Prosiect WiciMôn

Sefydlwyd Prosiect WiciMôn yn 2017 gan Menter Iaith Môn.

Logo WiciMon
Promo cyntaf WiciMôn

Yng ngwanwyn 2017, lansiwyd Prosiect WiciMôn i greu erthyglau gwyddonol cyfrwng Gymraeg er mwyn cyfoethogi a phoblogeiddio cynnwys y Wicipedia Cymraeg – y gwyddoniadur agored. Un o amcanion y prosiect yw codi statws yr iaith Gymraeg yn genedlaethol a rhyngwladol, a hynny drwy greu erthyglau newydd sydd yn rhoi gwybodaeth am elfennau hanesyddol, gwyddonol a ieithyddol Ynys Môn.

Llwyddodd Wici Môn i roi golygu Wicipedia yn uned ar Fagloriaeth Cymru, yn un o 'heriau'r gymuned' (gw. yma), ac yn 2024 roedd yn parhau i gael ei gynnig, ond i Ynys Môn a Gwynedd yn unig.

Menter Môn sy'n arwain ar y prosiect, ac mewn partneriaeth â'r Eisteddfod Genedlaethol a Wici Cymru, yn cynnal gweithdai ar yr Ynys gyda phobl ifanc ac aelodau o'r gymuned ehangach. Bwriad y prosiect yw cynnal gweithdai gyda phobl ifanc i greu erthyglau, eitemau film a radio a datblygu gwaith codio i ddangos sut mae gwyddonwyr, ac felly gwyddoniaeth wedi dylanwadu ar Ynys Môn dros y blynyddoedd.

Nod y prosiect yw ysbrydoli'r rhai sy'n rhan o'r prosiect drwy weithdai gydag arbenigwyr perthnasol, er mwyn iddynt greu erthyglau a chynnwys cyfryngol a fydd yn amlygu rhai o gyflawniadau a darganfyddiadau pwysig gwyddonwyr Cymraeg sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ansawdd bywyd ar yr Ynys a thu hwnt.

Yr Eisteddfod Genedlaethol

golygu

Bydd Menter Iaith Môn yn gweithio'n agos gyda'r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn arddangos cynnyrch y prosiect yn ystod Eisteddfod Ynys Mon 2017. Mi fydd y fenter hefyd yn cydweithio er mwyn plethu elfennau o waith gwyddoniaeth yr Eisteddfod i mewn i'r cynllun hwn. Mae'r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng Wicipedia, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Menter Iaith Môn a Phrifysgol Bangor.

Gobaith y fenter yn y tymor hir yw creu prosiect a fydd yn canolbwyntio ar ardaloedd taith yr Eisteddfod Genedlaethol o amgylch Cymru, gan gynnig cyfleoedd amrywiol i bobl ifanc a gwirfoddolwyr i ddysgu sgiliau newydd i gefnogi'r gwaith o gyfoethogi a phoblogeiddio cynnwys ar y fersiwn Cymraeg o Wicipeida.

Y prosiect

golygu

Bydd y prosiect yn weithredol drwy:

  • Elfen ddigidol yn caniatáu i'r bobl ifanc greu ffilmiau byrion ac eitemau radio sydd yn edrych ar sut mae unigolion o Fôn wedi dylanwadu ar y maes gwyddoniaeth ddoe a heddiw - gan ystyried technoleg, meddygaeth ac adeiladu yn rhan o'r gwead gwyddonol hwnnw. Caiff hyn ei blethu â threftadaeth ac iaith, gan edrych ar sut wnaeth eu hamgylchedd ddylanwadu a'u hysbrydoli er gwaethaf y prinder addysg.
  • Gwybodaeth yn cael ei rannu gyda, neu gyfrannu at brosiectau Wicimedia (e.e. Comin, Wicipedia Cymraeg, Wicidata) ar drwydded agored addas Comin Creu (Creative Commons), ar ffurf ddigidol ffilm a chlipiau sain, eitemau radio, darnau ysgrifenedig a lluniau, fel bod gwybodaeth, dealltwriaeth a hanes yn cael ei rannu â phawb, a hynny er mwyn cyfoethogi defnydd o'r Gymraeg ar y safle. Bydd y bobl ifanc yn cael hyfforddiant uwchwlytho gwybodaeth i Wicipedia.
  • Gweithdai i adnabod termau gwyddonol sydd yn gysylltiedig â'r gwaith, er mwyn hyrwyddo termau gwyddonol Cymraeg safonol ar Wicipedia. Bydd y bobl ifanc yn mynd ati i ymchwilio i'r termau a'r ieithwedd briodol ar gyfer eu cyfraniadau, gan gynnwys ystyr y termau, ac unrhyw ddeunydd atodol perthnasol. Darperir hyfforddiant arbenigol ar yr agweddau hyn. Fel rhan o'r gwaith bydd ystyr llawn i bob term yn cael ei gofnodi.
  • Cyfweliadau rhwng y bobl ifanc ac aelodau o bwyllgorau lleol yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn, sy'n arbenigo mewn pynciau eang perthnasol, e.e. gwyddoniaeth, llenyddiaeth, hanes, iaith, cerddoriaeth, gwerin ayb - bydd yna gyfle i ganfod gwybodaeth cefndir am unigolion ac ardaloedd - clywed hanesion a straeon. Caiff y wybodaeth ei gofnodi'n ysgrifenedig yn ogystal ag ar ffurf amlgyfrwng ar gyfer Wicipedia.

Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017

golygu

Her Prosiect WiciMôn dros wythnos yr Eisteddfod oedd denu pobol Cymru i recordio eu lleisiau yn ynganu enwau lleoedd megis pentrefi, dinasoedd a chymunedau. Cafwyd dros 1,500 o enwau llefydd ar dâp.

Cafwyd Prosiect WiciMôn ei lansio prynhawn dydd Llun am 3:15y.p ar stondin Menter Iaith Môn ac fel rhan o'r lansiad roedd y fenter yn awyddus i gynnal gweithgaredd oedd nid yn unig yn mynd i ddenu pobol Sir Fôn ond Cymru gyfan. Bwriad y fenter oedd cael rhywun o bob ardal/pentref/cymuned i leisio'u hardal benodol.

Mi fydd y clipiau sain wedyn yn cael eu rhoi ar y Wicipedia Cymraeg.

Gweler hefyd

golygu