Mae Deryn Brace (a aned 15 Mawrth 1975) yn bêl droediwr o Gymru.

Deryn Brace
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnDeryn Paul John Brace
Dyddiad geni (1975-03-15) 15 Mawrth 1975 (49 oed)
Man geniHwlffordd, Cymru
Taldra5 tr 7 mod (1.70 m)
SafleAmddiffynnwr
Gyrfa Ieuenctid
19??–1993Norwich City
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1993–1994Norwich City F.C.0(0)
1994–2000C.P.D. Wrecsam89(2)
2000C.P.D. Llanelli2(0)
2000–2001C.P.D. Tref Caerfyrddin13(1)
2001–2006C.P.D. Sir Hwlffordd130(0)
2006–2011C.P.D. Tref Caerfyrddin44(0)
2011–2012Dinbych-y-pysgod2(0)
2012–2013C.P.D. Sir Hwlffordd4(0)
Tîm Cenedlaethol
1992Cymru dan 181(0)
1994–1997Cymru dan 218(0)
Timau a Reolwyd
2002–2006C.P.D. Sir Hwlffordd
2007–2010C.P.D. Tref Caerfyrddin
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 2 Mai 2010.
† Ymddangosiadau (Goliau).

Wedi'i eni yn Hwlffordd, dechreuodd Brace ei yrfa fel hyfforddai gyda Norwich City, gan droi'n broffesiynol ym mis Gorffennaf 1993. Gadawodd ym mis Ebrill 1994 i ymuno â Wrecsam wedi methu â gwneud y tîm cyntaf yn Carrow Road. Treuliodd chwe blynedd gyda Wrecsam, yn chwarae mewn dros 100 o gemau cynghrair, a hefyd yn chwarae yng Nghwpan Enillwyr Cwpan Ewrop ac yn rownd derfynol Cwpan yr FA. Enillodd ddeg o gapiau o dan 21 i Gymru gan ddim ond colli cap llawn trwy salwch, wedi cael pwl o niwmonia.

Fe'i rhyddhawyd gan Wrecsam ym mis Mai 2000 ac yn gynnar yn y tymor canlynol ymunodd â Llanelli. Yn ddiweddarach y tymor hwnnw symudodd i Dref Caerfyrddin ac yn ystod tymor 2001-02 gadawodd i ymuno â Sir Hwlffordd. Ym mis Mehefin 2002 fe'i penodwyd yn chwaraewr reolwr Hwlffordd, pan oedd ond 27 mlwydd, gan eu harwain i le yng Nghwpan UEFA yn ei ail dymor fel rheolwr. Mae hefyd yn gweithio'n llawn amser fel postman a bu'n rhaid iddo gamu i lawr o swydd reolwr oherwydd ymrwymiadau gwaith ym mis Hydref 2006. Arhosodd fel chwaraewr,[1][2] ond fe'i rhyddhawyd yn ddiweddarach y mis hwnnw gan y rheolwr newydd, Derek Brazil [3] ac ail ymunodd â Thref Caerfyrddin.[4] Fe'i penodwyd yn chwaraewr reolwr Caerfyrddin ym Mai 2007, lle bu am dair blynedd cyn camu i lawr ym mis Mehefin 2010.[5]

Ystadegau fel rheolwr

golygu
Tîm Gwlad o i Record
Gôl Ennill Cyfartal Colli % Ennill
C.P.D. Sir Hwlffordd   Mehefin 2002 4 Hydref 2006 168 66 50 52 39.29
C.P.D. Tref Caerfyrddin   23 Mai 2007 8 Mehefin 2010 126 46 32 48 36.51
Cyfanswm 294 112 82 100 38.1

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Brace quits County". NonLeagueDaily. 2006-10-04. Cyrchwyd 2008-12-01.
  2. "Brazil takes Haverfordwest post". BBC Sport. 2006-10-09. Cyrchwyd 2008-12-01.
  3. "Brace no longer at Haverfordwest". BBC Sport. 2006-10-25. Cyrchwyd 2008-12-01.
  4. "Brace in for Jones at Carmarthen". BBC Sport. 2007-05-23. Cyrchwyd 2008-12-01.
  5. "Old gold boss felt it was time to go". welsh-premier.com. 2010-06-08. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-06. Cyrchwyd 2010-06-08.