Defnyddiwr:Rhyswynne/Cynnwys Digwyddiadau/Hacio'r Iaith 2013
Bydd Hacio'r Iaith 2013 yn cymryd lle yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar y 19eg o Ionawr 2013. Cynnigaf bydd cynrychiolaeth gan y Wicipedia Cyrmaeg yno, a'n bod ni'n cynnal o leiaf un sesiwn (trefn y dydd ydy arddull BarCamp ble mae amserlen wag yn y bore ar gyfer slotiau awr mewn tair ystafell wahanol ac mae unrhyw yun yn gallu cymryd slot).
PWYSIG: Os ydych am dodd i Hacio'r Iaith 2013, mae'r digwyddiad am ddim, ond rhaid cofrestru o flaen llaw.
Cynnig 1. - Byrbrydau Wicipedia
golyguGan mod i wedi cynnal sesiwn cyflwyniad i Wicipedia yn y groffenol yn Hacio'r Iaith 2012 ac Eisteddfod Genedlaethol 2011 a 2012, hoffwn drio fformat ychydig yn wahahnol, sef cyfres o 4/5 cyflwyniad byr (yn ddelfrydol gan fwy nag un cyfranwr) ar wahanol elfennau. Dyma rhai syniadau:
- Hyrwyddo Erthygl (cyflwyniad gan Defnyddiwr:Ben Bore): Defnyddio categoriau, dolenni o fewn ac ar ddiwedd erthyglau eraill, tudalen flaen)
- Wicipedia yn 'y byd go iawn' (Defnyddiwr:Llywelyn2000): Trafod pa barneriaethau sy mewn lle, neu'n arfaethedig rhwng y Wicipedia Cymraeg a chyrff eraill. Ffordd o holi am syniadau gan y gynulleidfa
- Delweddau (Defnyddiwr:Ben Bore o bosib): Trafod pam bod delweddau'n bwysig, sut i'w gosod mewn erthygl, hawlfraint, uwchlwytho o'ch cyfrifiadur/Flickr/Geograph, Y Comin
- Pwnc gweinyddol o bosib (?): Dim byd rhy drwm na diflas. Lleoleiddio MediaWiki, DataWiki,
Fydd MediaWiki ddim yn dod allan o'i stabal am o leiaf blwyddyn arall, yn anffodus. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:57, 2 Tachwedd 2012 (UTC) - Sut mae...? (?): Cymorthfa cyflym am sut mae gwneud ambell beth ar y Wici. Fel grŵp neu yn unigol.
Mond syniadau yw'r uchod. Yn amlwg dw i'n gobeithio mynychu'r digwyddiad fy hun a byddai'n grêt petai eraill yn gallu dod hefyd. Croeso i chi addasu'r syniadau uchod a/neu cynnig rhywbeth hollol wahanol ar gyfer llenwi sesiwn awr.--Ben Bore (sgwrs) 12:17, 1 Tachwedd 2012 (UTC)
- Byddwn i'n croesawu rhywbeth fel yna - mwy na digon i mi ddysgu!!Dyfrig (sgwrs) 15:55, 1 Tachwedd 2012 (UTC)
- A finna! Bydd costau teithio i Wicipedwyr ffyddlon (WMUK)! Ebostiwch fi yn nes at yr achos. Beth am Wicigwrdd fin nos, dros fwyd Indiaidd, neu ar adeg arall? Llywelyn2000 (sgwrs) 17:41, 1 Tachwedd 2012 (UTC)
- Mae pryd o fwyd Indiaidd y noson gynt wedi dod yn rhan o'r ddefod erbyn hyn gyda 20 i 30 o fynychwyr Hacio'r Iaith yn cwrdd yn Aber y noson gynt am gyri ac yna ymaeln i dafarn, felly cynnigaf ein bod yn ymuno gyda hyn. Os ydym yn gweld bod gwir eisiau trafod rhywbeth arnom, gallwm gytuno i gwrdd dros torriad cinio ar y dydd, neu gallwn gynnal cyfarfod bach ein hunian yn y foyer tra mae sesiynnau eraill ymlaen. Cofiwch gadw llygad ar dudalen y digwyddiad ar wici Hedyn.net am y datblygiadau diweddaraf.--Ben Bore (sgwrs) 16:28, 2 Tachwedd 2012 (UTC)
- Gwych! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:59, 2 Tachwedd 2012 (UTC)