Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Thomas James (1593-1635)

Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Thomas James
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru


Roedd y Capten Thomas James (1593–1635) yn gapten môr o Gymru, yn nodedig fel fforiwr, a aeth ati i geisio darganfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin, y llwybr cefnforol a obeithiwyd oedd yn mynd o amgylch copa Gogledd America i Asia. [1][2] Mae ymhlith nifer o anturwyr o Gymru a fu’n fforio a darganfod ers y 17eg ganrif ac yn enwi’r mannau roeddent yn eu darganfod ar ôl rhannau o Gymru. Rhoddodd yr enw Hafren (Severn) i un o’r afonydd yn Bae Hudson ac fel llawer o fforwyr eraill enwyd mannau neu llefydd ar ei ôl. Enwyd bae ar arfordir deheuol Bae Hudson, yn James Bay, gan mai Thomas James oedd ymhlith y rhai cynharaf i’w ddarganfod.[1]


Cefndir golygu

Does dim sicrwydd pendant, ond mae'n debyg bod Thomas James wedi ei eni yn Wern y Cwm, ger y Fenni yn Sir Fynwy, yn fab i Siams ap Siôn ap Rhisiart Herbert ac Elisabeth Hywel ei wraig. Mae rhai wedi awgrymu mae un yn enedigol o Fryste oedd y Capten Thomas James, ond mae hynny'n hynod annhebygol.[3] Mae rhai o'r enwau a fathodd ar gyfer lleoliadau y daeth ar eu traws ym Mae Hudson yn rhoi awgrym clir ei fod yn ŵr o Went: New Principality of South Wales, The South Principality of Wales a Cape Monmouth. ,Pe bai wedi cael ei eni ym Mryste, fel mae rhai'n honni, mae'n annhebygol y byddai wedi dewis enwau fel y rhain.[4]

Gyrfa gynnar golygu

Derbyniwyd y Capten Thomas James i'r Deml Fewnol ym 1612 a chymhwysodd fel bargyfreithiwr. Nid oes unrhyw gofnod iddo erioed ymarfer y gyfraith ac os gwnaeth, rhaid bod hynny am ychydig flynyddoedd yn unig. Rywbryd rhwng 1612 a 1628, rhoddodd y gorau i weithio ym myd y gyfraith a throi ei olygon at fywyd ar y môr. Erbyn 1628 roedd yn Gapten ar herwlong o'r enw Dragon of Bristol.[4]

Y ras am dramwyfa golygu

Er mwyn ei gwneud yn haws i gyrraedd nwyddau gwerthfawr India a gweddill Asia, bu sawl ymgais i ganfod ffordd yno heb orfod mynd heibio tiroedd gwledydd oedd yn elyniaethus at Loegr megis Ymerodraeth Sbaen ac Ymerodraeth Ottoman. Un o'r llwybrau y bu sawl ymgais flaenorol (ac aflwyddiannus) i'w ganfod oedd Tramwyfa'r Gogledd Orllewin - llwybr yn mynd drwy'r Artig rhewllyd i'r gogledd o Ganada.[5] Ar ôl clywed bod criw o farsiandwyr o Lundain yn codi arian ymgeisio o'r newydd i ganfod y dramwyfa, dechreuodd marsiandwyr Bryste boeni y byddai llwyddiant Llundain yn cael effaith andwyol ar eu masnach forwrol hwy, a phenderfynasant ariannu ymgais o Fryste hefyd. Penodwyd y Capten Luke Foxe i arwain ymgais Llundain a'r Capten Thomas James i arwain ymgais Bryste.[6]

Ers i Iago I & VI esgyn i orsedd Lloegr, arwyddodd ef a'i fab Siarl I nifer o gytundebau oedd yn rhoi hawliau monopoli i Lundain. Ofn marsiandwyr Bryste oedd, pe bai ymgais Llundain yn llwyddo i ganfod y dramwyfa, y byddai'r brenin yn rhoi monopoli i'w defnyddio i farsiandwyr Llundain. Mantais cael un oedd yn gyfreithiwr, yn ogystal â chapten medrus, i arwain eu hymgyrch oedd y byddai'n gallu cael cytundeb cyfreithiol oedd yn dal dŵr yn llys y brenin. Yr hyn roeddent yn ei fynnu oedd sicrwydd pe baent yn llwyddo eu hunain, neu'n llwyddo ar y cyd â'r llong o Lundain i ganfod y dramwyfa, y byddai unrhyw fasnach newydd a fyddai'n yn deillio o hynny ar gael iddynt hwy hefyd, ac nid i Lundain yn unig. Byddai cefndir cyfreithiol James hefyd yn sicrhau bod Foxe yn cadw at y cytundeb ar ôl ymadael â thraethau Prydain.

Y daith golygu

Ymadawodd James â Bryste ym mis Mai 1631 ar long Henrietta Maria. Cymerodd fis i basio Culfor Hudson, lle cafodd ei rwystro gan rew rhag mynd i'r gogledd. Aeth i'r gorllewin, gan gwrdd â Luke Foxe ar 29 Gorffennaf a chyrraedd tir ger Churchill, Manitoba ar 11 Awst. Wedyn hwyliodd i'r de-ddwyrain at fynediad James Bay yn Cape Henrietta Maria. Aeth i lawr glan orllewinol James Bay ac ym mis Hydref dewisodd Ynys Charlton fel man i aeafu.[7] Ar 29 Tachwedd suddwyd y llong yn fwriadol i'w chadw rhag cael ei sgubo i ffwrdd neu ei gwasgu gan rew. Cafodd y llong ei hadfer ym mis Mehefin. Ailgydiodd yn ei daith ar 1 Gorffennaf 1632, cymerodd 3 wythnos i adael James Bay a gweithio ei ffordd i'r gogledd trwy'r rhew. Cyrhaeddodd ceg Culfor Hudson a mynd i'r gogledd i mewn i Sianel Foxe, ond methodd fynd ymhellach na chyfesuryn 65° 30', cyn cael ei orfodi i droi yn ôl. Dychwelodd i Fryste ar 22 Hydref mewn llong a oedd prin yn addas i forio.[2]

Enwyd arfordir deheuol Bae Hudson ganddo yn ‘Dywysogaeth Newydd De Cymru’ ar ôl ei wlad enedigol.[4]

Adroddodd James am brofiadau dirdynnol yn ystod ei fordaith, lle daeth yn agos at farwolaeth dro ar ôl tro yn rhew Cefnfor yr Arctig, yn ei adroddiad am y fordaith dan y teitl The Strange and Dangerous Voyage of Captaine Thomas James, a gyhoeddwyd ym 1633.[8]

Fel cydnabyddiaeth am ei ymdrechion fe gafodd ei benodi gan y brenin yn benswyddog llong frenhinol HMS 9th Whelp ar 16 Mai 1633. Ei orchwyl gyda'r llong oedd clirio Môr Hafren a Môr Iwerddon o fôr-ladron. Fe lwyddodd i gipio llong môr-ladron oddi ar arfordir Aberdaugleddau. Dyma'r cyntaf o nifer o lwyddiannau tebyg iddo eu cael. Roedd mor llwyddiannus yn ei waith fel bod Arglwydd Raglaw Iwerddon wedi ysgrifennu llythyr yn ei glodfori at Arglwyddi'r Morlys yn eu hannog i roi dyrchafiad iddo ar y cyfle cyntaf.[9]

Marwolaeth golygu

Cyn i Arglwyddi'r Morlys gael cyfle i'w ddyrchafu aeth James yn ddifrifol wael a bu farw ym 1635. Mae'n debyg bod gweddillion y capten wedi eu claddu yng Nghapel y Maer ym Mryste ond nid yw union leoliad ei fedd yn hysbys.[4]

Mae rhai awduron o'r farn bod gwaith Samuel Taylor Coleridge The Rime of the Ancient Mariner wedi ei ysbrydoli gan brofiadau James yn yr Arctig.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Owen, Rhodri (2013-03-01). "Putting Wales on the world map". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-16.
  2. 2.0 2.1 The voyages of Captain Luke Foxe, of Hull, and Captain Thomas James, of Bristol, in search of a North-West Passage, in 1631-32 : with narratives of the earlier North-West voyages of Frobisher, Davis and others. Volume 1. Christy, Miller, 1861-. Cambridge. ISBN 978-0-511-70891-6. OCLC 911033228.CS1 maint: others (link)
  3. "Biography – JAMES, THOMAS – Volume I (1000-1700) – Dictionary of Canadian Biography". www.biographi.ca. Cyrchwyd 2020-06-16.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 C. M. MacINNES; CAPTAIN THOMAS JAMES AND THE NORTH WEST PASSAGE; THE HISTORICAL ASSOCIATION OF THE UNIVERSITY, BRISTOL; 1967 adalwyd 11 Mehefin 2020
  5. "Northwest Passage | trade route, North America". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-06-11.
  6. Alan Cooke, “JAMES, THOMAS,” yn Dictionary of Canadian Biography, vol. 1, University of Toronto/Université Laval, 2003 adalwyd 11 Mehefin, 2020
  7. Y Llyfrgell Brydeinig, Early voyages for the Northwest Passage adalwyd 111 Mehefin 2020
  8. , The Strange and Dangerous Voyage of Captaine Thomas James ar Archive Org adalwyd 11 Mehefin 2020
  9. "James, Thomas (1592/3–1635), explorer and writer". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/14620. Cyrchwyd 2020-06-11.