Darlledwr ar radio a theledu oedd Deryk Williams (Chwefror 1942 – Medi 2007). Cafodd ei eni yng Nghricieth a chael ei addysg yn Ysgol Gynradd Cricieth, Ysgol Eifionydd, Porthmadog, a Phrifysgol Rhydychen, lle graddiodd yn y gyfraith yn 1963.

Deryk Williams
Ganwyd1942 Edit this on Wikidata
Cricieth Edit this on Wikidata
Bu farw2007 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdarlledwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Am yr awdur ac athro, gweler Derec Williams

Gyrfa golygu

Ymunodd â Chwmni HTV yn 1963 fel ymchwilydd ac is-olygydd y rhaglen newyddion Y Dydd. Yn 1967 ymunodd á'r BBC fel Cyfarwyddwr Rhaglenni Nodwedd. Bu hefyd yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd Heddiw tan 1982, ac yna Newyddion Saith wedi dyfodiad S4C. Yn 1987 symudodd i fod yn Ddirprwy Gyfarwyddwyr Rhaglenni ac yna Cyfarwyddwyr Rhaglenni gyda S4C.

Fe'i penodwyd yn Ebrill 2000 yn Brif Weithredwr y Cyfrifiad yng Nghymru pryd y bu rhaid iddo ymateb i'r brotest enfawr yn erbyn penderfyniad y Llywodraeth i beidio rhoi blwch ticio ar gyfer y Cymry ar y ffurflen.[1]

Yn 2002 aeth ymlaen i fod yn rheolwr-gyfarwyddwr cwmni cyfieithu Trosol.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 'Welsh' census controversy reignites (en) , BBC News, 24 Tachwedd 2000. Cyrchwyd ar 1 Chwefror 2016.
  2. Eversheds, Fairbridge De Cymru, Trosol (en) , Wales Online, 9 Hydref 2002. Cyrchwyd ar 1 Chwefror 2016.