Derllys
Un o wyth cwmwd canoloesol Cantref Gwarthaf yn ne-orllewin Cymru oedd Derllys. Yn wreiddiol yn rhan o deyrnas Dyfed, daeth yn rhan o deyrnas Deheubarth. Heddiw mae tiriogaeth y cwmwd yn gorwedd yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin.
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Teyrnas Deheubarth, Cantref Gwarthaf |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Penrhyn (cwmwd), Ystlwyf, Elfed (cwmwd) |
Cyfesurynnau | 51.8569°N 4.3164°W |
Gorweddai Derllys yn nwyrain Cantref Gwarthaf am y ffin â chantref Cydweli a rhan o gwmwd Gwidigada yn Ystrad Tywi i'r dwyrain. O fewn Cantref Gwarthaf ffiniai â chymydau Penrhyn i'r de, Ystlwyf i'r gorllewin ac Elfed i'r gogledd.
Prif ganolfan y cwmwd oedd Caerfyrddin, tref a sefydlwyd gan y Rhufeiniaid yn wreiddiol (gweler Maridunum). Dyma un o ganolfannau eglwysig pwysicaf y rhan hon o Gymru hefyd, lleoliad esgobdy Llan Deulyddog lle ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin.
Mae gan y bardd canoloesol Prydydd Breuan gerdd fawl i Faredudd o Ynys Derllys (maenor cwmwd Derllys), a leolid fymryn i'r de o dref Caerfyrddin. Cedwir yr enw yn enw Clwb Golff Derllys, ar y safle.