Deddf Adalw Aelodau Seneddol 2015
Mae Deddf Adalw Aelodau Seneddol 2015 yn Ddeddf a basiwyd gan Senedd y Deyrnas Unedig sy'n gwneud darpariaeth i etholwyr allu adalw eu Haelod Seneddol (AS) a galw isetholiad. Cafodd Gydsyniad Brenhinol ar 26 Mawrth 2015 ar ôl ei gyflwyno ar 11 Medi 2014. [1]
Yn wahanol i weithdrefnau adalw mewn rhai gwledydd eraill, nid yw'r Ddeddf yn caniatáu i etholwyr gychwyn achos. Yn hytrach, dim ond os ceir AS yn euog o gamwedd sy'n bodloni meini prawf penodol y caiff achos ei gychwyn. Mae'r ddeiseb yn llwyddiannus os bydd o leiaf un o bob deg o bleidleiswyr yn llofnodi. Mae deisebau llwyddiannus yn gorfodi'r AS a adalwyd i roi'r gorau i'w sedd, gan arwain at isetholiad.
Cefndir
golyguCyn pasio'r ddeddf, nid oedd unrhyw fecanweithiau i adalw Aelodau Seneddol (ASau) yn y DU. Mae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1981 yn gorfodi unrhyw AS a ddedfrydwyd i garchar am fwy na blwyddyn i ymadael a'i sedd. Gellid rhoi pwysau ar ASau sy'n ymwneud â sgandalau neu a gafwyd yn euog o droseddau llai i ymddiswyddo, ond nid oedd mecanwaith i orfodi ymadawiad AS cyn etholiad cyffredinol.
Roedd y cefnogwyr ar gyfer cyflwyno mecanweithiau galw'n ôl yn cynnwys y grŵp pwyso 38 Degrees ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr . [2] [3] Ymrwymodd llywodraeth glymblaid y DU yng Nghytundeb Clymblaid 2010 i gyflwyno deddf adalw. [4] Yn dilyn sgandal treuliau seneddol y Deyrnas Unedig, ymddiswyddodd nifer o ASau a oedd wedi eu cael yn euog o gamymddwyn ar ôl achosion llys cysylltiediger enghraifft Eric Illsley, bu i'w ymddiswyddiad achosi isetholiad Barnsley Canolog yn 2011, a Denis MacShane, a achosodd Isetholiad Rotherham 2012. Roedd yr achosion hyn yn cael eu defnyddio gan gefnogwyr adalw fel esiamplau o'r angen i ganiatáu pleidleiswyr "ddiswyddo" ASau sy'n torri'r rheolau. [5] [6] [7]
Ym mis Mehefin 2012, cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol Diwygio Gwleidyddol a Chyfansoddiadol ei adroddiadau ar y broses adalw, gan restru ugain o gasgliadau ac argymhellion a oedd yn cynnwys y farn y gallai "system adalw lawn atal ASau rhag gwneud penderfyniadau sy'n amhoblogaidd yn lleol neu'n amhoblogaidd yn y tymor byr, ond sydd o bwysigrwydd cenedlaethol neu hirdymor.
Manylion y Ddeddf
golyguMae Adran 1 yn nodi'r amgylchiadau lle byddai Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn cychwyn y broses adalw, sef:
- Dedfryd o garchar am flwyddyn neu lai—roedd dedfrydau hwy eisoes yn anghymwyso ASau yn awtomatig heb angen deiseb;
- Diarddeliad dros dro o'r Tŷ am o leiaf 10 diwrnod eisteddiad neu 14 diwrnod calendr, yn dilyn adroddiad gan y Pwyllgor Safonau;
- Dedfryd am ddarparu hawliad treuliau ffug neu gamarweiniol.
Y broses adalw
golyguUnwaith y cyflawnir un o'r amodau a amlinellir yn y Ddeddf, mae'r Llefarydd yn hysbysu swyddog deisebau'r etholaeth (y swyddog canlyniadau neu'r swyddog canlyniadau gweithredol fel arfer). Yna mae'n ofynnol i'r swyddog deisebau wneud y trefniadau ymarferol ar gyfer y ddeiseb er mwyn agor yr achos o fewn deg diwrnod gwaith ar ôl hysbysiad y Llefarydd. Mae hyn yn cynnwys dewis hyd at ddeg lleoliad arwyddo lle gall deisebwyr lofnodi'n bersonol, mae'r rhain yn gweithredu mewn modd tebyg i orsafoedd pleidleisio etholiadol. [8] Fel gyda phleidleisiau mewn etholiadau, gall pleidleiswyr lofnodi drwy'r post neu drwy ddirprwy . [9] Mae ymgyrchu dros neu yn erbyn adalw AS yn cael ei reoleiddio gan gyfyngiadau gwariant. [8]
Mae'r ddeiseb yn parhau ar agor am chwe wythnos. [8] Nid yw'r swyddog deisebau yn adrodd unrhyw gyfrif parhaus ac ni ddatgelir a gyrhaeddwyd y trothwy gofynnol o 10% o bleidleiswyr cymwys tan ddiwedd cyfnod y ddeiseb. Yn ystod cyfnod y ddeiseb mae'r AS yn parhau i fod mewn swydd. Os yw'r ddeiseb yn llwyddiannus, daw'r sedd yn wag ac mae gweithdrefnau isetholiad yn dechrau. [8]
Os bydd yr Aelod Seneddol yn gadael y sedd, neu os gelwir etholiad cyffredinol, mae'r broses o adalw'n troi'n ofer ac mae'r ddeiseb yn dod i ben. [8]
Deisebau adalw a wnaed o dan y Ddeddf
golyguSenedd | Deiseb | AS | Achos | Canlyniad |
---|---|---|---|---|
57fed | 2018 Deiseb adalw Gogledd Antrim | Ian Paisley iau | Ataliad 30 diwrnod o'r Tŷ | Aflwyddiannus (9.4%) |
2019 Deiseb adalw Peterborough | Fiona Onasanya | Dedfryd o garchar am lai na blwyddyn | Llwyddiannus (27.6%), yn sbarduno isetholiad Peterborough 2019 | |
2019 Deiseb adalw Brycheiniog a Sir Faesyfed | Christopher Davies | Euogfarn am ddarparu hawliadau treuliau ffug neu gamarweiniol | Llwyddiannus (18.9%) [10], yn sbarduno Is-etholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed, 2019 | |
58fed | 2023 Deiseb adalw Rutherglen a Gorllewin Hamilton | Margaret Ferrier | Ataliad o'r tŷ am 30 diwrnod am dorri rheolau cyfnod clo COVID-19 | Llwyddiannus (14.66%)[11] |
2023 Deiseb adalw Wellingborough | Peter Bone | Ataliad o'r tŷ am 6 wythnos am gyflawni llawer o weithredoedd amrywiol o fwlio ac un weithred o gamymddwyn rhywiol yn erbyn aelod gwrywaidd o'i staff | Llwyddiannus (13.2%) |
Dihangfa Rob Roberts
golyguYn 2020 sefydlwyd panel newydd i ymdrin â chwynion yn erbyn ASau o fwlio, aflonyddu neu gamymddwyn rhywiol, sef Y Panel Arbenigol Annibynnol.[13] Ym mis Mai 2021 dyfarnodd y Panel Arbenigol bod Rob Roberts AS Delyn wedi aflonyddu'n rhywiol ar aelod o'i staff. Cafodd Roberts ei gosbi trwy ei ddiarddel o Dŷ'r Cyffredin am 6 wythnos a bu alw am ei adalw o dan Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015.[14] Gan nad oedd y ddeddf wedi ei ddiweddaru i gynnwys diarddeliadau ar awgrym Y Panel Arbenigol Annibynnol cafodd Roberts ddihangfa rhag ei adalw. [15]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Recall of MPs Act 2015 - Legislation PDF" (PDF). The Stationery Office. Cyrchwyd 23 Mai 2015.
- ↑ ONE DOWN TWO TO GO – NICK CLEGG ACCEPTS OUR CALL FOR A RIGHT TO RECALL YOUR MP Archifwyd 2014-02-24 yn y Peiriant Wayback 38Degrees
- ↑ NUS launches "Right to Recall" campaign Archifwyd 2019-07-22 yn y Peiriant Wayback NUS
- ↑ Impact Assessment Right to Recall Parliament.uk
- ↑ Voters to get right to sack 'bad apple' MPs as Labour and Lib Dems back stronger Recall powers The Daily Telegraph
- ↑ Public could get right to sack misbehaving MPs The Daily Telegraph
- ↑ Zac's Campaign for True Recall Archifwyd 2014-09-24 yn y Peiriant Wayback Zac Goldsmith MP
- ↑ 8.0 8.1 8.2 8.3 8.4 Library, House of Commons (2018-08-10). "The first use of a 'recall petition' in the UK". House of Commons Library. Cyrchwyd 2019-03-26.
- ↑ McCormack, Jayne (2018-08-16). "Ian Paisley recall petition opens". Cyrchwyd 2019-03-26.
- ↑ "Welsh Tory MP unseated after petition". BBC News. 21 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2019.
- ↑ Newyddion BBC yr Alban "Margaret Ferrier: Covid breach MP loses seat after recall petition" cyrchwyd 1 Awst 2023
- ↑ Peter Bone MP loses seat as recall petition triggers by-election Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2023
- ↑ UK Parliament-Independent Expert Panel adalwyd 26 Hydref 2021
- ↑ BBC Rob Roberts: Conservative MP told staffer to be 'less alluring' adalwyd 26 Hydref 2021
- ↑ BBC Recall petition for MP Rob Roberts would be wrong, says watchdog adalwyd 26 Hydref 2021