Osama bin Laden
Terfysgwr Islamaidd a ystyrir yn sylfaenwr Al-Qaeda oedd Osama bin Mohammed bin Awad bin Laden (Arabeg: أسامة بن محمد بن عوض بن لادن, ʾUsāmah bin Muḥammad bin ʿAwaḍ bin Lādin; 10 Mawrth 1957 – 2 Mai 2011).
Osama bin Laden | |
---|---|
Ganwyd | أسامة بن محمد بن عوض بن لادن 10 Mawrth 1957 Riyadh |
Bu farw | 2 Mai 2011 o anaf balistig caer Osama bin Laden yn Abbottabad |
Man preswyl | caer Osama bin Laden yn Abbottabad, cartref Osama bin Laden |
Dinasyddiaeth | Sawdi Arabia, di-wlad |
Alma mater | |
Galwedigaeth | jihadist, peiriannydd sifil, person busnes, terfysgwr |
Swydd | General Emir of Al-Qaeda |
Taldra | 195 centimetr |
Pwysau | 75 cilogram |
Mudiad | Salafi jihadism, Jihadiaeth, Pan-Islamism, gwrth-Semitiaeth, anti-Christian sentiment, Gwrth-gomiwnyddiaeth, gwrth-Americaniaeth, gwrth-Seioniaeth |
Tad | Mohammed bin Awad bin Laden |
Mam | Hamida al-Attas |
Priod | Najwa bin Laden, Khairiah Sabar, Amal Ahmed al-Sadah, Siham Sabar |
Plant | Saad bin Laden, Omar bin Laden, Hamza bin Laden, Abd Allah bin Laden, Khalid bin Laden, Miriam bin Laden, Sumaiya bin Laden |
Llinach | Bin-Laden family |
Ganed ef yn Riyadh, Sawdi Arabia, yn aelod o deulu cyfoethog a dylanwadol bin Laden. Ym 1996 ac eto ym 1999 cyhoeddodd ef a nifer eraill ddwy fatwa, yn dweud y gellid lladd aelodau o luoedd arfog neu ddinasyddion yr Unol Daleithiau hyd nes iddynt dynnu eu lluoedd arfog o'r gwledydd Islamaidd a rhoi'r gorau i gefnogi Israel. Cred yr Unol Daleithiau iddo fod a rhan yn yr ymosodiad ar lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Dar es Salaam, Tansanïa, a Nairobi, Cenia.
Osama Bin Laden oedd yn gyfrifol am drefnu llofruddiaeth Ahmad Shah Massoud, arweinydd gwrthryfel yn erbyn y Taliban ac Al-Qaeda yng Ngogledd Afghanistan.[1]
Credir yn gyffredinol mai Osama bin Laden ac Al-Qaeda fu'n gyfrifol am drefnu Ymosodiadau 11 Medi 2001 ar yr Unol Daleithiau, pan gipiwyd awyrennau a'u hedfan i mewn i Ganolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd a'r Pentagon yn Arlington, Virginia.
Marwolaeth
golyguAr 1 Mai 2011, adroddodd Arlywydd Obama y lladdwyd bin Laden yn ystod gweithred filwrol yr Unol Daleithiau gan "dîm bychan o Americaniaid", mewn gweithred gudd yn Abbottabad, Pacistan, 93 milltir (150 km) i'r gogledd o Islamabad,[2] a chadarnhaodd yr hyn a ddywedwyd gan swyddogion yr Unol Daleithiau i'r cyfryngau yn gynharach.[3] Drwy ddefnyddio corff bin Laden, a'i gymharu â samplau DNA ei chwaer, cadarnhawyd mai bin Laden ydoedd.[4] Derbyniwyd y corff gan fyddin yr Unol Daleithiau a chafodd ei gladdu yn y môr.[5]
Yn ôl yr Arlywydd Obama, cynorthwyodd llywodraeth Pacistan hefyd yn y weithred o'i ddal.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Death of an Afghan icon: 20 years since the assassination of Ahmad Shah Massoud". France 24 (yn Saesneg). 2021-09-09. Cyrchwyd 2023-09-13.
- ↑ Osama bin Laden is dead, Obama announces , The Guardian, 2 Mai 2011.
- ↑ Osama bin Laden, the face of terror, killed in Pakistan , CNN.com, The Cable News Network, 01 Mai 2011. Cyrchwyd ar 1 Mai 2011.
- ↑ Osama bin Laden Killed; ID Confirmed by DNA Testing. ABC News (1 Mai 2011).
- ↑ Osama bin Laden buried at sea after being killed in US raid in Pakistan Archifwyd 2011-07-07 yn y Peiriant Wayback Metro.co.uk Adalwyd ar 9 Gorffennaf 2011