Robert Lloyd (Llwyd o'r Bryn)
eisteddfodwr, diddanwr ac amaethwr
Awdur Cymraeg, beirniad ac eisteddfodwr brwd oedd Robert Lloyd, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Llwyd o'r Bryn (29 Chwefror 1888 – 28 Rhagfyr 1961). Mae ei lyfr adnabyddus Y Pethe yn llawn o ddisgrifiadau ac atgofion o'i fro enedigol a'i chymdeithas drwyadl Gymraeg.
Robert Lloyd | |
---|---|
Ffugenw | Llwyd o'r Bryn |
Ganwyd | 29 Chwefror 1888 Llandderfel |
Bu farw | 28 Rhagfyr 1961 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ysgrifennwr |
Ganed Llwyd o'r Bryn ar fferm ei rieni rhwng Cefnddwysarn a Llandderfel, ger Y Bala, Meirionnydd, yn 1888. Gweithiodd ar fferm ei dad a daeth ei brofiad o fyd amaeth a diwylliant anghydffurfiol y fro yn ddylanwad mawr arno. Bathodd y term 'Y Pethe', teitl ei gyfrol enwog, i gynrychioli'r traddodiad gwerinol Cymraeg diwylliedig a'i werthoedd gorau.
Llyfryddiaeth golygu
- Y Pethe (1955)
- Diddordebau Llwyd o'r Bryn (1967). Casgliad o'i lythyrau hunangofiannol, golygwyd gan Trebor Lloyd Evans
- Adlodd Llwyd o'r Bryn (1983). Golygwyd gan ei ferch Dwysan Rowlands.