Deryk Williams
Darlledwr ar radio a theledu oedd Deryk Williams (Chwefror 1942 – Medi 2007). Cafodd ei eni yng Nghricieth a chael ei addysg yn Ysgol Gynradd Cricieth, Ysgol Eifionydd, Porthmadog, a Phrifysgol Rhydychen, lle graddiodd yn y gyfraith yn 1963.
Deryk Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1942 Cricieth |
Bu farw | 2007 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | darlledwr, newyddiadurwr |
- Am yr awdur ac athro, gweler Derec Williams
Gyrfa
golyguYmunodd â Chwmni HTV yn 1963 fel ymchwilydd ac is-olygydd y rhaglen newyddion Y Dydd. Yn 1967 ymunodd á'r BBC fel Cyfarwyddwr Rhaglenni Nodwedd. Bu hefyd yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd Heddiw tan 1982, ac yna Newyddion Saith wedi dyfodiad S4C. Yn 1987 symudodd i fod yn Ddirprwy Gyfarwyddwyr Rhaglenni ac yna Cyfarwyddwyr Rhaglenni gyda S4C.
Fe'i penodwyd yn Ebrill 2000 yn Brif Weithredwr y Cyfrifiad yng Nghymru pryd y bu rhaid iddo ymateb i'r brotest enfawr yn erbyn penderfyniad y Llywodraeth i beidio rhoi blwch ticio ar gyfer y Cymry ar y ffurflen.[1]
Yn 2002 aeth ymlaen i fod yn rheolwr-gyfarwyddwr cwmni cyfieithu Trosol.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 'Welsh' census controversy reignites (en) , BBC News, 24 Tachwedd 2000. Cyrchwyd ar 1 Chwefror 2016.
- ↑ Eversheds, Fairbridge De Cymru, Trosol (en) , Wales Online, 9 Hydref 2002. Cyrchwyd ar 1 Chwefror 2016.