Y Dydd (rhaglen newyddion)
Rhaglen newyddion Cymraeg oedd Y Dydd a ddarlledwyd ar deledu annibynnol rhwng 1964 ac 1982.
Hanes darlledu
golyguCychwynnodd wasanaeth TWW ar rwydwaith ITV ym mis Ionawr 1958 ac roedd yr amserlen yn cynnwys rhaglen newyddion wythnosol o'r enw Newyddion y dydd. Bwletin o ryw 5 munud oedd y rhaglen i ddechrau wedi ei ddarllen gan Eirwen Davies. Hwn oedd y rhaglen newyddion cyntaf ar deledu yn Gymraeg. Darlledwyd y rhaglen o stiwdios TWW ym Mhontcanna.
Erbyn 1960 roedd y bwletin wedi ymestyn i 20 munud.[1] Wedi methiant Teledu Cymru ar ddechrau 1964, daeth TWW yn wasanaeth i Gymru gyfan. Yn y de, roedd y trosglwyddydd yn gwasanaethu de-orllewin Lloegr a de Cymru felly roedd y rhaglenni newyddion Cymraeg a Saesneg yn plethu gyda'i gilydd.
Erbyn 1968 trosglwyddwyd masnachfraint Sianel 3 i deledu Harlech (HTV) ac ymestynwyd Y Dydd i 30 munud, wedi ei ddilyn gan raglen 10 munud o newyddion yn Saesneg.[2]
Daeth y rhaglen i ben gyda sefydlu S4C pan enillodd BBC Cymru y cytundeb i ddarparu gwasanaeth newyddion y sianel newydd. Darlledwyd y rhaglen olaf ar 29 Hydref 1982.[3]
Cynhyrchu a chyflwyno
golyguBu'r rhaglen yn feithrinfa i nifer fawr o newyddiadurwyr, cyflwynwyr a chynhyrchwyr. Bu Eirwen Davies yn gyflwynydd a gohebydd newyddion ar TWW ac HTV rhwng 1958 a chanol yr 1970au lle'r oedd yn cyd-gyflwyno gyda Vaughan Hughes, Huw Llywelyn Davies ac Elinor Jones. Daeth Gwyn Llewelyn yn ohebydd ar y rhaglen yn 1964 ac yn brif gyflwynydd rhwng 1968 ac 1976. Roedd gohebwyr eraill yn cynnwys Tweli Griffiths a Sulwyn Thomas. Gweithiodd Jenny Ogwen fel ysgrifenyddes ar y rhaglen.
Roedd Gwilym Owen yn gynhyrchydd y rhaglen yn 1970. Roedd rhai o olygyddion y rhaglen yn cynnwys Eleanor Mathias, Ioan Roberts, Owen Roberts a Deryk Williams.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Teledu yng ngwlad y gân - Newyddion y dydd tan TWW. TWW. Adalwyd ar 14 Hydref 2020.
- ↑ (Saesneg) Tonight’s Harlech Wales… in 1968. Transdiffusion Broadcasting System (30 Awst 2016). Adalwyd ar 14 Hydref 2020.
- ↑ Elain Price (2016). Nid Sianel Gyffredin Mohoni!: Hanes Sefydlu S4C. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 9781783168880
- ↑ 50 Mlynedd ers Y Dydd , BBC Cymru Fyw, 9 Medi 2014. Cyrchwyd ar 14 Hydref 2020.
Dolenni allanol
golygu- Teitlau agoriadol Y Dydd tua 1981 ar YouTube