Dennis Potter
Roedd Dennis Christopher George Potter (17 Mai, 1935 –7 Mehefin, 1994) yn newyddiadurwr a dramodydd Seisnig.[1]
Dennis Potter | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mai 1935 Berry Hill |
Bu farw | 7 Mehefin 1994 Rhosan ar Wy |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | dramodydd, cyfarwyddwr theatr, llenor, sgriptiwr, newyddiadurwr, cyfarwyddwr ffilm |
Adnabyddus am | Pennies from Heaven |
Gwobr/au | Gwobr Edgar |
Gwefan | https://intranet.yorksj.ac.uk/potter |
Cefndir
golyguGanwyd Potter yn Joyford Hill, Fforest y Ddena Swydd Gaerloyw yn blentyn i Walter Edward Potter, Glowr a Margaret Constance, (née Wale), ei wraig . Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Coleford hyd 1949 ac wedi i'r teulu symud i Lundain ym 1949 yn Ysgol St Clement Danes. Wrth aros yn Llundain gyda'i daid mamol ym 1945 bu raid i Dennis rhannu gwely gyda'i ewyrth Ernie, brawd ei fam. Roedd ei ewyrth yn ei gam-drin yn rhywiol. Digwyddiad byddai'n cyfeirio ato'n aml fel oedolyn. Wedi cyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol yn yr adran cudd-wybodaeth o 1953 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Newydd, Rhydychen ym 1953 lle enillodd gradd BA mewn athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg.[2]
Gyrfa
golyguWedi ymadael a'r coleg aeth i'r BBC i hyfforddi i fod yn newyddiadurwr ar gyfer y radio a'r teledu. O'r BBC aeth i weithio fel beirniad teledu ar y papur dyddiol the Daily Herald (rhagflaenydd The Sun). Parhaodd ei gysylltiad efo'r byd darlledu trwy ddramateiddio darnau o nofelau cyfoes ar gyfer y gyfres Bookstand a thrwy sgwennu sgetshis i'r rhaglen ddychan materion cyfoes That Was The Week That Was.[3]
Ym 1962 cafodd ei daro'n wael gan psoriatic arthropathy, cyflwr llethol a gwanychol sy'n achosi echdoriadau a phlicio'r croen a pharlys yn y cymalau.[4]
Yn Etholiad Cyffredinol 1964 safodd Potter fel yr ymgeisydd Lafur yn etholaeth Gorllewin Swydd Hertford, ond ni fu'n llwyddiannus Yn fuan wedyn penderfynodd rhoi'r gorau i'w yrfa fel newyddiadurwr ac i droi'n dramodydd teledu llawn amser. Cafodd ei ddramâu cynharaf eu darlledu fel rhan o'r cyfresi Wednesday's Play a Play for Today. Roedd y dramâu yn cynnwys Stand Up, Nigel Barton [5] a Vote, Vote, Vote for Nigel Barton,[6] comedïau trasig am ymgyrch etholiadol ymgeisydd Llafur ifanc.[7]
O herwydd cyflwr ei iechyd doedd Potter ddim yn gallu defnyddio teipiadur i ysgrifennu. Bu'n rhaid iddo sgwennu ei ddramâu i gyd efo ysgrifbin wedi dal yn sownd yn ei ddwrn arthritig. Er hynny llwyddodd i ysgrifennu nifer fawr o ddramâu llwyddiannus.[1]
Enillodd wobr drama’r flwyddyn yr Undeb Darlledu Ewropeaidd a gwobr Urdd yr Awduron, am Son of Man (1969). Ond nid oedd pawb yn hoff o'r ddrama a oedd yn ddehongliad agnostig o'r digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth Crist. Gan ei fod yn cynrychioli Iesu fel un llawn pryder a hunan amheuaeth [8] galwodd Mary Whitehouse o Gymdeithas Genedlaethol y Gwylwyr a’r Gwrandawyr am ei erlyn am y drosedd o gabledd.[9] Enillodd ei ddramâu Pennies from Heaven a Blue Remembered Hills gwobrau BAFTA am eu sgriptiau. Ei ddrama deledu fwyaf llwyddiannus o ran nifer y gwylwyr teledu oedd The Singing Detective (1986). Mae'r prif gymeriad yn ddramodydd sy'n dioddef o psoriasis ac yn mynd trwy daith o hunan ddarganfod.[10] Roedd Potter yn gwadu bod y ddrama yn hunangofiannol.
Teulu
golyguYm 1959 priododd Margaret Amy Morgan, bu iddynt fab a ddwy ferch.[11] Bu eu ferch Sarah yn chwarae criced rhyngwladol i dîm Lloegr.[12] Ym 1967 symudodd y teulu yn ôl i fro enedigol Potter gan ymgartrefu yn Rhosan ar Wy.
Marwolaeth
golyguYm 1993 cafodd Margaret Potter gwybod bod ganddi ganser y fron a byddai'n annhebygol y byddai'n byw am ragor na 3 mlynedd. Ym 1994 cafodd Denis gwybod bod ganddo ef canser hefyd yn ei bancreas a'i afu ac nid oedd yn debygol o fyw rhagor na 3 mis. Bu farw Potter yn ei gartref ar 7 Mehefin, yn 59 mlwydd oed,[13] naw diwrnod yn unig ar ôl marwolaeth ei wraig. Amlosgwyd y ddau, a chladdwyd eu lludw ym mynwent Rhosan.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Potter, Dennis Christopher George (1935–1994), journalist and playwright | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ "Dennis Potter". The Telegraph. 1994-06-07. ISSN 0307-1235. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-18. Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ Humphrey Carpenter; That Was Satire That Was: The Satire Boom in the 1960s, Llundain, 2000, tud. 232
- ↑ "Dennis Potter; between two worlds; a critical reassessment". www.worldcat.org. Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ "BFI Screenonline: Stand Up, Nigel Barton (1965)". www.screenonline.org.uk. Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ "BFI Screenonline: Vote, Vote, Vote, for Nigel Barton (1965)". www.screenonline.org.uk. Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ Cook, John R. (1995). Dennis Potter : a life on screen. Manceinion: Gwasg Brifysgol Manceinion. ISBN 0719046017. OCLC 32013821.
- ↑ Fisher, Mark (2006-09-24). "Son of Man". Variety. Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ Thompson, Ben (2012). Ban this filth! : letters from the Mary Whitehouse archive. London: Faber. ISBN 0571281508. OCLC 930024245.
- ↑ "The Singing Detective: 25 years on | Sight & Sound". British Film Institute. Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ "Obituary: Dennis Potter". The Independent. 1994-06-08. Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ "Sarah Potter". Cricinfo. Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ Hebert, Hugh (1994-06-07). "Programmes from heaven - Dennis Potter's death". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-10-31.