Defnyddiwr:AlwynapHuw/Shane Summers

Roedd Shane Lister Summers (23 Mehefin 1936 - 1 Mehefin 1961) yn yrrwr rasio Prydeinig, a aned yn yr Orsedd, Sir Ddinbych, Cymru . [1] Er ei fod wedi rasio mewn Fformiwla Un, ni wnaeth erioed gymryd rhan mewn digwyddiad Pencampwriaeth y Byd. Roedd yn fab i'r gwleidydd Ceidwadol Spencer Summers .

Yn 1960, cafodd Summers tymor rasio llwyddiannus mewn car rasio Lotus 15 a baratowyd gan Terry Bartram, [2] ac am y tymor canlynol, penderfynodd Bartram ac ef rhoi gais ar rasio Fformiwla Un gyda car Cooper T53 newydd, rhif siasi F1-8-61. [3]

Yn ras agoriadol y tymor, Tlws Lombank, nad oedd yn rhan o'r Bencampwriaeth, fe wnaeth Summers, 24 oed, cymhwyso yn y ddegfed lle allan o 14 ymgeisydd, gan orffen yr wythfed safle, sef y safle cymhwyso olaf. Yr wythnos ganlynol fe cwblhaodd ras y Tlws Glover ar ôl cymhwyso eto yn y ddegfed safle. Wedi teithio i Ewrop ar gyfer y ddwy ras nesaf, gwrthodwyd iddo ddechrau ar Grand Prix Brwsel 1961 er iddo cyraedd y 12fed amser cyflymaf wrth gymhwyso, ond dechreuodd o'r rhes flaen yn Grand Prix Fienna. O'r ail safle ar y grid, rhedodd yn agos at y tu blaen nes i hongiad y car methu.

Gan ddychwelyd i'r DU, cystadleuodd Summers yn yr Aintree 200, gan gymhwyso 13eg o 28 o ddechreuwyr, a gorffen yn 12fed safle. Mis yn ddiweddarach enillodd ei ganlyniad gorau, gan orffen yn bedwerydd yn Nhlws Llundain. Fodd bynnag, yn ystod ymarfer yn y glaw ar gyfer ras Tlws y Silver City yn Brands Hatch, lladdwyd Summers pan aeth ei gar allan o reolaeth ar Gornel Paddock Hill gan cael gwrthdrawiad a wal goncrit wrth fynedfa twnnel y pwll. [4]

Cyfeiriadau golygu

>

  1. Welsh Motor Sport – Drivers
  2. Shane Summers at Motorsport Memorial
  3. Cooper T53 at oldracingcars.com
  4. Don Capps, Atlas F1 "Rear View Mirror", Vol. 6, Issue 31