Morgrugyn

Grŵp llwyddiannus iawn o bryfed yw morgrug. Mae 11,844 o rywogaethau wedi'u cofnodi ledled y byd, yn enwedig mewn hinsoddau poeth. Mae llawer o forgrug yn ffurfio cytrefi o filiynau o unigolion.

Mae morgrug yn bryfed cymdeithasol o'r teulu Formicidae ac, ynghyd â'r gwenyn meirch a gwenyn cysylltiedig, maent yn perthyn i'r urdd Hymenoptera. Mae morgrug yn ymddangos yn y cofnod ffosil ar draws y byd gan amrywio'n sylweddol yn ystod y cyfnod Cretasaidd Cynnar a'r Cretasaidd Diweddar, sy'n awgrymu tarddiad cynharach. Esblygodd morgrug gan arallgyfeirio ar ôl esblygiad a thwf planhigion blodeuol. Amcangyfrifir fod dros13,800 o 22,000 o rywogaethau wedi'u dosbarthu a'u cofnodi. Cant eu hadnabod yn hawdd drwy eu teimlyddion a'u canol main.

Mae morgrug yn ffurfio cytrefi, neu nythod, sy'n amrywio o ran maint o ychydig ddwsin o unigolion rheibus sy'n byw mewn ceudodau naturiol bach i gytrefi hynod o drefnus a all gynnwys miliynau o unigolion. Mae'r cytrefi mwy yma'n cynnwys mathau amrywiol o fenywod diffrwyth, heb adenydd, y rhan fwyaf ohonynt yn weithwyr, yn ogystal â milwyr a grwpiau arbenigol eraill. Mae gan bron bob nythfa o forgrug hefyd rai gwrywod ffrwythlon o'r enw "gwenyn gormesol" (Sa: drones) ac un neu fwy o fenywod ffrwythlon a elwir yn "freninesau". Disgrifir y cytrefi fel uwch-organebau oherwydd ymddengys bod y morgrug yn gweithredu fel un, gan gydweithio i gynnal y nythfa.

Fideo o forgrug yn casglu bwyd

Mae morgrug wedi gwladychu bron pob rhan o'r Ddaear. Yr unig leoedd sydd heb forgrug cynhenid yw'r Antarctig ac ychydig o ynysoedd anghysbell. Mae morgrug yn ffynnu yn y rhan fwyaf o ecosystemau a gallant ffurfio 15-25% o fio-màs anifeiliaid daearol. Mae eu llwyddiant mewn cymaint o amgylcheddau wedi'i briodoli i'w rhinweddau cymdeithasol, a'u gallu i addasu cynefinoedd, defnyddio adnoddau lleol, ac amddiffyn eu hunain. Mae eu cyd-esblygiad hir â rhywogaethau eraill wedi arwain at berthnasoedd dynwaredol, parasitig, a chydfuddiannol.

Mae gan gymdeithasau morgrug raniad llafur ac mae'r unigolion yn cyfathrebu a'i gilydd gan ddatrys problemau cymhleth. Mae'r tebygrwydd hyn â chymdeithasau dynol wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn bwnc astudio ers tro: gw. yr adran Prysurdeb diarhebol, isod. Defnyddir morgrug mewn bwyd, mewn meddyginiaeth, a defodau. Mae rhai rhywogaethau'n cael eu gwerthfawrogi yn eu rôl fel cyfryngau biolegol i reoli plâu. Gall eu gallu i ymelwa ar adnoddau ddod â morgrug i wrthdaro â bodau dynol, fodd bynnag, gan y gallant niweidio cnydau a thanseilio adeiladau. Mae rhai rhywogaethau, fel y morgrug tân coch (Solenopsis invicta), yn cael eu hystyried yn rhywogaethau ymosodol, ymledol, gan sefydlu eu hunain mewn ardaloedd lle maent wedi'u cyflwyno'n ddamweiniol.

Enw ac etymolegGolygu

Yn achos rhai aelodau o ddosbarth mawr y pryfetach yr enw lluosog ddaw gynta’ pan fyddwn yn cyfeirio atynt, e.e. gwenyn, llau, llyslau, gwybed a morgrug. Cydnabyddiaeth, mae’n debyg, mai yn eu niferoedd y gwelwn ni y rhain fel arfer yn hytrach na fesul un, boed yn wenynen, lleuen, gwybedyn neu forgrugyn. Does dim yn rhyfeddol yn hynny oherwydd creaduriaid torfol ydy nhw beth bynnag – y llau (os cânt lonydd) a’r gwybed yn medru bod yn niferus iawn am eu bod yn bridio mor gyflym tra bod y gwenyn a’r morgrug yn byw yn dorfol mewn nythfeydd anferth o gannoedd a miloedd o unigolion.[1]

  • morgrug
[*mor (gw. mŷr1, a cf. mor2)+crug]

e.ll. (un. g. morgrugyn) ll. dwbl morgrugion, morgrugiaid.

Swol. Pryfed bychain cymdeithasol o deulu’r Formicidæ sy’n byw gan amlaf mewn nythod dan y ddaear ac a nodweddir gan eu trefn a’u diwydrwydd, bywion, grugion, mywion, hefyd yn ffig.:

ants, also fig. 

Enghraifft gynharaf:
14g. WM 4698-10, deng milltir adeugeint y clywei y morgrugyn y bore pan gychwhynnei [sic] y ar lwth.
  • mŷr,
[H. Grn. menƿionen [?sic], gl. formica, Crn. Diw. mwrrian, H. Lyd. moriuon, Llyd. C. meryenenn, Llyd. Diw. merien, merienenn, Gwydd. C. moirb: o’r gwr. IE. *moru̯i- ‘morgrugyn’, cf. e. lle Lladin Prydain Morionio; dichon fod y ff. un. yn adff. o’r ll.] eb. ll. myrion (bach. g. myrionyn, b. myrionen). Morgrugyn: ant.[2]

Enghraifft gynharaf:

1632 D, morgrug … est potiùs Tuberculum formicarum, quod Dem. Myrdwyn, à Myr, Formicæ, & Twyn. Nam Mor & Myr est Formica. Lluosog: Morion, & Myrion.

Ymddengys felly bod ein gair modern yn cynnwys mor- (= gair gwreiddiol am forgrug) a -crug (bryn). Onid gair am y twmpath, nid y trychfilyn, oedd morgrug yn wreiddiol?

Yr enw gwyddonol ar ein morgrug coch cyffredin ni yw Myrmica rubra – syler ar yr elfen ‘myr’ ynddo a bod y gair morgrug yn tarddu o ‘mor’ a ‘crug’ (3) – y crug yn golygu twmpath neu fryncyn fel y gwelwn mewn enwau lleoedd megis Crug y bar, Crughywel. Cyfeirio at y twmpath neu’r nythfa wna’r enw morgrug felly, ac mae hynny’n rhoi’r argraff bod ein cyn deidiau ni, yma yng Nghymru, yn ystyried mai'r nythfa oedd bwysicaf yn hytrach na’r morgrugyn ar ben ei hun. Ceir gwahanol fathau – morgrug coch (mewn gerddi a chloddiau pridd), morgrug duon (yn nythu dan balmant yr ardd), morgrug melyn neu forgrug y maes (yn creu twmpathau) a morgrug y coed (sy’n fwy o faint, ac i’w cael dan goed). Mewn rhai ardaloedd mi ceir enwau eraill ar forgrug: mawion, neu mowion yn yr hen Sir Ddinbych, tra, yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, arferid yr enwau mŷr, myrion (unigol: myrionen) yn nwyrain Morgannwg. Ceir hefyd morion, neu môr, (unigol: morionen), sydd yn debyg iawn i’r enw merion, merien (Llydaweg).[3]

Morgrug hedegogGolygu

 
Dyddiadau hedfan morgrug, Cymru yn bennaf 1933-2010

Credir mai tywydd arbennig syth yn sbarduno i freninesau gymryd i'r awyr yn eu miloedd ddiwedd yr haf. Bydd gwylannod, wenoliaid ac adar eraill yn manteisio ar gyflenwad parod o fwyd. Dyma gofnod gan Gwyn Williams, Rhuthun:

Rhuthun, 26 Gorffennaf 2010, am tua 7 o'r gloch ar noson drymaidd gweddol gynnes, penderfynodd trigolion cannoedd o nythod morgrug hedfan i'r awyr yn Rhuthun. Roedd o leiaf 10 o nythod yn un o'r gerddi a archwiliwyd - i gyd yn arllwys morgrug adeiniog i'r awyr.[4]

Dyma ddyddiadau eraill enghreifftiol o hedfan morgrug (yn nhrefn amser) yn Nhywyddiadur Llên Natur (mae'n debyg mai'r morgrugyn melyn Lasius flavusoedd y rhan fwyaf ohonynt):

  • 26 Medi 1946 Minehead: gweler Mr. A. V. Cornish saw Jackdaws hawking flying ants.
  • 13 Awst 1987 Sidmouth, Dyfnaint
  • 6 Awst 1988 Birmingham: cwyno mawr eu bod yn mynd i bobman.
  • 11 Awst 1988 Harlech: Porthdinllaen.
  • 4 Medi 1988 Trefor, Arfon.
  • 12 Awst 1990 Cwmistir, Tudweiliog
  • 19 Awst 1990 Ynys Enlli
  • 28 Gorffennaf 1992 Waunfawr
  • 24 Awst 1994 “yn blastar dros y lôn”. Foryd Caernarfon
  • 29 Awst 1994 Pontrug 6 Awst 2002: ”criw mawr o wylanod penddu uwchben”.
  • 26 Gorffennaf 2006 Waunfawr: “ar hyd y lonydd a'r ceir”.
  • 24 Gorffennaf 2008 Dulyn, : adroddiad radio o Iwerddon.
  • 28 Gorffennaf 2008 Llansadwrn[5]

Sylwer mai ym mis Gorffennaf mae'r cofnodion diweddaraf.

Y Cylch-bywydGolygu

Ym mis Awst mi allwn ni ddisgwyl gweld y sioe ryfeddol honno o forgrug asgellog yn codi o’u nythod i hedfan ar eu dawns garwriaethol. Mae’r olygfa hon yn un o ryfeddodau byd natur, a dim ond dan amodau penodol iawn y bydd yn digwydd – ar brynhawn tawel a phoeth pan fydd lleithder yr awyr yn weddol uchel. Mi fydd gan pob un o’r 42 o wahanol rywogaethau o forgrug yng ngwledydd Prydain eu hamodau eu hunain, o ran tymheredd a lleithder, cyn y gwnân nhw heidio fel hyn. Mae hyd yn oed 1⁄2° o wres yn gwneud gwahaniaeth – â’r rheswm pam, ydi, i sicrhau, yn un peth, mai dim ond y rhywogaeth honno fydd ar ei hediad – i osgoi mynd ar draws rhai eraill. Rheswm arall ydi i sicrhau bod morgrug gwryw a brenhinesau o wahanol nythod, ond o’r un math, yn dod at ei gilydd ar yr adeg iawn – a hynny’n gymylau trwchus o forgrug o nythod dros ardal eang. Mae raid i’w cyd amseru nhw fod yn berffaith, am mai un cyfle sydd yna yn y flwyddyn – i gael y dyddiad, yr awr, a’r amodau i’r dim. I ni, pan fydd heidiau o forgrug ar eu hediad, mi fydd yn arwydd o dywydd braf, ond bod yna hefyd siawns dda o derfysg cyn bo hir. Mae trefn dorfol y nythfa, efo’i chyfundrefn gymdeithasol gyd-ddibynnol ac i gyd yn gynnyrch brenhines, sy’n fam i’r nythfa gyfan, yn hanfodol i lwyddiant y cyfan. Mi roddodd cydweithredu fel hyn fantais aruthrol i’r morgrug i reoli ag egsploetio’u cynefin ac i amddiffyn eu hunain, neu’r nyth yn hytrach, rhag gelynion. Fel y dywedodd rywun: ‘go brin y llwydda un morgrugyn i ’neud llawer, ond mi fedr cant godi twmpath a miliwn godi mynydd’ (o bridd).[6]

Prysurdeb diarhebolGolygu

Mae morgrug, am eu bod yn gweithio mor drefnus, diwyd a diflino, wedi ennyn edmygedd pobl ar draws y byd ac yn batrwm o weithgarwch cynhyrchiol inni ei efelychu. Yn Llyfr y Diarhebion yn y Beibl ceir yr adnod: “Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth”[7]. Ym Moroco, ystyrid bod bwyta nifer o forgrug yn fodd i gael gwared o ddiogi. Yn Ewrop esgorodd y ddelwedd hon o’r morgrug gweithgar ar sawl dameg neu foeswers. Y mwyaf adnabyddus yw Chwedlau Æsop. Caethwas (ond yn un breintiedig) yng Ngroeg yn y 6g CC oedd Æsop a chyhoeddwyd sawl fersiwn Gymraeg o rai ohonynt dros y ddwy ganrif ddiwethaf.

  • Y morgrugyn a’r ceiliog rhedyn – yn cyferbynu’r ceiliog rhedyn fu’n gwastraffu ei amser yn canu drwy’r haf â’r morgrugyn fu’n hel storfa o fwyd at y gaeaf[8]
  • Y morgrugyn ymffrostgar – mae’r un bychan ymhlith rhai llai yn gweld ei hun yn fwy na phawb, ond bychan iawn ydi o mewn gwirionedd pan geisith ymffrostio ymysg rhai mwy[9].
  • Y morgrugyn a’r golomen – stori am forgrugyn a ddisgynodd i ffynnon â’r golomen yn gollwng deileni’r dŵr i’w achub. Talwyd y pwyth yn ôl pan frathodd y morgrugyn sawdl dỳn oedd ar fin dal y golomen, gan ei galluogi i ddianc. Y wers ydy bod yr un cymwynas yn teilyngu y llall[10].
  • Gwythyr a’r morgrug Mae gan forgrug le anrhydeddus yn y chwedlau Cymreig hefyd. Yn stori Culhwch ac Olwen (8), un o’rtasgau amhosib a osodwyd gan Ysbadadden bencawr i Culhwch eu cy"awni cyn y gallai ennill llaw Olwen mewn priodas, oedd adfer naw llond llestr o had llin a heuwyd mewn llain arbennig o dir. Wrth lwc, pan achubodd un o gynorthwyr Culhwch, Gwythyr fab Greidawl, dwmpath morgrug rhag cael ei losgi gan dân cytunodd y morgrug diolchgar i hel yr hadau o’r pridd ar ei ran. Dyna wnaethpwyd ac roedd Gwythyr yn falch iawn pan gyrhaeddodd morgrugyn bach clo+ efo’r hedyn ola’ un.[11]

Defnyddiau meddygolGolygu

Prin yw’r cyfeiriadau at ddefnyddiau meddygol morgrug. Ond byddai bwyta wyau morgrug efo mêll yn rysait i leddfu siom cariad nas cydnabyddir. Yn yr Alban rhoddid wyau morgrug a sug nionyn yn y glust i wella byddardod, tra y defnyddid pâst o forgrug wedi eu morteru’n fân efo malwen mewn finegr i waredu dafaden oddi ar y croen. Byddai natur asid y morgrug a’r finegr gyda’i gilydd yn siwr o fod yn effeithiol yn yr achos hwn[12]

Tacsonomeg ac esblygiadGolygu

Aculeata

Chrysidoidea


 
 

Vespidae



Rhopalosomatidae



 
 

Pompilidae



Tiphiidae



 

Scolioidea


 

Apoidea



Formicidae







Phylogenetic position of the Formicidae[13]

Mae'r teulu Formicidae'n perthyn i'r urdd Hymenoptera, sydd hefyd yn cynnwys llifbryfed, gwenyn, a gwenyn meirch. Datblygodd morgrug o linach o fewn y gwenyn meirch pigog, ac mae astudiaeth yn 2013 yn awgrymu eu bod yn chwaer grŵp i'r Apoidea. Ym 1966, cofnododd E.O. Wilson a'i gydweithwyr weddillion ffosil morgrugyn Sphecomyrma a oedd yn byw yn y cyfnod Cretasaidd. Mae'r sbesimen, yn sownd mewn ambr ac yn dyddio'n ôl i tua 92 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP). Roedd ganddo nodweddion a ddarganfuwyd mewn rhai gwenyn meirch, ond nad ydynt i'w cael mewn morgrug modern.[14] Mae'n bosibl bod Sphecomyrma yn chwiliwr tir, tra bod Haidomyrmex a Haidomyrmodes, genera cysylltiedig yn yr is-deulu Sphecomyrminae, yn cael eu disgrifio fel ysglyfaethwyr coedydd.[15] Mae morgrug hŷn yn y genws Sphecomyrmodes wedi’u canfod mewn ambr 99 miliwn oed o Myanmar.[16][17] Awgrymodd astudiaeth yn 2006 fod morgrug wedi codi ddegau o filiynau o flynyddoedd ynghynt nag a dybiwyd yn flaenorol, hyd at 168 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[18] Ar ôl cynnydd planhigion blodeuol tua 100 miliwn o flynyddoedd CP fe wnaethant arallgyfeirio a chredir iddyn nhw gyrraedd goruchafiaeth ecolegol tua 60 miliwn o flynyddoedd CP.[19][18][20][21] Awgrymir bod rhai grwpiau, fel y Leptanillinae a'r Martialinae, wedi arallgyfeirio oddi wrth forgrug cyntefig cynnar a oedd yn debygol o fod yn ysglyfaethwyr o dan wyneb y pridd. [22]

 
Morgrug wedi'u ffosileiddio yn ambr y Baltig

Yn ystod y cyfnod Cretasaidd, roedd rhai rhywogaethau o forgrug cyntefig yn amrywio'n eang ar uwchgyfandir Lauras (Hemisffer y Gogledd). Mae eu cynrychiolaeth yn y cofnod ffosil yn wael, o'i gymharu â phoblogaethau o bryfed eraill, gan gynrychioli dim ond tua 1% o dystiolaeth ffosil o bryfed y cyfnod. Daeth morgrug yn rhywogaeth grymus ar ddechrau'r cyfnod Paleogen ac erbyn yr Oligosen a'r Mïosen, roedd morgrug wedi dod i gynrychioli 20-40% o'r holl bryfed a ddarganfuwyd mewn ffosiliau. O'r rhywogaethau a oedd yn byw yn yr epoc Eocen, mae tua un o bob 10 genera wedi goroesi hyd heddiw.[19][23]

Dosbarthiad ac amrywiaethGolygu

Rhanbarth Nifer o
rywogaethau[24]
Neotropics 2,162
Nearctig 580
Ewrop 180
Affrica 2,500
Asia 2,080
Melanesia 275
Awstralia 985
Polynesia 42

Mae gan forgrug ddosraniad cosmopolitan ac maent i'w cael ar bob cyfandir ac eithrio Antarctica, a dim ond ychydig o ynysoedd mawr, megis yr Ynys Las, Gwlad yr Iâ, rhannau o Polynesia ac Ynysoedd Hawaiaidd sydd â diffyg rhywogaethau brodorol o forgrug.[25][26] Fe'u ceir mewn cilfachau ecolegol gan fanteisio ar lawer o wahanol adnoddau bwyd fel llysysyddion uniongyrchol neu anuniongyrchol, ysglyfaethwyr a sborionwyr (scavengers). Mae'r rhan fwyaf o rywogaethau morgrug yn gyffredinolwyr hollysol, ond mae rhai'n borthwyr arbenigol. Mae eu biomas yn dangos eu goruchafiaeth ecolegol: amcangyfrifir bod morgrug yn cyfrannu 15–20 % - ar gyfartaledd a bron i 25% yn y trofannau - o fiomas anifeiliaid daearol, sy'n fwy na'r fertebratau.[27]

Mae morgrug yn amrywio mewn maint o 0.75 i 52 mm[28][29]; y rhywogaeth fwyaf oedd y ffosil Titanomyrma giganteum, sef brenhines a oedd yn 60 mm o hyd ac yn 150 mm o adain i adain.[30] Gall lliw morgrug amrywio, gyda'r rhan fwyaf o yn goch neu'n ddu, ond mae rhai rhywogaethau'n wyrdd ac mae gan rai trofannol liw metelaidd. Ceir dros 13,800 o rywogaethau wedi'u cofnodi, ar hyn o bryd[31], gydag amcafswm posibl o tua 22,000, gyda'r amrywiaeth mwyaf yn y trofannau. Mae astudiaethau tacsonomig yn parhau i ddatrys dosbarthiad a thacson y morgrug. Ymhlith y cronfeydd data ar-lein o rywogaethau morgrug, mae AntWeb a Hymenoptera Name Server, sy'n cynorthwyo i gadw cofnod o'r rhywogaethau hysbys a'r rhai sydd newydd eu disgrifio.[31] Mae rhwyddineb cymharol samplu ac astudio morgrug mewn ecosystemau wedi eu gwneud yn ddefnyddiol fel rhywogaethau dangosol mewn astudiaethau bioamrywiaeth.[32][33]

MorffolegGolygu

Mae morffoleg morgrug yn wahanol i bryfed eraill oherwydd bod ganddynt deimlyddion (antennae), chwarennau metaplewrol, a chyfyngiad (gwasgiad) cryf o'u hail segment abdomenol sy'n debyg i nodau (nodes). Gellir rhannu'r corff yn dair rhan: y pen, y mesosoma, a'r metasoma, y tri segment gwahanol (tagmata yn ffurfiol). Mae'r petiol yn ffurfio gwasg gul rhwng eu mesosoma (ythoracs ynghyd â'r segment abdomenol cyntaf, sy'n cael ei asio iddo) a gaster (abdomen llai'r segmentau abdomenol yn y petiol). Gall y petiol gael ei ffurfio gan un neu ddau nod (yr ail yn unig, neu'r ail a'r trydydd segment abdomenol).[34]

Fel pryfed eraill, mae gan forgrug allsgerbwd, gorchudd allanol sy'n darparu tarian amddiffynnol o amgylch y corff a man i angori'r cyhyrau, yn gwbwl wahanol i sgerbydau mewnol bodau dynol a fertebratau eraill. Nid oes gan bryfed ysgyfaint; mae ocsigen a nwyon eraill, fel carbon deuocsid, yn mynd trwy eu hallsgerbydau trwy falfiau bach o'r enw sbiraglau. Nid oes gan bryfed bibellau gwaed caeedig, ond mae ganddynt diwb hir, tenau, tyllog ar hyd pen y corff (a elwir yn "aorta ddorsal") sy'n gweithredu fel calon, ac yn pwmpio haemolymff tuag at y pen, gan yrru cylchrediad yr hylifau mewnol. Mae'r system nerfol yn cynnwys llinyn nerf fentrol sy'n rhedeg ar hyd y corff, gyda nifer o ganglia a changhennau ar hyd y ffordd yn ymestyn i eithafion yr atodiadau (ee y coesau).[35]

PenGolygu

 
Morgrugyn gwrywaidd yn dangos y asgwrn yr ên (y mandiblau) pwerus a'r llygaid cyfansawdd cymharol fawr sy'n darparu golwg ardderchog
 
Manlylun o'r pen

Mae gan ben y morgrugyn lawer o organau synhwyro. Fel y rhan fwyaf o bryfed, mae gan forgrug lygaid cyfansawdd wedi'u gwneud o nifer o lensys bach ynghlwm wrth ei gilydd. Mae llygaid morgrug yn dda ar gyfer canfod symudiadau acíwt, ond nid ydynt yn cynnig delwedd cydraniad uchel. Mae ganddyn nhw hefyd dri ocelli bach (llygaid syml) ar ben y pen sy'n canfod lefelau a chyfeiriad golau a pholareiddio.[36] O'u cymharu â fertebratau, mae golwg y morgrug yn dueddol o fod yn fwy aneglur, yn enwedig mewn rhywogaethau llai,[37] ac mae rhai tacsa tanddaearol yn gwbl ddall. Fodd bynnag, mae gan rai morgrug, megis y Myrmecia o Awstralia, olwg ardderchog a gallant wahaniaethu ar bellter a maint gwrthrychau sy'n symud bron i fetr i ffwrdd.[38]

Mae dwy deimlydd (ll. teimlyddion) ynghlwm wrth y pen; mae'r organau hyn yn canfod cemegau, cerrynt aer a dirgryniadau; maent hefyd yn cael eu defnyddio i drosglwyddo a derbyn signalau trwy gyffwrdd. Mae gan y pen ddwy ên gref, y mandiblau, a ddefnyddir i gludo bwyd, i drin gwrthrychau, adeiladu nythod, ac amddiffyn.[35] Mewn rhai rhywogaethau, mae poced fach (y siambr infrabuccal) y tu mewn i'r geg lle gellir storio bwyd er mwyn ei drosglwyddo i forgrug eraill neu eu chwiler.[39]

Cylch bywydGolygu

Dechreua bywyd morgrugyn o'r wy; os yw'r wy wedi'i ffrwythloni, bydd yr epil yn ddiploid benywaidd, os na, haploid gwrywaidd fydd e. Mae morgrug yn datblygu trwy fetamorffosis llwyr gyda chyfnodau'r larfa yn mynd trwy gyfnod chwiler cyn dod allan fel oedolyn. Mae'r larfa yn ansymudol ar y cyfan ac yn cael ei fwydo a'i ofalu gan weithwyr. Rhoddir bwyd i'r larfa trwy droffalaxis, proses lle mae'r morgrugyn yn aildyfu bwyd hylifol a gedwir yn ei geg. Dyma hefyd sut mae oedolion yn rhannu bwyd, wedi'i storio yn y "stumog gymdeithasol". Gellir darparu bwyd solet hefyd i larfâu, yn enwedig yn y cyfnodau diweddarach, fel wyau troffig, darnau o ysglyfaeth, a hadau a gludir gan weithwyr.[40]

Mae'r larfa'n tyfu trwy fwrw eu crwyn pedwar neu bump o weithiau ac yn mynd i mewn i'r cyfnod chwiler. Mae gan y chwiler yr atodiadau'n rhydd ac nid ydynt wedi'u hasio i'r corff fel mewn chwiler gloyn byw.[41] Mae'r gwahaniaeth i freninesau a gweithwyr (a'r ddwy'n fenywaidd), a gwahanol fathau (cast) o weithwyr, yn cael ei ddylanwadu mewn rhai rhywogaethau gan y maeth a gaiff y larfa. Mae dylanwadau genetig yn gymhleth ac mae pennu cast yn parhau i fod yn destun ymchwil.[42] Mae morgrugyn gwryw asgellog, a elwir yn wenynen ormes ('drone')[43], yn dod allan o'r chwiler, ynghyd â'r benywod sydd, fel arfer, magu adenydd. Mae gan rai rhywogaethau, fel morgrug y fyddin (y marabunta), freninesau heb adenydd. Mae angen cadw'r larfa a'r chwilerod ar dymheredd gweddol gyson er mwyn sicrhau datblygiad priodol, ac felly'n aml mae nhw'n cael eu symud o gwmpas o siambr i siambr yn y nythfa.[44]

Mae'r ergate newydd yn treulio ychydig ddyddiau cyntaf ei fywyd fel oedolyn yn gofalu am y frenhines a'r ifanc. Yna mae'n graddio i gloddio a gwaith nythu, ac yn ddiweddarach i amddiffyn y nyth a chwilota. Mae'r newidiadau hyn weithiau'n weddol sydyn. Yr esboniad am y dilyniant hwn yw y ceir nifer fawr o anafiadau sy'n gysylltiedig â chwilota am fwyd, sy'n ei wneud yn risg dderbyniol dim ond i forgrug hŷn sy'n debygol o farw o achosion naturiol.[45][46]

Gall cytrefi morgrug fod yno am amser hir. Gall y breninesau fyw hyd at 30 mlynedd, a gweithwyr rhwng 1 a 3 blynedd. Mae gwrywod, fodd bynnag, yn fyrhoedlog, gan oroesi am ychydig wythnosau'n unig.[47] Amcangyfrifir bod breninesau morgrug yn byw 100 gwaith cyhyd â phryfed unigol o faint tebyg.[48]

Ymddygiad ac ecolegGolygu

CyfathrebuGolygu

 
Dau weithiwr Camponotus sericeus yn cyfathrebu trwy gyffwrdd a pheromonau

Mae morgrug yn cyfathrebu â'i gilydd gan ddefnyddio fferomonau, synau a chyffyrddiad.[49] Mae'r defnydd o fferomonau fel signalau cemegol wedi'u datblygu'n fwy mewn morgrug, fel y cynaeafwr coch (Pogonomyrmex barbatus), nag mewn grwpiau hymenopteraidd eraill. Fel pryfed eraill, mae morgrug yn canfod arogleuon gyda'u teimlyddion hir, tenau a symudol. Mae'r parau o deimlyddion yn darparu gwybodaeth am gyfeiriad a dwyster yr arogleuon. Gan fod y rhan fwyaf o forgrug yn byw ar y ddaear, maen nhw'n defnyddio wyneb y pridd i adael llwybrau fferomon y gall morgrug eraill eu dilyn. Mewn rhywogaethau sy'n chwilota mewn grwpiau, mae chwiliwr sy'n dod o hyd i fwyd yn marcio'r llwybr ar y ffordd yn ôl i'r nythfa; dilynir y llwybr hwn gan forgrug eraill, mae'r morgrug hyn wedyn yn atgyfnerthu'r llwybr pan fyddant yn mynd yn ôl gyda bwyd i'r nythfa. Pan fydd y ffynhonnell fwyd wedi dod i ben, ni chaiff unrhyw lwybrau newydd eu nodi gan forgrug sy'n dychwelyd ac mae'r arogl yn diflannu'n araf. Mae hyn yn helpu'r morgrug i ymdopi â newidiadau yn eu hamgylchedd. Er enghraifft, pan fydd llwybr sefydlog at ffynhonnell fwyd yn cael ei rwystro mae'r chwilwyr yn gadael y llwybr i archwilio llwybrau newydd. Os bydd morgrugyn yn llwyddiannus, mae'n gadael llwybr newydd sy'n nodi'r llwybr byrraf ar ôl iddo ddychwelyd. Mae llwybrau llwyddiannus yn cael eu dilyn gan fwy o forgrug, gan atgyfnerthu llwybrau gwell ac yn raddol nodir y llwybr gorau.[50]

AmddiffyniadGolygu

 
Plectroctena yn ymosod ar un arall o'i fath i amddiffyn ei diriogaeth

Mae morgrug yn ymosod ac yn amddiffyn eu hunain trwy frathu ac, mewn llawer o rywogaethau, trwy bigo, gan chwistrellu'n cemegau, fel asid fformig yn achos morgrug y teulu Formicinae, alcaloidau a piperidinau mewn morgrug tân yn y genws Solenopsis, ac amrywiaeth o gydrannau protein mewn morgrug eraill. Ystyrir mai gan y morgrug bwled (Paraponera clavata), a leolir yng Nghanolbarth a De America,mae'r pigiad mwyaf poenus o unrhyw bryfyn, er nad yw'n angheuol i bobl. Mae'r pigiad hwn yn cael y sgôr uchaf ar fynegai poen pigiad Schmidt.[51]

Gall pigiad morgrug Jac y Neidiwr (Myrmecia pilosula) fod yn angheuol i oedolyn,[52] ac mae gwrthwenwyn wedi'i ddatblygu ar ei gyfer.[53]

Mae hunanladdiad gan weithwyr i'w weld mewn morgrug o Brasil, sef y Forelius pusillus, lle mae grŵp bach o forgrug yn gadael diogelwch y nyth ar ôl selio'r fynedfa o'r tu allan.[54]

Yn ogystal ag amddiffyn rhag ysglyfaethwyr, mae angen i forgrug amddiffyn eu cytrefi rhag pathogenau. Mae rhai gweithwyr yn cynnal hylendid y nythfa ac mae eu gweithgareddau yn cynnwys ymgymryd â thrin a thrafod a chladdu'r meirw.[55] Mae asid oleic wedi'i nodi fel y cyfansoddyn a ryddhawyd o forgrug marw sy'n sbarduno ymddygiad necrofforig yn y rhywogaeth Atta mexicana[56] tra bod gweithwyr Linepithema humile yn adweithio i absenoldeb cemegau nodweddiadol (dolichodial ac iridomyrmecin) sy'n bresennol ar gwtigl cyd-forgrugyn byw i sbarduno ymddygiad tebyg.[57]

Gall nythod gael eu hamddiffyn rhag bygythiadau ffisegol megis llifogydd a gorboethi drwy bensaernïaeth cywrain y nythod.[58][59] Mae gweithwyr Cataulacus muticus, rhywogaeth goed sy'n byw mewn pantiau llawn planhigion, yn ymateb i lifogydd trwy yfed dŵr y tu mewn i'r nyth, a'i ysgarthu y tu allan.[60] Mae Camponotus anderseni, sy'n nythu yn y ceudodau o bren mewn cynefinoedd mangrof, yn delio â boddi o dan ddŵr trwy newid i resbiradaeth anaerobig.[61]

Perthynas â bodau dynolGolygu

 
Defnyddir morgrug gwehydd (y genws Oecophylla) i reoli sitrws yn ne Tsieina.

Mae morgrug yn gwneud llawer o waith ecolegol sydd o fudd i bobl, gan gynnwys atal poblogaethau o blâu ac awyru’r pridd. Ystyrir mai defnyddio morgrug gwehydd i dyfu sitrws yn ne Tsieina yw un o'r cymwysiadau hynaf y gwyddys amdanynt o ran rheolaeth fiolegol.[62] Ar y llaw arall, gall morgrug ddod yn niwsans pan fyddant yn goresgyn adeiladau neu'n achosi colledion economaidd.

Mewn rhai rhannau o'r byd (Affrica a De America yn bennaf), mae morgrug mawr, yn enwedig morgrug y fyddin (tua 200 o rywogaethau o fewn y marabunta) sy'n cael eu defnyddio fel pwythau llawfeddygol. Mae'r clwyf yn cael ei wasgu gyda'i gilydd a morgrug yn cael eu rhoi ar ei hyd. Mae'r morgrugyn yn gafael yn ymylon y clwyf gydag asgwrn ei en (y mandiblau) ac yn ei gloi yn ei le. Yna torrir pen y morgugyn o'i gorff, a'i adael ar ôl i gau'r clwyf.[63][64][65] Defnyddir y morgrugyn torri dail, yr Atta cephalotes hefyd gan lawfeddygon brodorol i gau clwyfau.[66]

Yn feddygol, mae gan rai morgrug wenwyn hynod o bwysig; ymhlith y rhywogaethau a ddefnyddir y mae'rParaponera clavata (tocandira) a Dinoponera spp. (y tocandiras ffug) o Dde America[67] a morgrug Myrmecia o Awstralia.[68]

Yn Ne Affrica, defnyddir morgrug i helpu i gynaeafu hadau rooibos (Aspalathus linearis), planhigyn a ddefnyddir i wneud te llysieuol. Mae'r planhigyn yn gwasgaru ei hadau yn eang, gan wneud casglu â llaw yn anodd, ond daw'r morgrugyn bach i'w casglu gan storio'r hadau hyn a hadau eraill yn eu nyth, lle gall bodau dynol eu casglu. Ceir hyd at hanner pwys (200 g) o hadau ymhob nyth forgrug.[69][70]

Mae EO Wilson wedi amcangyfrif bod cyfanswm y morgrug unigol sy'n fyw yn y byd ar unrhyw un adeg rhwng un a deg pedwarliwn ( graddfa fer ) (hy, rhwng 10 15 a 10 16 ). Yn ôl yr amcangyfrif hwn, mae cyfanswm biomas holl forgrug y byd fwy neu lai yn hafal i gyfanswm biomas yr hil ddynol gyfan. [71] Yn ôl yr amcangyfrif hwn, mae yna hefyd tua 1 miliwn o forgrug ar gyfer pob bod dynol ar y Ddaear. [72]

CyfeiriadauGolygu

  1. Twm Elias; Llên Gwerin a Byd Natur: Morgrug – 5 yn Llafar Gwlad 113 (2011)
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru
  3. O sgript rhaglen Galwad Cynnar, Twm Elias (cyhoeddwyd gyda chaniatad Radio Cymru)
  4. Gwyn Williams ym Mwletin Llên Natur rhif 31
  5. O'r Tywyddiadur i Fwletin Llên Natur rhif 31
  6. O sgript rhaglen Galwad Cynnar, Twm Elias (cyhoeddwyd gyda chaniatad Radio Cymru)
  7. Diarhebion VII (7)
  8. Chwedlau neu Ddammegion Æsop, cyfres gyntaf (dim dyddiad), Glan Alun, chwedl 7
  9. Dammegion Æsop, yr ail gyfres (dim dyddiad) Cyh. Hughes, Wrecsam, chwedl 56
  10. Dammegion Æsop, yr ail gyfres (dim dyddiad) Cyh. Hughes, Wrecsam, chwedl 92
  11. Culhwch ac Olwen, cyfaddasiad newydd Gwyn Thomas (1988), tud. 44 – 45.
  12. ‭Cassell’s Dictionary of Superstitons‬ (1995)
  13. "Phylogenomics resolves evolutionary relationships among ants, bees, and wasps". Current Biology 23 (20): 2058–62. October 2013. doi:10.1016/j.cub.2013.08.050. PMID 24094856.
  14. "The first mesozoic ants". Science 157 (3792): 1038–40. September 1967. Bibcode 1967Sci...157.1038W. doi:10.1126/science.157.3792.1038. PMID 17770424.
  15. "New fossil ants in French Cretaceous amber (Hymenoptera: Formicidae)". Die Naturwissenschaften 95 (2): 91–7. February 2008. Bibcode 2008NW.....95...91P. doi:10.1007/s00114-007-0302-7. PMID 17828384.
  16. "A diverse ant fauna from the mid-cretaceous of Myanmar (Hymenoptera: Formicidae)". PLOS ONE 9 (4): e93627. 2014. Bibcode 2014PLoSO...993627B. doi:10.1371/journal.pone.0093627. PMC 3974876. PMID 24699881. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3974876.
  17. "Fossil evidence for the early ant evolution". Die Naturwissenschaften 95 (2): 85–90. February 2008. Bibcode 2008NW.....95...85P. doi:10.1007/s00114-007-0301-8. PMID 17891532. http://antwiki.org/wiki/images/4/4c/Perichot_Lacau_Neraudeau_Nel_2008.pdf.
  18. 18.0 18.1 "Phylogeny of the ants: diversification in the age of angiosperms". Science 312 (5770): 101–4. April 2006. Bibcode 2006Sci...312..101M. doi:10.1126/science.1124891. PMID 16601190.
  19. 19.0 19.1 "A formicine in New Jersey cretaceous amber (Hymenoptera: formicidae) and early evolution of the ants". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 97 (25): 13678–83. December 2000. Bibcode 2000PNAS...9713678G. doi:10.1073/pnas.240452097. PMC 17635. PMID 11078527. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=17635.
  20. "The rise of the ants: a phylogenetic and ecological explanation". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 102 (21): 7411–4. May 2005. Bibcode 2005PNAS..102.7411W. doi:10.1073/pnas.0502264102. PMC 1140440. PMID 15899976. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1140440.
  21. "Ants and the fossil record". Annual Review of Entomology 58: 609–30. 2013. doi:10.1146/annurev-ento-120710-100600. PMID 23317048.
  22. "Rediscovery of the bizarre Cretaceous ant Haidomyrmex Dlussky (Hymenoptera: Formicidae), with two new species". American Museum Novitates (3755): 1–16. 2012. doi:10.1206/3755.2. http://digitallibrary.amnh.org/dspace/bitstream/handle/2246/6368/N3755.pdf?sequence=1.
  23. Hölldobler & Wilson (1990), pp. 23–24
  24. Hölldobler & Wilson (1990), p. 4
  25. Jones, Alice S. "Fantastic ants – Did you know?". National Geographic Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 July 2008. Cyrchwyd 5 July 2008.
  26. Thomas, Philip (2007). "Pest Ants in Hawaii". Hawaiian Ecosystems at Risk project (HEAR). Cyrchwyd 6 July 2008.
  27. "In search of ant ancestors". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 97 (26): 14028–9. December 2000. Bibcode 2000PNAS...9714028S. doi:10.1073/pnas.011513798. PMC 34089. PMID 11106367. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=34089.
  28. Hölldobler & Wilson (1990), p. 589
  29. Shattuck SO (1999). Australian ants: their biology and identification. Collingwood, Vic: CSIRO. t. 149. ISBN 978-0-643-06659-5.
  30. Schaal, Stephan (27 January 2006). "Messel". Encyclopedia of Life Sciences. doi:10.1038/npg.els.0004143. ISBN 978-0-470-01617-6.
  31. 31.0 31.1 AntWeb
  32. Ants: Standard methods for measuring and monitoring biodiversity. Smithsonian Institution Press. 2000. Cyrchwyd 2015-12-13.
  33. "Hymenoptera name server". Ohio State University. 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 January 2016. Cyrchwyd 6 July 2008.
  34. Borror, Triplehorn & Delong (1989), p. 737
  35. 35.0 35.1 Borror, Triplehorn & Delong (1989), pp. 24–71
  36. "Oceili: a celestial compass in the desert ant cataglyphis". Science 228 (4696): 192–4. April 1985. Bibcode 1985Sci...228..192F. doi:10.1126/science.228.4696.192. PMID 17779641.
  37. "Miniaturisation decreases visual navigational competence in ants". The Journal of Experimental Biology 221 (Pt 7): jeb177238. April 2018. doi:10.1242/jeb.177238. PMID 29487158.
  38. "Attack behaviour and distance perception in the Australian bulldog ant Myrmecia nigriceps". Journal of Experimental Biology 119 (1): 115–131. 1985. doi:10.1242/jeb.119.1.115. http://jeb.biologists.org/content/119/1/115.full.pdf.
  39. "The infrabuccal pocket of a formicine ant: a social filtration device". Psyche 69 (3): 107–116. 1962. doi:10.1155/1962/25068.
  40. The Ants. Harvard University Press. 1990. t. 291. ISBN 978-0-674-04075-5.
  41. Gillott, Cedric (1995). Entomology. Springer. t. 325. ISBN 978-0-306-44967-3.
  42. Anderson, Kirk E.; Linksvayer, Timothy A.; Smith, Chris R. (2008). "The causes and consequences of genetic caste determination in ants (Hymenoptera: Formicidae)". Myrmecol. News 11: 119–132. https://myrmecologicalnews.org/cms/index.php?option=com_content&view=category&id=250&Itemid=73.
  43. "A Glossary of Terms and Phrases Used in the Study of Social Insects" (yn en). Annals of the Entomological Society of America 44 (3): 473–484. 1951. doi:10.1093/aesa/44.3.473. ISSN 1938-2901. https://academic.oup.com/aesa/article-lookup/doi/10.1093/aesa/44.3.473.
  44. Hölldobler & Wilson (1990), pp. 351, 372
  45. Traniello JFA (1989). "Foraging strategies of ants". Annual Review of Entomology 34: 191–210. doi:10.1146/annurev.en.34.010189.001203.
  46. "Behavioral flexibility of temporal sub-castes in the fire ant, Solenopsis invicta, in response to food". Psyche 91 (3–4): 319–332. 1984. doi:10.1155/1984/39236.
  47. Keller L (1998). "Queen lifespan and colony characteristics in ants and termites". Insectes Sociaux 45 (3): 235–246. doi:10.1007/s000400050084.
  48. Encyclopedia of Insects. San Diego: Academic Press. 2003. tt. 29–32. ISBN 978-0-12-586990-4.
  49. "Communication in ants". Current Biology 16 (15): R570–4. August 2006. doi:10.1016/j.cub.2006.07.015. PMID 16890508.
  50. "Self-organized shortcuts in the Argentine ant". Naturwissenschaften 76 (12): 579–581. 1989. Bibcode 1989NW.....76..579G. doi:10.1007/BF00462870. http://www.ulb.ac.be/sciences/use/publications/JLD/56.pdf.
  51. "Hemolytic activities of stinging insect venoms". Archives of Insect Biochemistry and Physiology 1 (2): 155–160. 1983. doi:10.1002/arch.940010205.
  52. "The natural history of sensitivity to jack jumper ants (Hymenoptera formicidae Myrmecia pilosula) in Tasmania". The Medical Journal of Australia 145 (11–12): 564–6. 1986. doi:10.5694/j.1326-5377.1986.tb139498.x. PMID 3796365.
  53. "Efficacy of ant venom immunotherapy and whole body extracts". The Journal of Allergy and Clinical Immunology 116 (2): 464–5; author reply 465–6. August 2005. doi:10.1016/j.jaci.2005.04.025. PMID 16083810.
  54. "Preemptive defensive self-sacrifice by ant workers". The American Naturalist 172 (5): E239–43. November 2008. doi:10.1086/591688. PMID 18928332. http://www.cyf-kr.edu.pl/~rotofils/Tofilski_etal_2008.pdf.
  55. "Undertaking specialization in the desert leaf-cutter ant Acromyrmex versicolor". Animal Behaviour 58 (2): 437–442. August 1999. doi:10.1006/anbe.1999.1184. PMID 10458895.
  56. "Antennal olfactory sensitivity in response to task-related odours of three castes of the ant Atta mexicana (hymenoptera: formicidae)". Physiological Entomology 31 (4): 353–360. 2006. doi:10.1111/j.1365-3032.2006.00526.x.
  57. "Chemical signals associated with life inhibit necrophoresis in Argentine ants". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 106 (20): 8251–5. May 2009. Bibcode 2009PNAS..106.8251C. doi:10.1073/pnas.0901270106. PMC 2688878. PMID 19416815. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2688878.
  58. "The nest architecture of the Florida harvester ant, Pogonomyrmex badius". Journal of Insect Science 4 (21): 21. 2004. doi:10.1093/jis/4.1.21. PMC 528881. PMID 15861237. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=528881.
  59. ""Wall-papering" and elaborate nest architecture in the ponerine ant Harpegnathos saltator". Insectes Sociaux 41 (2): 211–218. 1994. doi:10.1007/BF01240479.
  60. "Communal peeing: a new mode of flood control in ants". Die Naturwissenschaften 87 (12): 563–5. December 2000. Bibcode 2000NW.....87..563M. doi:10.1007/s001140050780. PMID 11198200.
  61. "The mangrove ant, Camponotus anderseni, switches to anaerobic respiration in response to elevated CO2 levels". Journal of Insect Physiology 53 (5): 505–8. May 2007. doi:10.1016/j.jinsphys.2007.02.002. PMID 17382956.
  62. Hölldobler & Wilson (1990), pp. 619–629
  63. "Wound healing: Historical aspects". EWMA Journal 4 (2): 5. 2004. http://www.ewma.org/pdf/fall04/Historical_Aspects.pdf.
  64. Gudger EW (1925). "Stitching wounds with the mandibles of ants and beetles". Journal of the American Medical Association 84 (24): 1861–1864. doi:10.1001/jama.1925.02660500069048.
  65. Sapolsky, Robert M. (2001). A Primate's Memoir: A Neuroscientist's Unconventional Life Among the Baboons. Simon and Schuster. tt. 156. ISBN 978-0-7432-0241-1.
  66. Wheeler, William M. (1910). Ants: Their Structure, Development and Behavior. Columbia University Biological Series. 9. Columbia University Press. t. 10. doi:10.5962/bhl.title.1937. ISBN 978-0-231-00121-2. LCCN 10008253//r88. OCLC 560205.
  67. "Description of an injury in a human caused by a false tocandira (Dinoponera gigantea, Perty, 1833) with a revision on folkloric, pharmacological and clinical aspects of the giant ants of the genera Paraponera and Dinoponera (sub-family Ponerinae)". Revista do Instituto de Medicina Tropical de Sao Paulo 47 (4): 235–8. 2005. doi:10.1590/S0036-46652005000400012. PMID 16138209.
  68. "Ant sting mortality in Australia". Toxicon 40 (8): 1095–100. August 2002. doi:10.1016/S0041-0101(02)00097-1. PMID 12165310.
  69. "Innovative mechanisms for sharing benefits of biodiversity and related knowledge" (PDF). The Center for International Environmental Law. 1999. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 23 April 2008. Cyrchwyd 8 June 2008.
  70. "Rooibos tea, a South African contribution to world beverages". Economic Botany 17 (3): 186–194. 1963. doi:10.1007/BF02859435.
  71. The Superorganism: The Beauty, Elegance, and Strangeness of Insect Societies. New York: W. W. Norton. 2009. t. 5. ISBN 978-0-393-06704-0.
  72. "How many ants are there for every one person on earth?". info.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 August 2013. Cyrchwyd 27 July 2013.