (Llwyd o'r Bryn) yn ewythr iddo. Addysgwyd ef yn Ysgol Tytandomen, Y Bala, a Phrifysgol Bangor, lle graddiodd yn y Gymraeg. Bu'n darlithio i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr, yna'n ddarlithydd a llyfrgellydd Coleg Harlech, cyn dod yn gyfarwyddwr cwmni cyhoeddi Hughes a'i Fab.
Yn 1961, symudodd i Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Aberystwyth, lle bu'n gweithio dan Alwyn D. Rees. Bu'n olygydd y cylchgrawn Taliesin o 1965 hyd 1987.
Cyhoeddiadau
golygu- Erthyglau Beirniadol (1946)
- Safle'r Gerbydres (1970)
- Lady Gwladys a Phobl Eraill (1972)
- Bore Da, Lloyd (1980)
- Cymysgadw (1986)
- Cofio Rhai Pethau (1988)
- John Saunders Lewis (1988)
Yn ysgrifennu fel E. H. Francis Thomas:
- Rhyw Ystyr Hud (1944)
- Hyd Eithaf y Ddaear a Storïau Eraill (1972)
Astudiaethau
golygu- Elwyn Edwards (gol.), Bro a Bywyd: D. Tecwyn Lloyd 1914-1992 (Cyhoeddiadau Barddas, 1997)
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Ysgfrif goffa, The Independent, 4 Medi 1992 Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback