C.P.D. Tref Caerfyrddin
Clwb pêl-droed o dref Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, ydy Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin (Saesneg: Carmarthen Town Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru.
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) |
Yr Hen Aur Y Dref | ||
Sefydlwyd | 1950 | ||
Maes | Parc Waun Dew | ||
Cadeirydd | Jeff Thomas | ||
Rheolwr | Mark Aizlewood | ||
Cynghrair | Uwch Gynghrair Cymru | ||
2023/24 | 6. | ||
|
Ffurfwyd y clwb ym 1950[1] a maent yn chwarae ar Barc Waun Dew, maes sy'n dal uchafswm o 2,300 o dorf gyda 1,000 o seddi.
Hanes
golyguFfurfiwyd CPD Tref Caerfyrddin ym 1950[1] gyda'r clwb yn chwarae am flynyddoedd yn is-gynghreiriau Sir Gaerfyrddin a Chynghrair De Cymru. Ym 1995-96 llwyddodd y clwb i ennill Cynghrair De Cymru a sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru[2].
Llwyddodd Caerfyrddin i godi Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes yn 2007 wrth drechu Lido Afan 3-2 ar Barc Stebonheath, Llanelli.
Record yn Ewrop
golyguTymor | Cystadleuaeth | Rownd | Clwb | Cymal 1af | 2il Gymal | Dros Ddau Gymal |
---|---|---|---|---|---|---|
2001 | Tlws Intertoto UEFA | 1 | AIK Solna | 0-0 | 0-3 | 0-3 |
2005-06 | Cwpan UEFA | Rhag 1 | Longford Town | 0–2 | 5-1 | 5–3 |
Rhag 2 | FC Copenhagen | 0–2 | 0-2 | 0-4 | ||
2006 | Tlws Intertoto UEFA | 1 | Tampere United | 0-5 | 1-3 | 1-8 |
2007–08 | Cwpan UEFA | Rhag 1 | SK Brann | 0–8 | 3-6 | 3–14 |
Anrhydeddau
golygu- Cwpan Cymru
- Enillwyr: 2006-07
- Cyrraedd Rownd Derfynol: 1998-99, 2004-05
- Cwpan Cynghrair Cymru
- Enillwyr: 2004–05, 2012–13, 2013–14
- Cyrraedd Rownd Derfynol: 2003–04
Chwaraewyr nodedig
golygu- Mark Delaney 36 cap dros Gymru 1999–2006
- Rhys Griffiths - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
- Gary Lloyd - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
- Tomi Morgan - Aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Carmarthen Town History". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Football Data Archive: Welsh League South 1995-96". Unknown parameter
|published=
ignored (help)
Dolen allanol
golygu- Gwefan swyddogol CPD Tref Caerfyrddin Archifwyd 2013-08-03 yn y Peiriant Wayback
Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022 | ||
---|---|---|
Aberystwyth |
Caernarfon |
Cei Connah |
Derwyddon Cefn |
Hwlffordd |
Met Caerdydd | |