Dwi'n hoff iawn o wisgo fel gorila.
Servus! Stephen Turner ydw i (neu Stifyn on ôl athrawon Cymraeg henaidd a chyfrifon Wicipedia). Ymunais ar Wicipedia ar yr unfed ar bymtheg o Awst 2009 am rhesymau personol ac aflonyddol. Mae'n annhebygol iawn byddai'n cyfrannu unrhywbeth o werth i'r erthyglau neu'r gwefan fel endid cyfunol, ond dwi'n eitha' brwdfrydig. Dwi'n dod o Gasnewydd ond dwi'n astudio Ffrangeg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae fy mhenblwydd ar y nawfed ar hugain o Fai a dwi'n ei ddathlu pob flwyddyn. Cefais fy eni yng Nghasnewydd yn gynnar yn y nawdegau a cefais fy nysgu yn Ysgol Gymraeg Casnewydd ac wedyn Ysgol Gyfun Gwynllyw. Yn anfodus sai'n ddeall sut i dreiglo, ond dwi'n wastad trio gwella fy hun. Dwi'n bachgen eitha' byr (5'4"/165cm) ond mor bert ydw i, mae pobl yn sgrechian, chwydu a chilio ar y stryd. Dwi'n hoff iawn o ddysgu ieithoedd, gwylio fideos doniol ar YouTube, The Two Ronnies, gwaith Hayao Miyazaki, Rodney Dangerfield a'r rhaglen teledu 'Dinosaurs' (cofia nhw?). Hefyd, anffyddiwr ydw i. Fy hoff anifail yw'r axolotl a dwi'n hefyd hoff iawn o Fydcips.
I gymryd ein perthynas ymhellach, ymwelwch a fy nhudalen Facebook: [1], neu fy nhudalen Sgwrs, neu ewch i'r tudalen Troseddwyr Lleol ar wefan cyngor Casnewydd.
- Beth wyt ti'n galw person sy'n siarad tair iaith? Tairieithog
- Beth wyt ti'n galw person sy'n siarad dwy iaith? Dwyieithog
- Beth wyt ti'n galw person sy' mond yn siarad un iaith? Sais
- C: Beth ydy "chick pea" yn Gymraeg?
- A: Ffa cyw...