Deddfau Uno 1707 yw'r term a ddefnyddir am ddau Fesur Seneddol a basiwyd yn 1706 gan Senedd Lloegr ac yn 1707 gan Senedd yr Alban i ffurfio gwladwriaeth newydd Teyrnas Prydain Fawr a Senedd Prydain Fawr. Sefydlwyd y Deyrnas Prydain Fawr ar 1 Mai 1707.

Deddfau Uno 1707
Enghraifft o'r canlynoldeddf Llywodraeth yr Alban, deddf Llywodraeth Lloegr Edit this on Wikidata
Dyddiad30 Ebrill 1707 Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1707 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Lloegr, Teyrnas yr Alban, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata

Effaith y mesurau oedd uno'r ddwy senedd, a throi Teyrnas Lloegr a Theyrnas yr Alban, o fod yn ddwy wladwriaeth ar wahân (oedd yn rhannu yr un brenin) i fod yn un wladwriaeth fawr. Daeth hyn i rym ar 1 Mai 1707. O hynnny ymlaen rheolid gwledydd Ynys Prydain gan un Senedd yn Llundain. Ystyrid Cymru fel rhan o Deyrnas Lloegr yn gyfreithiol.

Ymddengys fod rhywfaint o lwgrwobrwyo wedi digwydd i sicrhau mwyafrif i'r mesur yn Senedd yr Alban. Cyfeiria Robert Burns at hyn:

We were bought and sold for English Gold,
Sic a Parcel of Rogues in a Nation.

Cyfeiriadau

golygu