Derren Brown
Mae Derren Victor Brown (ganed 27 Chwefror 1971) yn gonsurwr, lledrithiwr seicolegol, meddyliaethwr, peintiwr a amheuwr hunan-gydnabyddedig pan mae'n dod i ffenomena goruwchnaturiol. Cafodd ei eni yn Croydon, De Llundain ac astudiodd y Gyfraith ac Almaeneg ym Mhrifysgol Bryste. Tra'n astudio yno, mynychodd sioe gan yr hypnotydd Martin Taylor a chafodd ei ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn hypnosis a lledrith. Pan oedd yn îs-raddedig, dechreuodd weithio fel consurwr, gan ddefnyddio'r sgiliau traddodiadol o hud agos-atoch. Ym 1996 dechreuodd berfformio sioeau llwyfan hypnosis ym Mhrifysgol Bryste o dan ei enw llwyfan Darren V.Brown.
Derren Brown | |
---|---|
Ganwyd | 27 Chwefror 1971 Llundain |
Man preswyl | Purley, Marylebone |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, cyflwynydd teledu, sgriptiwr, dewin, arlunydd, cynhyrchydd ffilm, actor, hypnotist, lledrithiwr |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, Laurence Olivier Award for Best Entertainment |
Gwefan | http://derrenbrown.co.uk |
Mae Brown hefyd wedi cynnal perfformiadau sy'n ymwneud â darllen meddyliau. Yn fuan ar ôl hyn, cafodd Brown ei gomisynnu i greu peilot ar gyfer ei gyfres deledu Sianel 4, Mind Control.