Maridunum
Caer Rufeinig yw Maridunum (hefyd Moridunum), ar safle presennol tref Caerfyrddin yn ne-orllewin Cymru; cyfeiriad grid SN415200.
Math | gwrthrych daearyddol, safle archaeolegol |
---|---|
Cysylltir gyda | Nidum |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.86°N 4.31°W |
Codwyd y gaer tua diwedd y ganrif gyntaf. Roedd y gaer yn dod dan reolaeth y pencadlys llengorol ar gyfer de Cymru yn Isca Silurum (Caerleon ar Wysg).
Tyfodd tref Rufeinig o gwmpas y gaer yn ystod yr 2g a'r 3edd, a gwnaethpwyd Maridunum yn brifddinas lwythol y Demetae dan y drefn Rufeinig a chanolfan weinyddol y rhanbarth. Roedd ganddi dai pren y tu mewn i'r muriau. Adeiladwyd amffitheatr tu allan i'r porth dwyreiniol. Roedd yn ganolfan fasnach ac amaeth bwysig.
Cysylltai ffordd Rufeinig Sarn Helen Faridunum a chaer Rufeinig Caerhun yng ngogledd Cymru.
Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM: CM235.[1]
Cyfeiriadau
golygu
Caerau Rhufeinig Cymru | |
---|---|
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis |