Is-etholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed, 2019
Cynhaliwyd isetholiad ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed i ethol Aelod Seneddol ar gyfer Senedd y Deyrnas Gyfunol ar 1 Awst 2019. Galwyd yr isetholiad ar ôl i Chris Davies, a oedd wedi dal sedd y Ceidwadwyr ers etholiad cyffredinol 2015, gollir'r sedd drwy ddeiseb.[1][2] Enillwyd yr isetholiad gan Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Enghraifft o'r canlynol | is-etholiad Seneddol y Deyrnas Unedig |
---|---|
Dyddiad | 1 Awst 2019 |
Mae sedd gyda'r un enw (Brycheiniog a Sir Faesyfed) a'r un ffiniau'n bodoli i ethol Aelod Cynulliad i Gynulliad Cymru ac a gynrychiolwyd yn 2019 gan Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol (ers ei chreu ym 1999).[3]
Roedd yr isetholiad o bwys mawr drwy'r Deyrnas Gyfunol, gan ei bod yng nghanol stormydd gwleidyddol Brexit. Mae'r etholaeth yn gorwedd o fewn sir Powys, ac yn etholiad Senedd Ewrop 2019, y Blaid Brexit enillodd y nifer fwyaf o bleidleisiau.[4] Roedd Boris Johnson hefyd newydd gael ei benodi'n Brif weinidog gyda mwyafrif o ddau.
Cefnogwyd Dodds, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, hefyd gan Plaid Cymru, y Gwyrddion, Change UK a'r Blaid Adnewyddu. Dywedodd arweinwyr Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ei bod hi'n bwysig fod pleidiau sydd am weld y DU yn aros yn o'r Undeb Ewropeaidd yn "cydweithio".[5]
Colli sedd
golyguCollodd Chris Davies, yr Aelod Seneddol Ceidwadol ei sedd yn sgil ei gael yn euog o dwyll, ond ceisiodd adennill y sedd yn ôl i'r Ceidwadwyr.[5]
Yn Chwefror 2019, cyhuddwyd Davies o hawlio treuliau ffug, dan Ddeddf Safonau Seneddol 2009.[6] Plediodd yn euog ym Mawrth ac, yn Ebrill cafodd ei ddedfrydu i orchymyn cymunedol o 50 awr o waith di-dâl a dirwy o £1,500.[7][8]
Canlyniadau
golyguCanlyniad yr is-etholiad
golyguIs-etholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed 1 Awst 2019 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Democratiaid Rhyddfrydol | Jane Dodds | 13,826 | 43.5 | +14.4 | |
Ceidwadwyr | Christopher Davies | 12,401 | 39.0 | -9.6 | |
Plaid Brexit | Des Parkinson | 3,331 | 10.5 | n/a | |
Llafur | Tom Davies | 1,680 | 5.3 | -12.4 | |
Monster Raving Loony | Lady Lily Pink | 334 | 1.0 | n/a | |
Plaid Annibyniaeth y DU | Liz Phillips | 242 | 0.8 | -0.6 | |
Mwyafrif | 1,425 | ||||
Y nifer a bleidleisiodd | 32,887 | 59.7 | |||
Democratiaid Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr | Gogwydd |
Canlyniad etholiad 2017
golyguEtholiad cyffredinol 2017: Etholaeth: Brycheiniog a Sir Faesyfed[9] | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Christopher Davies | 20,081 | 48.6 | 7.5 | |
Democratiaid Rhyddfrydol | James Gibson-Watt | 12,043 | 29.1 | +0.8 | |
Llafur | Dan Lodge | 7,335 | 17.7 | +3.0 | |
Plaid Cymru | Kate Heneghan | 1,299 | 3.1 | -1.3 | |
Plaid Annibyniaeth y DU | Peter Gilbert | 576 | 1.4 | -6.9 | |
Mwyafrif | 8,038 | 19.4 | +6.7 | ||
Y nifer a bleidleisiodd | 41,334 | +3.1 | |||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "MP Chris Davies unseated after petition triggers by-election". BBC News. Cyrchwyd 21 June 2019.
- ↑ "Brecon & Radnorshire parliamentary constituency - Election 2017" (yn Saesneg). BBC News. Cyrchwyd 2019-06-21.
- ↑ "Lib Dem leader Williams steps down". 6 May 2016 – drwy www.bbc.co.uk.
- ↑ "Petition unseats Tory MP Chris Davies". 21 June 2019 – drwy www.bbc.co.uk.
- ↑ 5.0 5.1 golwg360.cymru; adalwyd 2 Awst 2019.
- ↑ Conservative MP Christopher Davies charged over 'false expenses claims' Evening Standard
- ↑ "False expenses claim MP could lose seat" (yn Saesneg). BBC News. 2019-03-25. Cyrchwyd 2019-03-26.
- ↑ Tory MP Christopher Davies admits expenses fraud The Guardian
- ↑ Daily Post 10 Mehefin 2017 How Wales Voted - results in detail