Deddf Llysoedd Cymreig 1942

Deddfwriaeth y Deyrnas Unedig a effeithiodd ar Gymru
(Ailgyfeiriad o Deddf Llysoedd Cymru 1942)

Roedd Deddf Llysoedd Cymreig 1942 yn Ddeddf Senedd y Deyrnas Unedig a ganiataodd i’r Gymraeg gael ei defnyddio mewn llysoedd yng Nghymru a Sir Fynwy os oedd person dan anfantais wrth siarad Saesneg.

Am y tro cyntaf erioed, diddymwyd y ddeddf gyfreithiau a basiwyd gan Harri VIII a orfododd yn gyfreithiol, Saesneg fel yr unig iaith yn llysoedd Cymru.

Cefndir

golygu

Lansiwyd deiseb yn galw am statws cyfartal i’r Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1938 gan gaslu dros 250,000 o lofnodion a chefnogaeth gan 30 o’r 36 AS Cymreig.[1]

Dywedodd Charles Edwards, AS Bedwellty, am y mesur (yn Saesneg):

“Roeddwn i ar un adeg yn bwyswr-siec yng nglofa Nine-Mile Point ac yn gynrychiolydd lleol y dynion. Pan suddwyd y pwll gyntaf, daeth llawer o bobl ato o barthau eraill, a chofiaf nad oedd rhai o Gymry’r gogledd a ddaeth yn gallu siarad gair o Saesneg. Pan ddaethant i fy ngweld am rywbeth neu'i gilydd, ni allwn ddilyn eu Cymraeg dwfn, ac roedd rhaid oedd cael cyfieithydd rhyngom. Pe bai’r dynion hynny’n gwneud rhywbeth o’i le ac yn gorfod mynd i’r llysoedd lleol, roedden nhw dan anfantais fawr. Am y math yna o reswm rwy’n meddwl bod y bil hwn yn gwneud peth rhesymol iawn.”[1]

Dywedodd yr Is-iarll Sankey am y mesur yn ystod dadl yn Nhy'r Arglwyddi (yn Saesneg):

“Mae llawer o Gymry sy’n siarad Saesneg yn meddwl yn Gymraeg. Yr wyf wedi sylwi’n aml fod hyd yn oed rhai o’n siaradwyr mwyaf huawdl a’n dadleuwyr medrus yn y Tŷ hwn yn oedi am eiliad i gael yr union air neu i ddod o hyd i’r union fynegiant. Diau fod llawer o aelodau y Tŷ hwn yn darllen Ffrangeg yn rhwydd ac yn ei siarad yn dda; mae llawer yn ei siarad yn berffaith; ac eto sut yr hoffem gael ein harholi a'n croesholi yn Ffrangeg?"

“Oni ddylem fod braidd yn nerfus ac yn dystion embaras a methu â gwneud cyfiawnder â’n hunain? Mae'n bosib y dylen ni fod yn meddwl yn Saesneg ac yn gorfod ateb yn Ffrangeg. Bydd y rhai sydd wedi clywed, fel y clywais, gannoedd ar gannoedd o achosion yn Llysoedd Cymru yn gwerthfawrogi’r sefyllfa.” [1]

Darpariaeth

golygu

Pasiwyd Deddf Llysoedd Cymru 1942 ar 22 Hydref 1942, gan ddiddymu mesurau Brenin Lloegr, Harri VIII, gan ganiatáu defnydd o'r Gymraeg mewn llysoedd. Dywed y ddeddfwriaeth (yn Saesneg);

Tra y mae amheuaeth wedi ei diddanu a yw adran dau ar bymtheg o'r ddeddf 27 Hen. 8. c. 26 yn cyfyngu’n ormodol ar hawl personau Cymraeg eu hiaith i ddefnyddio’r Gymraeg mewn llysoedd barn yng Nghymru, yn awr, felly, diddymir yr adran a enwyd drwy hyn, a deddfir drwy hyn y caniateir i’r Gymraeg gael ei defnyddio mewn unrhyw lys yng Nghymru drwy hyn unrhyw barti neu dyst sy’n ystyried y byddai fel arall o dan unrhyw anfantais oherwydd mai’r Gymraeg yw ei iaith gyfathrebu naturiol.[1][2]

Dywed adran 2 o'r ddeddf:

Caiff yr Arglwydd Ganghellor wneud rheolau sy’n rhagnodi cyfieithiad yn y Gymraeg o unrhyw ffurf a ragnodir gan y gyfraith am y tro fel ffurf unrhyw lw neu gadarnhad i’w weinyddu a’i gymryd neu ei wneud gan unrhyw berson mewn unrhyw lys, a llw neu gadarnhad a weinyddir ac a gymerir neu a wnaed mewn unrhyw lys yng Nghymru yn y cyfieithiad a ragnodir gan y cyfryw reolau, a fydd, heb ddehongliad, o'r un effaith a phe buasai wedi ei weinyddu a'i gymeryd neu ei wneyd yn yr iaith Saesneg.[3]

Parhaodd y pwysau ac amheuaeth barhaus ynghylch effaith y ddeddfwriaeth at adroddiad David Hughes Parry a adroddodd yn 1965. Arweiniodd hyn at greu Deddf yr Iaith Gymraeg 1967, a ddiddymodd adran 1 o Ddeddf Llysoedd Cymru 1942.[4] Diddymwyd pob un o'r pedair adran o Ddeddf gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 sydd nawr heb unrhyw effaith.[5]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "The law and the Welsh language". BBC (yn Saesneg). 2012-10-22. Cyrchwyd 2023-05-14.
  2. "Welsh Courts Act 1942". www.legislation.gov.uk.
  3. "Welsh Courts Act 1942". www.legislation.gov.uk.
  4. Andrews, J. A.; Henshaw, L. G. (1983). "THE IRISH AND WELSH LANGUAGES IN THE COURTS: A COMPARATIVE STUDY". Irish Jurist (1966-) 18 (1): 8. ISSN 0021-1273. https://www.jstor.org/stable/44027624.
  5. "Welsh Courts Act 1942 (repealed 21.12.1993)". www.legislation.gov.uk.