Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
Deddf seneddol yw Deddf yr iaith Gymraeg 1993,[1] sydd yn ddeddf a basiwyd gan Senedd Sansteffan sydd yn rhoi i'r Gymraeg yr un statws a'r Saesneg yng Nghymru mor bell ag y mae'r sector gyhoeddus yn y cwestiwn.
Hanes
golyguRoedd Deddf Uno 1536 a 1542 wedi deddfu mai Saesneg yn unig fyddai iaith y llysoedd a sefydliadau gweinyddol a chyhoeddus [2] Roedd Deddf Llysoedd 1942 wedi rhoi yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg tra bod y siaradwr Cymraeg dan fantais wrth siarad Saesneg, ond roedd hyn yn cael ei ddiffinio yn gyfyng iawn. Gwrthdrôdd Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 y deddfau hyn gan greu'r cysyniad o statws cyfartal rhwng y ddwy iaith.[3] O ganlyniad paratôdd rhai adrannau o'r Llywodraeth a rhai awdurdodau lleol ddeunydd Cymraeg, ac yn dilyn ymgyrch o ddifrodi arwyddion codwyd rhai arwyddion dwyieithog.
Darpariaeth y Ddeddf
golyguDeddf Iaith 1993 a roddodd statws cyfatal i'r Gymraeg a'r Saesneg cyhyd a'i bod yn rhesymol, o ran awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus, y llysoedd a'r Llywodraeth.
Prif ofynion y ddeddf oedd:
- gorfodi cyrff cyhoeddus yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ac i baratoi cynllun i ddangos sut maen nhw'n bwriadu defnyddio'r iaith
- rhoi hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn llys barn yng Nghymru
- rhoi'r hawl i gwmnïau ac i elusennau ddefnyddio rhai dogfennau swyddogol yn Gymraeg heb gyfieithiad i'r Saesneg
- creu Bwrdd yr Iaith Gymraeg i oruchwylio defnydd o'r iaith gan gyrff cyhoeddus ac i gymeradwyo cynlluniau iaith cyrff cyhoeddus
Roedd y ddeddf yn rhoi hawl i Ysgrifennydd Gwladol Cymru benodi 15 aelod o'r Bwrdd. Gyda sefydliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'r hawl i benodi aelodau i'r Bwrdd wedi pasio i'r cynulliad.
Pwnc llosg
golyguMae’r ddeddf hon wedi bod yn bwnc llosg ers cyn ei derbyn. Cafodd y ddeddf ei phasio gan fwyafrif ond ni wnaeth mwyafrif ASau Cymru ei chefnogi. Yn wir, ni fyddai wedi llwyddo oni bai am gefnogaeth Ceidwadwyr o Loegr. Gwrthododd Rhodri Morgan gefnogi'r ddeddf ym 1993, gan ddweud:
"The Government calls this a Welsh Language Bill, but it would be better described as a Welsh Language Quango Bill. What one could call a Quango for the lingo ...... We shall be abstaining tonight because we hope to have the opportunity before long to do the job properly. That will be done when we revisit the question of a Welsh language messure when we are in Government."
Yn y nawdegau, cyfeiriwyd ati fel enghraifft glasurol pam bod angen datganoli a chynulliad i Gymru. Beirniedir y ddeddf gan rai, yn enwedig Cymdeithas yr Iaith am nad oes gorfodaeth ar y sector breifat i gydymffurfio â’i gofynion. Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi beirniadu'r ddeddf yn llym am nad yw'n ymdrin â phroblemau cymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith.
Ffynonellau
golyguGweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Testun Deddf Iaith 1993