Derek Fowlds

actor a aned yn 1937

Actor Seisnig oedd Derek Fowlds (2 Medi 193717 Ionawr 2020) sy’n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Bernard Woolley yn y comedïau teledu Prydeinig Yes Minister a Yes Prime Minister, ac Oscar Blaketon yn nrama hirhoedlog yr heddlu Heartbeat ar ITV, rôl a chwaraeodd am 18 mlynedd.

Derek Fowlds
Ganwyd2 Medi 1937 Edit this on Wikidata
Wandsworth Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ionawr 2020 Edit this on Wikidata
o clefyd heintus Edit this on Wikidata
Caerfaddon Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodLesley Judd, Adrienne Corri Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganed Fowlds yn Wandsworth, Llundain, yn fab i Ketha Muriel (née Treacher) a James Witney Fowlds [1], gwerthwr. Addysgwyd Fowlds yn Ysgol Ashlyns, cyn Ysgol Fodern Uwchradd yn nhref hanesyddol Berkhamsted yn Swydd Hertford.[2]

Ar ôl actio fel amatur, hyfforddodd Fowlds yn RADA a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar lwyfan y West End yn The Miracle Worker. Ymddangosodd mewn amryw o rolau ffilm, gan gynnwys Tamahine (1963), East of Sudan (1964), Hotel Paradiso (1966), Frankenstein Created Woman (1967), The Smashing Bird I Used to Know (1969), Tower of Evil (1972) a Meistres Pamela (1974), cyn dod yn gyfarwydd i wylwyr teledu Prydain fel 'Mr. Derek' yn y gyfres blant The Basil Brush Show, gan gymryd lle Rodney Bewes fel cyflwynydd. Chwaraeodd rôl yr Arglwydd Randolph Churchill yng nghyfres ATV Edward the Seventh (1975). Chwaraeodd Bernard Woolley yn Yes Minister a'r gyfres olynol Yes Prime Minister ochr yn ochr â Paul Eddington a Nigel Hawthorne .

Rhwng 1983 a 1985, chwaraeodd Fowlds y brif ran yn sitcom Affairs of the Heart. Chwaraeodd ran fwy sinistr yn y ffilm gyffro wleidyddol Die Kinder yn 1990. Yna chwaraeodd y cymeriad Oscar Blaketon yng nghyfres drama heddlu hiraethus ar ITV, Heartbeat, am ei rediad cyfan. Ymddangosodd y cymeriad gyntaf fel rhingyll yr heddlu lleol, yna ymddeol o'r heddlu a rhedeg y swyddfa bost cyn dod yn dafarnwr .

Bywyd personol

golygu

Yn flaenorol roedd Fowlds yn briod â Wendy Tory ac yna y dawnsiwr a cyflwynydd Blue Peter, Lesley Judd. Roedd yn dad i ddau o blant gan gynnwys yr actor Jeremy Fowlds. Bu farw yn y Royal United Hospital yng Nghaerfaddon ar 17 Ionawr 2020 ar ôl dioddef o niwmonia.

Rhannau teledu

golygu
Blwyddyn Teitl Rhan
1964 Gideon's Way Pennod 26: "The Nightlifers" Tim Coles
1967 The Solarnauts Pilot: "Cloud of Death" Tempo
1969–1973 The Basil Brush Show Mr Derek
1975 Edward the Seventh Lord Randolph Churchill
1978 Robin's Nest Cyfres 2 Pennod 2 "The Candidate" Ricky Hart
1980–1984 Yes Minister Bernard Woolley
1982 Minder Meadhurst
1983–1985 Affairs of the Heart Peter Bonamy
1986–1988 Yes, Prime Minister Bernard Woolley
1988 The Settling of the Sun Kurt Friedman/Michael Robson
1990 Die Kinder Crombie
1992–2010 Heartbeat Sgt. Oscar Blaketon
1992–1994 Firm Friends John Gutteridge
2001 Lily Savage's Blankety Blank Ei hun

Cyfeiriadau

golygu
  1. Derek Fowlds Biography (1937–)
  2. Who's Who on Television. Publisher: ITV Books Ltd./Michael Joseph Ltd. Published: 1985. Retrieved: 27 January 2013.

Dolenni allanol

golygu