Defnyddiwr:Adda'r Yw/drafftiau/Rhyfeloedd Affganistan (1978–presennol)

Chwyldro Saur (1978) golygu

Ym 1973, cafodd Mohammed Zahir Shah, Brenin Affganistan, ei ddymchwel gan ei gefnder Mohammed Daoud Khan gyda chymorth Plaid Ddemocrataidd y Bobl (PDPA), a sefydlwyd Gweriniaeth Affganistan dan arlywyddiaeth Daoud. Erbyn diwedd y 1970au, roedd y cystadlu rhwng Daoud a'r comiwnyddion, a'r ymgecru rhwng dwy ymblaid y PDPA, y Parcham a'r Khalq, ar fin tanio. Ar 17 Ebrill 1978, saethwyd Mir Akbar Khyber, un o brif ideolegwyr y Parcham, yn farw yn Kabul. Nid yw'n sicr pwy oedd yn gyfrifol am ei lofruddio; cyhuddwyd y Gweinidog Mewnwladol Abdul Qadir Nuristani gan rai, ac Hafizullah Amin, arweinydd y Khalq, gan eraill. Yn ystod ei gynhebrwng, ar 19 Ebrill, gorymdeithiodd miloedd o gefnogwyr Khyber drwy strydoedd Kabul, a dychrynwyd Daoud gan y sloganau comiwnyddol a lafarganwyd ganddynt. Gorchmynnodd Daoud i'r lluoedd diogelwch syrthio'n drwm ar arweinyddiaeth y PDPA, ac arestiwyd Babrak Karmal ac eraill o hoelion wyth y comiwnyddion.[1]

Ar 27 Ebrill, lansiwyd coup d'état yn erbyn yr Arlywydd Daoud gan swyddogion comiwnyddol yn y fyddin. Cafodd ei alw'n "Chwyldro Saur" (Inqilab-e Saur) gan ei arweinwyr, gan gyfeirio at Saur, yr enw Dari ar yr ail fis yn y calendr Persiaidd (mis y Tarw yn ôl y Sidydd) ac i adlewyrchu taliadau chwyldroadol y comiwnyddion, a arddelid gan garfan y Khalq yn enwedig. Prif arweinwyr y coup oedd Abdul Qadir a Muhammad Rafi o'r Parcham, ac Aslam Watanjar a Sayid Muhammad Gulabzoi o'r Khalq. Danfonwyd tanciau, dan orchymyn Watanjar, i'r palas arlywyddol gyda chefnogaeth awyrennau ymladd a bomio o faes awyr Bagram. Erbyn 5 o'r gloch y bore ar 28 Ebrill, roedd Daoud a'r mwyafrif o'i deulu a'i gefnogwyr yn y palas wedi eu lladd. Cafodd aelodau amlwg o'r cyn-lywodraeth a phleidiau eraill, gan gynnwys Shula-i Javid ac Afghan Millat, eu herlid, a llofruddiwyd y cyn-brif weinidogion Nir Ahmad Etemadi a Muhammad Musa Shafiq.[1]

Gwrthryfel Herat (1979) golygu

Ar 15 Mawrth 1979 cychwynnodd miwtini yn 17eg Adran Byddin Affganistan yn Herat, mewn ymateb i drais gan y Khalq yn y cefn gwlad. Ymosodwyd ar aelodau'r Khalq a'u cynghorwyr Sofietaidd, ac ymgynulliodd trigolion y ddinas ar doeau eu tai i weiddi "Allahu Akbar" ac i ddathlu'r gwrthryfel.[2] O fewn ychydig o ddyddiau, ymunodd miloedd o filwyr a sifiliaid i wrthwynebu'r llywodraeth yn Herat. Dygwyd milwyr o Kandahar i ostegu'r gwrthryfel, a bu farw nifer fawr o drigolion yn sgil bomio'r ddinas.

Rhyfel yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan (1979–89) golygu

Rhyfel Cartref (1989–92) golygu

Wedi enciliad yr Undeb Sofietaidd, gadawyd Affganistan mewn anhrefn ac adfail, ac heb ddatrysiad i'r gwrthdaro rhwng y llywodraeth a'r gwrthryfelwyr. Unwaith yr enciliodd y lluoedd Sofietaidd o'r wlad, cyhoeddwyd argyfwng cenedlaethol gan yr Arlywydd Mohammad Najibullah. Er nad oedd presenoldeb milwrol bellach gan yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan, parhaodd y Cremlin i ddarparu cyflenwadau milwrol ac economaidd i lywodraeth Najibullah, yn ogystal â bwyd a thanwydd trwy gydol gaeafau 1990 a 1991.

Llwyddodd Najibullah i afael ar rym am dair blynedd wedi enciliad y Sofietiaid, er na enillai cefnogaeth y bobl yn llwyr. Yn sgil diddymu'r Undeb Sofietaidd yn niwedd 1991, gwrthododd Ffederasiwn Rwsia werthu cynnyrch olew i Affganistan, gan atal bwyd a thanwydd rhag cyrraedd y wlad yn ystod y gaeaf. Gwrthgiliodd y Cadfridog Abdul Rashid Dostum, gan ymgynghreirio ag Ahmed Shah Massoud a Sayed Jafar Naderi. O'r diwedd, cwympodd llywodraeth Najibullah a chipiwyd Kabul gan luoedd Dostam a Massoud ar 18 Ebrill 1992.

Rhyfel Cartref (1992–96) golygu

Ym 1992, cyhoeddwyd Gwladwriaeth Islamaidd Affganistan gan y llywodraeth drawsnewidiol, gyda chefnogaeth nifer o ymbleidiau'r gwrthryfelwyr. Dewiswyd Burhanuddin Rabbani, arweinydd y Jamiat-e Islami ("Cymdeithas Islamaidd"), yn arlywydd y wlad, ond yn ddiweddarach fe wrthodai ildio'r swydd, yn unol â'r cytundeb i rannu grym yn y drefn newydd, Amgylchynwyd Kabul gan grwpiau eraill y cyn-mujahideen, yn enwedig Hezb-e Islami ("Plaid Islamaidd"), dan arweiniad Gulbuddin Hekmatyar, ac ymosodant ar y brifddinas gyda magnelau a rocedi. Parodd y cyrchoedd hyn yn ysbeidiol am sawl blwyddyn, a dychwelodd anhrefn i'r ardaloedd cyfagos.

Yn niwedd 1994, daeth carfan Islamaidd ffwndamentalaidd y Taleban i'r amlwg dan arweiniad Mohammad Omar, ac erbyn 1996 llwyddasant i gipio'r rhan fwyaf o diriogaeth Affganistan bob yn ddarn, gyda chymorth grwpiau eithafol eraill ac Arabiaid Affganaidd a oedd yn gyn-filwyr y mujahideen. Ym Medi 1996, meddiannwyd Kabul o'r diwedd gan y Taleban.

Rhyfel Cartref (1996–2001) golygu

O 1996 i 2001, rheolwyd y wlad gan y Taleban, dan lywodraeth Emiriaeth Islamaidd Affganistan. Ar ei hanterth, rheolwyd rhyw 90% o diriogaeth y wlad gan yr emiriaeth, a'r gweddill yn y gogledd-ddwyrain gan wrthryfelwyr Cynghrair y Gogledd, a gydnabuwyd gan nifer o wledydd fel olynydd y Wladwriaeth Islamaidd. Bu'r frwydr rhwng y Taleban a Chynghrair y Gogledd heb enillydd nes 2001.

Rhyfel yr Unol Daleithiau yn Affganistan (2001–21) golygu

Cyfnod y goresgyniad (2001) golygu

Daeth y sefyllfa annatrys i ben yn sgil ymosodiadau 11 Medi, 2001 yn Unol Daleithiau America: gwrthododd y Taleban estraddodi Osama bin Laden, arweinydd al-Qaeda a gyhuddwyd gan yr Unol Daleithiau o gynllunio'r ymosodiadau, ac felly ymgynghreiriodd lluoedd arbennig Americanaidd â Chynghrair y Gogledd i oresgyn Affganistan a gyrru'r Taleban ar ffo. Disodlwyd y Taleban erbyn Rhagfyr 2001.

(2002–08) golygu

Yn sgil cwymp y Taleban, bu lluoedd yr Unol Daleithiau a'r glymblaid ryngwladol ar anterth eu grym. Aethant ati i drechu'r Taleban yn filwrol ym mhob rhan o'r wlad, ar y cyd ag ailadeiladu sefydliadau gwladwriaethol.

Gwrthryfel y Taleban golygu

Cyfnod y gwrthchwyldro (2008–14) golygu

Mewn ymateb i atgyfodiad y Taleban, trodd yr Unol Daleithiau at athrawiaeth glasurol gwrthchwyldroadaeth. Dwysaodd y strategaeth hon yn sgil penderfyniad yr Arlywydd Barack Obama yn 2009 i gynyddu dros dro y niferoedd o luoedd Americanaidd yn Affganistan. Defnyddiwyd yr atgyfnerthiadau hyn i amddiffyn y boblogaeth rhag cyrchoedd y Taleban, ac i gefnogi ymdrechion i adfer cyn-wrthryfelwyr i'r gymdeithas wladol.

Yn 2011, cychwynnwyd ar amserlen i drosglwyddo cyfrifoldebau diogelwch yn raddol i luoedd milwrol ac heddluoedd yr Affganiaid, ac i encilio lluoedd tramor yn ôl o'r wlad. Fodd bynnag, bu cyrchoedd gan wrthryfelwyr a therfysgwyr, a marwolaethau sifilaidd a achoswyd gan weithredoedd milwrol y glymblaid, yn parhau'n uchel, ac nid oedd lluoedd Affganiaid yn medru ymdopi â gwrthsefyll y Taleban. Yn ffurfiol, daeth ymgyrch filwrol yr Unol Daleithiau a NATO yn Affganistan i ben yn Rhagfyr 2014.

Cyfnod yr enciliad (2014–21) golygu

Gweler hefyd golygu

Ffynonellau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 William Maley, The Afghanistan Wars (Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan, 2002), tt. 25–26.
  2. Maley, The Afghanistan Wars (2002), t. 30.

Llyfryddiaeth golygu

Darllen pellach golygu