Denise Idris Jones
Gwleidydd o Gymraes
(Ailgyfeiriad oddi wrth Denise Idris-Jones)
Gwleidydd Cymreig ac aelod o'r Blaid Lafur oedd Denise Idris-Jones (7 Rhagfyr 1950 – 24 Gorffennaf 2020).[1][2]
Denise Idris-Jones | |
![]()
| |
Aelod Cynulliad dros Gonwy
| |
Cyfnod yn y swydd 3 Mai 2003 – 1 Mai 2007 | |
Geni | 7 Rhagfyr 1950 Rhosllanerchrugog |
---|---|
Marw | 24 Gorffennaf 2020 (69 oed) Rhuthun |
Plaid wleidyddol | Y Blaid Lafur (DU) |
Bu'n Aelod Cynulliad dros Gonwy, pan enillodd y sedd ym Mai 2003. Ond collodd y sedd newydd Aberconwy yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007 i Gareth Jones (Plaid Cymru), gan dod yn drydydd y tu ôl i'r ymgeisydd Ceidwadol.
Fe'i ganed yn Rhosllanerchrugog. Bu'n athrawes cyn dod yn aelod o'r Cynulliad lle roedd yn aelod o'r pwyllgorau diwylliant, Cymraeg ac addysg y cynulliad. Roedd ganddi ddau o blant.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Gareth Jones |
Aelod Cynulliad dros Gonwy 2003 – 2007 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Cyn-aelod Conwy, Denise Idris Jones, wedi marw , BBC Cymru Fyw, 28 Gorffennaf 2020.
- ↑ The obituary notice of Denise Idris JONES. Daily Post, North Wales Weekly News, Bangor & Anglesey Mail, Holyhead Mail (28 Gorffennaf 2020). Adalwyd ar 21 Medi 2020.