Awdur comedi a chyflwynydd teledu o Loegr oedd Denis Mostyn Norden CBE (6 Chwefror 192219 Medi 2018).

Denis Norden
Ganwyd6 Chwefror 1922 Edit this on Wikidata
Hackney Edit this on Wikidata
Bu farw19 Medi 2018 Edit this on Wikidata
Hampstead Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Dinas Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr, sgriptiwr, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Ar ôl gyrfa gynnar yn gweithio mewn sinemâu, cychwynod ysgrifennu sgriptiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. O 1948 tan 1959, cyd-ysgrifennodd y rhaglen gomedi llwyddiannus Take It From Here gyda Frank Muir, ar gyfer BBC Radio. Cydweithiodd Muir a Norden am fwy na 50 mlynedd, ac ar ôl iddyn nhw orffen gydweithio ar sgriptiau, ymddangosodd y ddau gyda'i gilydd yn rheolaidd ar y raglenni radio panel My Word! a My Music.

Ysgrifennodd Norden sgriptiau ar gyfer ffilmiau Hollywood. Roedd hefyd yn cyflwyno rhaglenni teledu ar ITV am nifer o flynyddoedd, gan gynnwys y cwis hiraeth Looks Familar a'r rhaglen camgymeriadau teledu It'll Be Alright on the Night a Laughter File. Ymddeolodd yn 2006.

Bywyd a gyrfa gynnar

golygu

Ganwyd Norden i deulu Iddewig[1] yn Mare Street, Hackney, yn East End Llundain, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Craven Park ac yn Ysgol City of London lle'r oedd yn gyfoeswr i Kingsley Amis. Ar ôl gadael yr ysgol, bu'n gweithio fel cynorthwy-ydd llwyfan, cyn symud i mewn i waith rheoli sinema erbyn 17 oed gan symud yn gyflym i fod yn rheolwr sinema yn Watford. Roedd hefyd yn trefnu amryw o sioeau adloniadol. Ymunodd â'r Llu Awyr Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan weithio fel gweithredwr di-wifr gyda uned signalau. Cychwynodd ei yrfa ysgrifennu yn yr awyrlu Brenhinol pan ysgrifennodd ar gyfer sioeau milwyr. Tra yn paratoi am un o'r sioeau yma yn 1945, aeth Norden, ynghyd a'i gyd-berfformwyr Eric Sykes a Ron Rich, i wersyll carchar gerllaw i chwilio am goleuadau llwyfan; darganfuwyd mai hwn oedd gwersyll-garchar Bergen-Belsen, a oedd wedi ei ryddhau yn ddiweddar gan y Cynghreiriaid. Trefnodd Norden, Sykes a Rich gasgliad bwyd ymhlith eu cymrodyr i fwydo'r carcharorion newynog.[2]

Ar ôl y rhyfel, ysgrifennodd Norden ar gyfer y digrifwr Dick Bentley, cyn cyfarfod Frank Muir (a ysgrifennodd ar gyfer yr actor digrif Jimmy Edwards) yn 1947. Menter gyntaf Muir a Norden ar y cyd oedd sioe radio ar gyfer y ddau, Take It From Here, a sgriptiwyd ganddynt o 1948 hyd 1959. Aeth y ddau ymlaen i ysgrifennu nifer o sgriptiau radio a theledu llwyddiannus, gan gynnwys Whack-O! (1956-60) a thair cyfres o Faces of Jim (1961-63) oedd yn raglenni ar gyfer Jimmy Edwards. Ysgrifennwyd y sgets ddychanol Balham, Gateway to the South ganddynt ar gyfer y BBC Third Programme. Cafodd y sgets, a ddarlledwyd yn wreiddiol yn 1948 fel rhan o gyfres gomedi o'r enw The Third Division ac a oedd yn cynnwys yr actor Robert Beatty, ei berfformio yn ddiweddarach gan Peter Sellers ar ei LP, The Best of Sellers (1959). Yn y 1960au cynnar ysgrifennodd Muir a Norden y gomedi sefyllfa Brothers in Law, cyfres gynnar yn cynnwys Richard Briers, a'r rhaglen ddilynol Mr Justice Duncannon.

Daeth eu partneriaeth ysgrifennu i ben pan symudodd Muir i swydd reoli gyda'r BBC. Dros y blynyddoedd nesaf ysgrifennodd Norden, a oedd wastad wedi ei hudo gan Hollywood, sgriptiau ar gyfer nifer o ffilmiau, gan gynnwys Buona Sera, Mrs. Campbell ac The Bliss of Mrs. Blossom. Er nad oedd bellach yn ysgrifennu gyda Muir, roedd y ddau yn ymddangos yn rheolaidd gyda'i gilydd ar y sioe banel  My Word! (1956-1990) a My Music (1966-1993), yn gyntaf ar y radio wedyn y teledu.

Yn 1965, ysgrifennodd, adroddwyd a serennodd Norden mewn nodwedd a wnaed ar y cyd gan gynhyrchwyr James Bond a Cwmni Moduron Ford. Roedd y ffilm fer lliw, gyda'r teitl "A Child's Guide to Blowing up a Motor Car", yn mynd tu ôl i'r llenni wrth ffilmio stynt car yn ffrwydro ar gyfer y ffilm Thunderball.[3]

Cyflwynydd ITV

golygu

Daeth Norden yn adnabyddus i gynulleidfaoedd teledu ddiweddarach ar gyfer ei sioeau ITV - Looks Familiar, It'll be Alright on the Night a Laughter File.

Roedd It'll be Alright on the Night, sydd wedi ei ddarlledu ers 1997, yn cynnwys camgymeriadau neu ddarnau doniol a dorrwyd allan o raglenni ffilm a theledu, wedi eu cysylltu gan sylwadau ffraeth Norden. Roedd llawer o'r deunydd cynnar wedi ei ddefnyddio ar raglenni arbennig "Bloopers" Dick Clark a ddangoswyd ar NBC rhai blynyddoedd ynghynt. Roedd cwpl o benodau o ganol y 1980au yn cynnwys clipiau fideo cartref: gyda'r cynnydd ym mherchnogaeth camerau fideo cartref, esgorwyd y rhaglen hir-hoedlog You've Been Framed! (1990–).

Darlledwyd Laughter File yn gyntaf ym 1991, gan ddangos hysbysebion ffug, hysbysebion tramor go-iawn, castiau, camgymeriadau teledu byw ac amryw o bethau 'rhyfedd', pethau a ddywedodd Norden ei fod yn "tickled our fancies, just when they needed tickling". Roedd yr eitemau hyn yn cynnwys bron bopeth a ddarganfuwyd yn ystod gwaith ymchwil ar gyfer deunydd ar gyfer Alright on the Night ond nad oedd gymwys ar gyfer y sioe honno.

Ymddeol ac etifeddiaeth

golygu

Cyhoeddodd Norden ei ymddeoliad o'i ddau sioe hir-hoedlog ITV ar 21 Ebrill 2006, oherwydd ei oedran (84) ac iechyd gwael. Recordiwyd sioe arbennig ar 14 Mai 2006 fel 'taith ffarwel' i'w sioeau i gyd dros y blynyddoedd, o'r enw All the Best from Denis Norden, a ddangoswyd ar 2 Ionawr 2007. Wrth i gredydau'r sioe eu dangos, safodd y gynulleidfa yn y stiwdio ar eu traed i gymeradwyo Norden, wedi ei ddilyn gan Norden yn gosod ei glipfwrdd enwog ar ei ddesg, gyda'r camera yn chwyddo mewn i'r clipfwrdd. Ers hynny, mae It'll be Alright on the Night wedi ei gyflwyno gan Griff Rhys Jones, ac yn ddiweddarach gan David Walliams.[4]

Am flynyddoedd, roedd yn gyndyn o ysgrifennu hunangofiant, gan ddweud bod llawer o'i fywyd a'i yrfa eisoes wedi ei adrodd yn llyfr Frank Muir. A Kentish Lad a byddai llyfr o'r enw The Bits Frank Left Out yn rhy fyr. Serch hynny, ym mis Hydref 2008, cyhoeddodd lyfr sy'n cynnwys dilyniant o storiau hunangofiannol o'r enw Clips from a Life. Parhaodd i wneud ymddangosiadau achlysurol ar deledu a radio. Cyfrannodd at dymor BBC Four am hanes dychan, ac ymddangosodd fel gwestai ar y One Show ar 2 Hydref 2008 i siarad am ei fywyd a'i yrfa yn ogystal a'i lyfr. Cafodd ei gyfweld mewn rhaglen ddogfen Der Sommer 1939 ("Haf 1939"), a gafodd ei darlledu ar 12 Awst 2009 ar yr orsaf deledu Ffrengig-Almaenig Arte. Ymddangosodd Norden hefyd fel un o'r cyfranwyr, ar rhaglen ddogfen BBC, The Secret Life of Bob Monkhouse ym mis Ionawr 2011.[5][6]

Bywyd personol

golygu

Priododd Avril Rosen yn 1943 a cawsant ddau o blant. Mae ei mab, Nick yn bensaer, a'i ferch, Maggie, yn bersonoliaeth radio a ddarlithydd yng Ngholeg Ffasiwn Llundain. Roedd Maggie yn gyflwynydd ar Capital Radio, Llundain, yn y dyddiau cynnar a cyflwynodd y rhaglen ar brynhawn Sul Hullabaloo. Cafodd Norden ei effeithio gan ddirywiad macwlaidd, ac ymunodd a Peter Sallis ac Eric Sykes yn 2009 fel noddwyr y Gymdeithas Macwlaidd, ar ôl dod yn aelod yn 2004.[7]

Bu farw yn y Royal Free Hospital yn Hampstead, Llundain, ar fore 19 Medi 2018 yn 96 oed.[8]

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Obituary: Denis Norden". BBC News. 19 Medi 2018. Cyrchwyd 19 Medi 2018.
  2. "How Denis Norden stumbled upon concentration camp horror". BBC News. 23 Mehefin 2015. Cyrchwyd 8 Medi 2015.
  3. "A Child's Guide to Blowing up a Motor Car". imdb.com.
  4. Liz Thomas (21 Ebrill 2006), Norden calls it a night after 30 years at ITV, The Stage, http://www.thestage.co.uk/news/2006/04/norden-calls-it-a-night-after-30-years-at-itv/, adalwyd 15 Ebrill 2013.
  5. Gerald Jacobs (3 October 2008), Interview: Denis Norden, The Jewish Chronicle online, http://www.thejc.com/arts/arts-interviews/interview-denis-norden, adalwyd 15 Ebrill 2013.
  6. Kit Hesketh Harvey (8 November 2008), If in doubt, say 'Cockfosters', The Guardian, https://www.theguardian.com/books/2008/nov/08/denis-norden-barfe-review, adalwyd 15 Ebrill 2013.
  7. "Macular Society: Patrons". Cyrchwyd 23 July 2018.
  8. "TV host Denis Norden dies aged 96". BBC News. 19 Medi 2018. Cyrchwyd 19 Medi 2018.

Dolenni allanol

golygu