Conwy (etholaeth Cynulliad)

etholaeth Cynulliad
Gweler hefyd Conwy (etholaeth seneddol) a Conwy (gwahaniaethu).

Cyfesurynnau: 53°11′28″N 3°41′17″W / 53.191°N 3.688°W / 53.191; -3.688

Conwy
Etholaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Lleoliad Conwy o fewn Gogledd Cymru
Math: Senedd Cymru
Rhanbarth Gogledd Cymru
Creu: 1999
Diddymu: 2007

Roedd Conwy yn etholaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngogledd Cymru rhwng 1999 a 2007. Roedd hefyd yn rhan o etholaeth rhanbarthol Gogledd Cymru i'r Cynulliad. Newidiwyd y ffiniau erbyn etholiad mis Mai 2007 pan aeth Bangor yn rhan o etholaeth Arfon ac ategwyd Nan Conwy i'r etholaeth gan greu etholaeth newydd Aberconwy.

Denise Idris-Jones (Llafur) oedd Aelod Cynulliad Conwy hyd 2007, ar ôl cipio'r sedd oddi ar Gareth Jones (Plaid Cymru).

Aelodau Cynulliad

golygu

Canlyniad etholiadau

golygu
Etholiad Cynulliad 2003: Conwy
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Denise Idris Jones 6,467 30.9 +0.8
Plaid Cymru Gareth Jones 6,395 30.6 +0.0
Ceidwadwyr Guto Bebb 5,152 24.6 +6.1
Democratiaid Rhyddfrydol Graham Rees 2,914 13.9 −2.6
Mwyafrif 72 0.3
Y nifer a bleidleisiodd 20,928 38.4 −10.8
Llafur yn disodli Plaid Cymru Gogwydd
Etholiad Cynulliad 1999: Conwy
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Gareth Jones 8,285 30.6
Llafur Miss Cath Sherrington 8,171 30.1
Ceidwadwyr David I. Jones 5,006 18.5
Democratiaid Rhyddfrydol Christine Humphreys 4,480 16.5
Annibynnol Goronwy O. Edwards 1,160 4.3
Mwyafrif 114 0.4
Y nifer a bleidleisiodd 27,102 49.2
Plaid Cymru yn cipio etholaeth newydd