Demograffeg Gwlad Groeg

Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd poblogaeth Gwlad Groeg yn 10,964,020. Yn Ionawr 2008, amcangyfrifwyd fod y boblogaeth yn 11,240,000. Yn 2005. roedd y boblogaeth yn cynyddu o 0.19% y flwyddyn. Roedd disgwyliad bywyd yn 76.59 mlynedd i ddynion a 81.76 mlynedd i ferched.

Poblogaeth Groeg o 1961 hyd 2003

O ran crefydd, mae tua 98% yn perthyn i Eglwys Uniongred y Dwyrain, gyda 1.3% yn ddilynwyr Islam.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, bu cyfnewid poblogaeth ar raddfa fawr rhwng Groeg a gwledydd fel Twrci a Bwlgaria, gyda tua 2 filiwn o Roegiaid o ardaloedd megis Asia Leiaf, Bwlgaria, Albania a'r Balcanau yn symud i Wlad Groeg, a nifer cyffelyb yn gadael.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: