David Woodard
Mae David Woodard (ganwyd 6 Ebrill 1964) yn ysgrifennwr ac arweinydd cerddorfa o'r Unol Daleithiau. Yn ystod yr 1990au bathodd y term “prequiem,” cyfuniad o’r geiriau “preemptive” ac “requiem,” er mwyn disgrifio’i ymarferiad Bwdhaidd o gyfansoddi cerddoriaeth ymroddedig i’w ddatganu yn ystod neu cyn marwolaeth ei destun.[1][2]
David Woodard | |
---|---|
Ganwyd | 6 Ebrill 1964 Santa Barbara |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, arweinydd, llenor |
Arddull | Ôl-foderniaeth |
Priod | Sonja Vectomov |
Gwefan | https://www.davidwoodard.com |
llofnod | |
Mae’r gwasanaethau cofio yn Los Angeles y mae Woodard wedi gwasanaethu fel arweinydd neu gyfarwyddwr cerddoriaeth yn cynnwys seremoni ddinesig yn 2001 yn rheilffordd ffwnicwlar Angels Flight, sydd bellach wedi ei chau, er mwyn anrhydeddu Leon Praport, a fu farw o ganlyniad damwain, a’i gweddw anafedig Lola.[3][4]:125 Bu’n arwain offerennau dros y meirw ar gyfer bywyd gwyllt hefyd, gan gynnwys un ar gyfer Pelican brown California a oedd ar frig traeth lle roedd yr aderyn wedi disgyn.[5][6]:152–153
Mae Woodard yn adnabyddus ar gyfer ei replicâu o’r Dreamachine, sef lamp seicoweithredol gwan, sydd wedi cael ei arddangos mewn amgueddfeydd celf ar draws y byd. Yn Yr Almaen a Nepal, mae’n adnabyddus am ei gyfraniadau i’r siwrnal lenyddol Der Freund, gan gynnwys ysgrifeniadau ar karma rhyng-rhywogaethau, cydwybodaeth planhigion a’r aneheddiad Nueva Germania, Paragwâi.[7]
Addysg
golyguDerbynodd Woodard ei addysg yn The New School for Social Research a Phrifysgol California, Santa Barbara.
Nueva Germania
golyguYn 2003 cafodd Woodard ei etholi’n gynghorydd yn Juniper Hills (Los Angeles County), Califfornia. Yn y swydd yma, cynigiodd sefydlu perthynas gefeilldref gyda Nueva Germania, Paraguay. Er mwyn symud ymlaen a’i gynllun, teithiodd Woodard i’r cyn-iwtopia ffeminist / llysieuwyr a cwrdd a’i arweinyddiaeth bwrdeistrefol. Yn dilyn yr ymweliad cychwynnol yma, penderfynodd beidio parhau a sefydlu’r perthynas ond darganfu testun astudiaeth o fewn y gymuned ar gyfer ysgrifeniadau ddiweddarach. Yr hyn sydd yn ei diddori’n benodol yw’r syniadau ‘prototranshumanist’ y cynlluniwr ddyfaliadol Richard Wagner ac Elisabeth Förster-Nietzsche, a fu ynghyd a’i gŵr Bernhard Förster, yn sefydlu ac yn byw yn y cytref rhwng 1886 ac 1889.
Rhwng 2004 ac 2006 bu Woodard yn arwain nifer o alldeithiau i Nueva Germania, gan ennill cefnogaeth is-lywydd yr UDA Dick Cheney.[8] Yn 2011 rhoddodd Woodard ganiatad i’r nofelydd Swisaidd Christian Kracht gyhoeddi eu gohebiaeth personol, gyda’r rhan helaeth ohono i wneud â Nueva Germania,[9]:113–138 mewn dau gyfrol o dan wasgnod Brifysgol Hanover, Wehrhahn Verlag.[10]:180–189 O ran y llythyrau, mae Frankfurter Allgemeine Zeitung yn dweud, “Mae Woodard a Kracht yn dileu’r ffin rhwng bywyd a chelf.”[11] Mae Der Spiegel yn awgrymu mai’r gyfrol cyntaf, Five Years,[12] yw’r “gwaith ysbrydol paratoadol” ar gyfer nofel ddilynol Kracht Imperium.[13]
Yn ôl Andrew McCann, “Bu Kracht yn cyd-deithio gyda Woodard ar daith i weld yr hyn sydd ar ôl o’r safle, lle mae disgynyddion yr anheddwyr gwreiddiol yn byw mewn amgylchiadau sydd wedi eu ddirywio’n fawr. Fel mae’r cyfatebiaeth yn amlygu, bu Kracht yn cytuno â dymuniad Woodard i ddatblygu proffil ddiwylliannol y gymuned, ac i adeiladu tŷ opera Bayreuth bach ar gyn safle cartref teuluol Elisabeth Förster-Nietzsche.”[14] Yn ystod y blynyddoedd ddiweddar, mae Nueva Germania wedi newid i fod yn gyrchfan fwy hynaws, gyda gwestai gwely a brecwast ac amgueddfa hanesyddol dros dro wedi eu hagor.
Dreamachine
golyguRhwng 1989 ac 2007, adeiladodd Woodard replicâ o’r Dreamachine,[16][17] dyfais strobosgopig a greuwyd gan Brion Gysin ac Ian Sommerville a oedd yn cynnwys silindr copr neu papur â holltau ynddo, yn troelli o gwmpas lamp trydanol—wrth edrych arno gyda llygaid ar gau gall y dyfais achosi egwyriannau meddyliol sydd yn debyg i’r profiad o ddefnyddio cyffur feddwol neu’r brofiad o freuddwydio.[n 1] Wedi iddo gyfrannu Dreamachine i osodiad LACMA William S. Burroughs’, Ports of Entry,[18][19] yn 1996, bu Woodard yn datblygu perthynas a’r awdur ac yn cyflwyno Dreamachine ‘Bohemaidd’ wedi ei wneud o bapur iddo ar gyfer ei benblwydd olaf yn 83 mlwydd oed.[20][21]:23 Fu Sotheby’s yn arwerthu’r peiriant blaenorol i casglwr preifat yn 2002, ac mae’r peiriant diwethaf i’w weld yn Amgueddfa Celf Spencer, lle mae’n cael ei fenthyca’n hir dymor gan Stad Burroughs’.[22]
Cyfeiriadau a nodiadau
golyguNodiadau
golygu- ↑ Yn 1990 fu Woodard yn dyfeisio peiriant seicoweithredol ffug, y Feraliminal Lycanthropizer, a oedd yn arwain at effeithiau sydd i’w weld yn wrthwynebol i’r rhai a achoswyd gan Dreamachine.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Carpenter, S., "In Concert at a Killer's Death", Los Angeles Times, Mai 9, 2001.
- ↑ Rapping, A., Portread o Woodard (Seattle: Getty Images, 2001).
- ↑ Reich, K., "Family to Sue City, Firms Over Angels Flight Death", Los Angeles Times, 16 Mawrth 2001.
- ↑ Dawson, J., Los Angeles' Angels Flight (Mount Pleasant, De Carolina, UDA: Arcadia Publishing, 2008), tud. 125.
- ↑ Manzer, T., "Pelican's Goodbye is a Sad Song", Press-Telegram, Hydref 2, 1998.
- ↑ Allen, B., Pelican (Llundain: Reaktion Books, 2019), tt. 152–153.
- ↑ Carozzi, I., "La storia di Nueva Germania", Il Post, Hydref 13, 2011.
- ↑ Epstein, J., "Rebuilding a Home in the Jungle", San Francisco Chronicle, Mawrth 13, 2005.
- ↑ Schröter, J., "Interpretive Problems with Author, Self-Fashioning and Narrator", mewn Birke, Köppe, golygyddion, Author and Narrator (Berlin: De Gruyter, 2015), tt. 113–138.
- ↑ Woodard, D., "In Media Res", 032c, Haf 2011, tt. 180–189.
- ↑ Link, M., "Wie der Gin zum Tonic", Frankfurter Allgemeine Zeitung, Tachwedd 9, 2011.
- ↑ Kracht, C., & Woodard, Five Years (Hannover: Wehrhahn Verlag, 2011).
- ↑ Diez, G., "Die Methode Kracht", Der Spiegel, Chwefror 13, 2012.
- ↑ McCann, A. L., "Allegory and the German (Half) Century" Archifwyd 2016-10-09 yn y Peiriant Wayback, Sydney Review of Books, Awst 28, 2015.
- ↑ Chandarlapaty, R., "Woodard and Renewed Intellectual Possibilities", yn Seeing the Beat Generation (Jefferson, NC: McFarland & Company, 2019), tt. 142–146.
- ↑ Allen, M., "Décor by Timothy Leary", The New York Times, Ionawr 20, 2005.
- ↑ Stirt, J. A., "Brion Gysin's Dreamachine—still legal, but not for long", bookofjoe, Ionawr 28, 2005.
- ↑ Knight, C., "The Art of Randomness", Los Angeles Times, 1 Awst, 1996.
- ↑ Bolles, D., "Dream Weaver", LA Weekly, Gorffennaf 26—Awst 1, 1996.
- ↑ Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau, Prague, "Literary Centenary", Hydref 2014.
- ↑ Woodard, "Burroughs und der Steinbock", Schweizer Monat, Mawrth 2014, tud. 23.
- ↑ Amgueddfa Gelf Spencer, Dreamachine, Prifysgol Kansas.
Dolenni allanol
golygu- Cyfryngau perthnasol David Woodard ar Gomin Wicimedia
- Wikiquote (Saesneg) — gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i David Woodard
- (Saesneg) Gwefan swyddogol