Defnyddiwr:Twm Elias/Morgrug

Llên Gwerin a Byd Natur:

Morgrug – 5

gan Twm Elias

Nodyn: Agorwch y ddalen Morgrugyn; ceisiwch benderfynnu ble i ychwanegu'r canlynol. Cofiwch fod geirdarddiad / yr enwau amrywiol ayb fel arfer ar y wici Cymraeg yn agos i frig y ddalen.

Pryfed cymdeithasol golygu

Yn achos rhai aelodau o deulu mawr y pryfetach yr enw lluosog ddaw gynta’ pan fyddwn yn cyfeirio atynt, e.e. gwenyn, llau, llyslau, gwybed a morgrug. Cydnabyddiaeth, mae’n debyg, mai yn eu niferoedd y gwelwn ni y rhain fel arfer yn hytrach na fesul un, boed yn wenynen, lleuen, gwybedyn neu forgrugyn. Does dim yn rhyfeddol yn hynny oherwydd creaduriaid torfol ydy nhw beth bynnag – y llau (os cânt lonydd) a’r gwybed yn medru bod yn niferus iawn am eu bod yn bridio mor gyflym tra bod y gwenyn a’r morgrug yn byw yn dorfol mewn nythfeydd anferth o gannoedd a miloedd o unigolion.

Mae y rhain wedi datblygu cyfundrefnau cymdeithasol cyd-ddibynnol hierarchaidd a soffistigedig dan reolaeth brenhines, neu frenhinesau, sy’n fam(au) i’r nythfa gyfan. Mae’n ddadl gan rai, am na fedr unrhyw wenynen na morgrugyn unigol (heblaw am y frenhines efallai am gyfnodau,) fyw yn annibynnol na chenhedlu, mai y nythfa ei hun, sy’n cynnwys y frenhines / brenhinesau, morgrug gwryw a’r llu mawr o weithwyr (sydd yn glônau beth bynnag), ddylsid gael ei hystyried fel yr uned rywogaethol yn hytrach na’r morgrug unigol. Mi adawa’i chi  bendroni am hynny!

Yn sicr, mae trefn dorfol y nythfa yn hanfodol i lwyddiant y pryfed cymdeithasol hyn a bod cydweithredu wedi rhoi mantais aruthrol iddyn nhw i reoli ag egsploetio’u cynefin ac i amddiffyn eu hunnain neu, yn hytrach, y nyth yn effeithiol. Ar y cyd gallant godi nythod mawr sy’n hynod o gywrain. Fel y dywedodd rhywun o Faldwyn wrtha i flynyddoedd yn ôl bellach: ‘go brin y buase un morgrugyn yn llwyddo i wneud llawer, ond mi fedr cant godi twmpath a miliwn godi mynydd (o bridd)’.

Enwau morgrugaidd golygu

Er bod tua 15,000 o wahanol rywogaethau o forgrug yn wybyddus drwy’r byd, 42 ohonyn nhw yng ngwledydd Prydain, prin oedd yr enwau llafar ar y gwahanol fathau mewn unrhyw iaith tan yn ddiweddar. Fel y crybwyllais eisoes yn y gyfres hon, enwi pethau yn ôl eu defnyddioldeb fyddai gwerin gwlad ac os nad oedd y creadur dan sylw yn bwysig – yn fwytadwy, yn feddyginiaeth, yn bla neu yn arwydd tywydd neu dymor, mi wnai’r enw ‘morgrug’ yn iawn am y cyfan. Eto fyth, yn y Gymraeg, ceir: morgrug coch (mewn gerddi a chloddiau pridd), morgrug du (dan balmant yr ardd), morgrug melyn (gaiff hefyd eu galw yn forgrug y maes) a morgrug y coed (sy’n fwy o faint).

Dywedir hefyd am forgrug asgellog, ond cyfeirio wna’r enw hwn at gyflwr ehedog y morgrug gwryw a’r brenhinesau ifanc o bob rhywogaeth pan fyddant yn gadael eu twmpathau nythu a chodi’n uchel i’r awyr ar eu ehediad caru. Dim ond o dan amodau arbennig ym misoedd Gorffennaf ag Awst y digwydda hyn – ar b’nawn tawel a phoeth pan fydd lleithder yr awyr yn weddol uchel. Bydd gan pob rhywogaeth ei hamodau penodol ei hun i heidio a phan ddigwyddith hynny bydd cymylau trwchus o forgrug o’r rhywogaeth honno yn codi o dwmpathau dros ardal eang. Bydd eu cyd amseru yn rhyfeddol. Pan welwn heidiau o forgrug ar eu hediad, bydd yn arwydd o dywydd braf, ond bod hefyd siawns dda o derfysg cyn bo hir[1].

Maw-, mor, mŷr golygu

Mewn rhai ardaloedd ceir enwau eraill ar forgrug. Mawion, neu mowion yn yr hen Sir Ddinbych[2], tra, yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, arferid yr enwau mŷr, myrion (unigol: myrionen) yn nwyrain Morgannwg a myrdwyn am dwmpath morgrug. Nodir hefyd mor, môr, morion (unigol: morionen)[3], sy'n debyg iawn i’r enwau: meryan (Cernyweg) a merion, merien (Llydaweg).

Enwau cyfredol golygu

Daw’r enwau hyn â ni yn daclus at wreiddiau ein henw presennol am forgrug. Yr enw gwyddonol ar ein morgrug coch cyffredin ni yw Myrmica rubra – sylwch ar yr elfen ‘myr’ ynddo ac ystyriwch hefyd bod y gair morgrug yn tarddu o ‘mor’ a ‘crug’ – y crug yn golygu twmpath neu fryncyn fel y gwelwn mewn enwau lleoedd megis Crug y bar, Crughywel. Cyfeirio at y twmpath neu’r nythfa wna’r enw morgrug felly, ac mae hynny’n rhoi’r argraff i mi bod ein cyn deidiau ni, yma yng Nghymru, yn ystyried mai y nythfa oedd bwysicaf yn hytrach na’r morgrugyn ar ben ei hun.

Gweithwyr caled golygu

Mae morgrug, am eu bod yn gweithio mor drefnus, diwyd a diflino, wedi ennyn edmygedd pobl ar draws y byd ac yn batrwm o weithgarwch cynhyrchiol inni ei efelychu. Yn Llyfr y Diarhebion yn y Beibl ceir yr adnod: “Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth”[4]. Ym Moroco, ystyrid bod bwyta nifer o forgrug yn fodd i gael gwared o ddiogi.   

Yn Ewrop esgorodd y ddelwedd hon o’r morgrug gweithgar ar sawl dameg neu foeswers. Y mwyaf adnabyddus yw Chwedlau Æsop. Caethwas (ond yn un breintiedig) yng Ngroeg yn y 6ed ganrif CC oedd Æsop a chyhoeddwyd sawl fersiwn Gymraeg o rai ohonynt dros y ddwy ganrif ddiwethaf: Y morgrugyn a’r ceiliog rhedyn – yn cyferbynu’r ceiliog rhedyn fu’n gwastraffu ei amser yn canu drwy’r haf â’r morgrugyn fu’n hel storfa o fwyd at y gaeaf (5). Y morgrugyn ymffrostgar – mae’r un bychan ymhlith rhai llai yn gweld ei hun yn fwy na phawb, ond bychan iawn ydi o mewn gwirionedd pan geisith ymffrostio ymysg rhai mwy.[5]

Y morgrugyn a’r golomen – stori am forgrugyn a ddisgynodd i ffynnon â’r golomen yn gollwng deilen i’r dŵr i’w achub.  Talwyd y pwyth yn ôl pan frathodd y morgrugyn sawdl dŷn oedd ar fin dal y golomen, gan ei galluogi i ddianc. Y wers ydy bod yr un cymwynas yn teilyngu y llall[6]

Morgrug yn y chwedlau Cymreig golygu

Mae gan forgrug le anrhydeddus yn y chwedlau Cymreig hefyd. Yn stori Culhwch ac Olwen[7], un o’r tasgau amhosib a osodwyd gan Ysbadadden Bencawr i Culhwch eu cyflawni cyn y gallai ennill llaw Olwen mewn priodas, oedd adfer naw llond llestr o had llin a heuwyd mewn llain arbennig o dir. Wrth lwc, pan achubodd un o gynorthwyr Culhwch, Gwythyr fab Greidawl, dwmpath morgrug rhag cael ei losgi gan dân cytunodd y morgrug diolchgar i hel yr hadau o’r pridd ar ei ran. Dyna wnaethpwyd ac roedd Gwythyr yn falch iawn pan gyrhaeddodd morgrugyn bach cloff efo’r hedyn ola’ un.  

Defnyddiau meddygol golygu

Prin yw’r cyfeiriadau at ddefnyddiau meddygol morgrug. Ond byddai b’yta wyau morgrug efo mêl yn rysait i leddfu siom cariad nas cydnabyddir. Yn yr Alban rhoddid wyau morgrug a sug nionyn yn y glust i wella byddardod, tra y defnyddid pâst o forgrug wedi eu morteru’n fân efo malwen mewn finegr i waredu dafaden oddi ar y croen. Byddai natur asid y morgrug a’r finegr gyda’i gilydd yn siwr o fod yn effeithiol yn yr achos hwn[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Am y Tywydd (2008), Twm Elias, tud. 132
  2. The Linguistic Geography of Wales (1973), Alan R Thomas, tud. 428.
  3. Geiriadur Prifysgol Cymru URL?
  4. Y Beibl:Diarhebion VII, 7
  5. Chwedlau neu Ddammegion Æsop, cyfres gyntaf (dim dyddiad), Glan Alun, chwedl 7.
  6. Dammegion Æsop, yr ail gyfres (dim dyddiad) Cyh. Hughes, Wrecsam, chwedl 56.
  7. Culhwch ac Olwen, cyfaddasiad newydd Gwyn Thomas (1988), tud. 44 – 45.
  8. Cassell’s Dictionary of Superstitions (1995), tud. 25