Mudkip
Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a grëwyd gan Satoshi Tajiri yw Mudkip (Japaneg: ミズゴロウ - Mizugorou). Mae Mudkip yn un o'r cymeriadau mwyaf amlwg o fewn y gyfres, o ganlyniad i'w rôl bwysig yn yr anime, y manga a'r gemau fideo.
Cymeriad
golyguDaw'r enw Mudkip o'r geiriau Saesneg mud (mwd) a skip (i sgipio). Daw'r enw Siapanëeg Mizugorou o mizu (水 - dŵr) a mutsugorō (ムツゴロウ - math o bysgodyn).
Ffisioleg
golyguMae Mudkip (fel pob Pokémon mae'r enw yn lluosog ac unigol) yn Pokémon dŵr sydd yn edrych fel acsolotlau glas bychain gyda bochau oren, cegau a chynffonnau mawr ac esgyll mawr ar eu bennau. Mae gan Mudkip y gallu i saethu dŵr allan o'u cegau.
Ymddygiad
golyguOherwydd eu bod mor fach, mae Mudkip yn byw a teithio mewn diadellau. Mae pob Mudkip yn amddiffynnol iawn o'u ffrindiau ac yn defnyddio eu esgyll mawr er mwyn synhwyro newidiadau o fewn cerrynt aer a dŵr. Wrth wneud hyn gall Mudkip osgoi ysglyfaethwyr. Maen nhw'n cysgu gan gladdu eu hunain mewn mwd.
Cynefin
golyguDeiet
golyguEffaith diwyllianol
golyguYn Gorffennaf 2010, daliodd Nintendo etholiad i gweld pwy oedd hoff cymeriad chwaraewyr Pokémon. Enillodd Mudkip yr acolad ac aeth yr ail a thrydydd safle i Typhlosion a Blastoise).
Mae'r ymadrodd bachog "So i herd u liek mudkipz?" yn meme rhyngrwyd o fewn y gymdeithas Pokémon ac ar y wefan 4chan.