Agor y brif ddewislen

Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Saesneg: Welsh Language (Wales) Measure 2011) sy'n newid y fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Fe'i basiwyd gan y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2010[1] a daeth i rym ar 9 Chwefror 2011 pan dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol gan y Frenhines.[2] Mae'r mesur yn creu swydd Comisiynydd y Gymraeg, a benodir gan y Prif Weinidog, ac yn diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Bydd gan y Comisiynydd y pŵer i gosbi cyrff cyhoeddus a rhai cwmnïau preifat, megis cwmnïau nwy, trydan, a ffôn, am dorri eu hymrwymiad i'r iaith.[3] Cyhoeddwyd yn Hydref 2011 mai Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, fydd y Comisiynydd Iaith newydd,[4] a bydd hi'n gadael ei swydd fel Cadeirydd y Bwrdd yn gynnar yn Chwefror 2012 er mwyn gallu paratoi ar gyfer y swydd newydd a ddechreua yn Ebrill 2012 yn swyddogol.[5]

Cyflwynwyd y mesur gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, ar 4 Mawrth 2010.[1]

HanesGolygu

Ar ôl i'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ffurfio llywodraeth glymblaid Cymru'n Un yng Ngorffennaf 2007 roedd addewid yn eu cytundeb i greu "deddf newydd i gadarnhau statws swyddogol ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg ac estyn hawliau i ddefnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg". Yn Ionawr 2009 dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Paul Murphy y gallai'r broses ar gyfer cais gan Lywodraeth y Cynulliad am yr hawl i ddeddfu ynghylch yr iaith Gymraeg fod yn "stormus", yn debyg yn sgil pryderon y gallai adrannau llywodraeth y Deyrnas Unedig gael eu dirwyo am beidio â defnyddio digon o Gymraeg ac amheuon nifer o Aelodau Seneddol Llafur am estyn cydraddoldeb ieithyddol y tu hwnt i'r sector cyhoeddus.[6]

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009Golygu

Gosododd Alun Ffred Jones Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD) ar 2 Chwefror 2009 i "ehangu cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud cyfreithiau newydd i Gymru drwy Fesurau ynglŷn â'r iaith Gymraeg".[7] Sefydlwyd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 ar 4 Chwefror i ystyried y GCD.

ProsesGolygu

Ar 4 Mawrth 2010 datganodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, bod darpariaethau'r mesur arfaethedig o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.[8]

YmatebGolygu

"R'yn ni am i’r iaith gael ei thrin fel cydraddoldebau eraill lle mae unigolion yn cael hawliau sylfaenol. Ac r'yn ni eisiau i'r Mesur ffitio i mewn gyda chyfundrefn hawliau ryngwladol. Mae pobol yn delio gyda materion fel hyn ar draws y byd."

Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg[9]

Croesawyd cyhoeddiad y mesur arfaethedig fel "diwrnod hanesyddol" gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, er disgrifiodd y mudiad hepgor sôn am hawliau o'r mesur "fel adeiladu tŷ ar dywod".[10] Ar 10 Mawrth anfonodd Cymdeithas lythyr at Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn gwneud cwyn swyddogol am y mesur arfaethedig, gan gyhuddo bod Llywodraeth y Cynulliad wedi camarwain y cyhoedd trwy honni bydd y mesur yn sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg.[11]

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

Dolenni allanolGolygu

Testun y mesur